Skip to main content

Cyflenwad Tir ar gyfer Tai

Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu bod y Cyngor, ac yntau'n Awdurdod Cynllunio Lleol, yn "sicrhau bod digon o dir ar gael mewn gwirionedd, neu y bydd digon ar gael
yn y dyfodol, i ddarparu cyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai" (Polisi Cynllunio Cymru, Argraffiad 10, Paragraff 4.2.15)

Mae adroddiadau blynyddol yn asesu'r cyflenwad tir ar gyfer adeiladu tai yn Rhondda Cynon Taf (ac eithrio Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog).

Gallwch weld Astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai Rhondda Cynon Taf  2019, dyddiedig 1 Ebrill 2019. Mae'r adroddiad yma'n dangos (ar 1 Ebrill 2019) bod gan y Cyngor ddigon o dir ar gyfer tai am 1.3 o flynyddoedd.

Adroddiadau Blaenorol

Mae'r adroddiadau ar gyfer 2008 i 2016 ar gael yn Saesneg yn unig ar gais. Anfonwch e-bost i cdll@rctcbc.gov.uk.

Gweld gwybodaeth am ddyraniadau ein Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig a'r manylion am safleodd sydd heb fod yn strategol, sydd wedi'u clustnodi ar gyfer adeiladu tai yng Nghynllun Datblygu Lleol mabwysiedig Rhondda Cynon Taf.

Fel arall, gallwch weld hafan ein Cynllun Datblygu Lleol mabwysiedig 2006 - 2021.