Skip to main content

Fforwm Mynediad Lleol

Mynediad i'r Cefn Gwlad a Fforwm Mynediad Lleol

Mae digonedd o gefn gwlad i’w fwynhau yn Rhondda Cynon Taf  – mae tua 80% o’r fwrdeistref yn ardal wledig.

Mae modd i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd fwynhau'r golygfeydd anhygoel ac amrywiol - o’r tirweddau garw a dramatig yn sgil cloddio yng Nghwm Rhondda i fryniau gleision Taf-elái a rhostiroedd Cwm Cynon.

Fforwm Mynediad Lleol

Mae'r Cyngor wedi ailsefydlu Fforwm Mynediad Lleol (FfMLl) statudol. Mae hyn yn ofynnol yn unol â Rhan 1 Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.

Dechreuodd chweched tymor y Fforwm statudol ym mis Mawrth 2023.

Swyddogaeth y Fforwm yw cynghori'r Cyngor, Cyfoeth Naturiol Cymru a chyrff eraill wrth iddyn nhw wneud gwelliannau i fynediad cyhoeddus mewn perthynas â gweithgareddau hamdden awyr agored a theithio cynaliadwy yn y Fwrdeistref Sirol. Yn ôl y gyfraith, rhaid i'r cyrff yma ystyried cyngor perthnasol gan y Fforwm.

Mae aelodau'r Fforwm yn cael eu penodi yn unigolion yn hytrach nag yn gynrychiolwyr o unrhyw sefydliad neu grŵp o ddefnyddwyr. Wrth benodi aelodau'r Fforwm, rhaid i'r Cyngor sicrhau ei fod yn cynnwys pobl sy'n defnyddio tir mynediad lleol a pherchnogion hawliau tramwy lleol, meddianwyr tir mynediad a thir â hawliau tramwy.

Mae rheoliadau yn nodi bod rhaid i'r Fforwm gyfarfod o leiaf dwywaith y flwyddyn. Ond, rydyn ni'n rhagweld y bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn fwy aml, pan fo'n gyfleus i aelodau'r Fforwm, mewn lleoliad sy'n gyfleus.

Meysydd gwaith

Mae'r Fforwm yn trafod nifer o faterion ac yn cynghori ar welliannau i fynediad cyhoeddus mewn perthynas â gweithgareddau hamdden awyr agored a mwynhau ardaloedd y Cyngor, gan gynnwys Hawliau Tramwy Cyhoeddus, a'r hawl i ddefnyddio cefn gwlad agored a thir comin cofrestredig. Bydd y Fforwm yn trafod pob math o fynediad, gan gynnwys i bobl sy'n marchogaeth, beicio a gyrru oddi ar y ffordd, ac nid mynediad i gerddwyr yn unig. Bydd natur y gwaith yma'n cael ei bennu gan y Fforwm ar y cyd â'r Cyngor.

Yn ogystal â hynny, mae'r Fforwm yn cynorthwyo gyda gweithredu Cynllun Gwella Hawliau Tramwy Cyhoeddus Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

Adroddiadau Blynyddol

Cyflwyno cais i ymuno

Does dim llefydd gwag ar hyn o bryd.