Skip to main content

Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a'r Cynllun Gweithredu

O dan y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yw'r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol ar gyfer Rhondda Cynon Taf. Mae’r ddeddfwriaeth yma'n nodi bod rhaid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ddatblygu, cynnal, defnyddio a monitro strategaeth ar gyfer rheoli perygl llifogydd lleol (Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol).

Caiff perygl llifogydd lleol ei ddiffinio fel perygl llifogydd o:

  • Ddŵr ffo ar yr wyneb
  • Dŵr daear; a
  • Cyrsiau dŵr cyffredin

Mae'r Strategaeth Leol yn nodi dull trosfwaol y Cyngor o reoli perygl llifogydd lleol yn Rhondda Cynon Taf.

Pam bod angen Strategaeth Leol?

Mae Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru (Strategaeth Genedlaethol) Llywodraeth Cymru yn nodi bod dros 245,000 o eiddo ledled Cymru mewn perygl o lifogydd o afonydd, y môr a dŵr wyneb. Wrth i'r hinsawdd newid, mae modd i ni ddisgwyl i'r risgiau hynny gynyddu, gyda glawiad amlach a dwysach, llifogydd difrifol a lefelau'r môr yn codi, mae hyn yn golygu y bydd mwy o gymunedau'n cael eu heffeithio gan lifogydd, gan gynnwys rhai nad ydyn nhw'n cael eu hystyried i fod mewn perygl ar hyn o bryd.

Mae llifogydd yn parhau i fod yn fygythiad allweddol i gymunedau ledled Rhondda Cynon Taf. Mae stormydd 2020 wedi pwysleisio'r angen i atgyfnerthu blaenoriaethau strategol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar gyfer rheoli perygl llifogydd lleol, gwella cydnerthedd ac addasu i'r hinsawdd.

Beth mae'r Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu yn ei wneud?

Mae'r Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol yn cyflwyno amcanion a mesurau'r Cyngor ar gyfer rheoli perygl llifogydd o ffynonellau lleol yn Rhondda Cynon Taf, sy'n ffurfio'r fframwaith y mae gan gymunedau fwy o lais ynddo mewn penderfyniadau rheoli perygl llifogydd lleol.

Mae'r Cynllun Gweithredu yn gynllun manwl ar gyfer rheoli perygl llifogydd lleol dros y 6 blynedd nesaf. Mae'r rhain yn cynnwys tasgau, gweithgareddau neu fentrau penodol i gyflawni'r amcanion a'r mesurau sydd wedi'u cynnwys yn y Strategaeth, er enghraifft, llunio a chyflawni Cynllun Lliniaru Llifogydd.

Beth sydd wedi newid ers y Strategaeth gyntaf?

Cyhoeddodd y Cyngor ei Strategaeth Leol gyntaf yn 2013. Ochr yn ochr â'r Strategaeth, cafodd Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd ei gyhoeddi yn 2015, fel sy'n ofynnol o dan Reoliadau Perygl Llifogydd (2009). Datblygodd y Cynllun Lliniaru Perygl Llifogydd yr amcanion a'r mesurau yn y Strategaeth yn gynllun manwl ar gyfer rheoli perygl llifogydd lleol yn Rhondda Cynon Taf.

Er bod y Cyngor wedi cyhoeddi'r Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a'r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd, mae'r Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a'r Cynllun Gweithredu diwygiedig yn integreiddio'r ddwy ddogfen yn un, fel bod modd i'r Cyngor gyfathrebu perygl llifogydd lleol mewn modd symlach a mwy effeithiol.

Mae'r Strategaeth Leol ar Gyfer Rheoli Perygl Llifogydd a'r Cynllun Gweithredu diwygiedig yn adeiladu ar y gwersi a ddysgwyd o'r Strategaeth gyntaf ac yn nodi sut y bydd llifogydd o ffynonellau lleol yn cael eu rheoli ledled Rhondda Cynon Taf, yn gyson â'r amcanion, mesurau a pholisïau a deddfwriaeth gysylltiedig a nodir yn y Strategaeth Genedlaethol.

Am ba mor hir mae'r Strategaeth yn para?

Bydd y Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a'r Cynllun Gweithredu ar waith am 6 blynedd o'r dyddiad cyhoeddi a chânt eu diweddau'n unol â diweddariadau i'r Strategaeth Genedlaethol yn y dyfodol.

Bydd y Cynllun Gweithredu Llifogydd yn cael ei adolygu a'i ddiweddaru bob 2 flynedd i adlewyrchu cyflawniad parhaus yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol yn erbyn Amcanion a Mesurau'r Strategaeth Leol.

Mae Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol ddiwygiedig y Cyngor a Chynllun Gweithredu i’w cyhoeddi yn dilyn cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau, neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi mewn perthynas â'r Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol a'r Cynllun Gweithredu neu'r dogfennau cysylltiedig, e-bostiwch y garfan rheoli perygl llifogydd ar RheoliPeryglLlifogydd@rctcbc.gov.uk neu ysgrifennu i'r cyfeiriad post canlynol.

Rheoli Perygl Llifogydd 

Y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol,
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf,
Llawr 2,
Llys Cadwyn,
Pontypridd,

CF37 4TH