Skip to main content

Ymgynghoriadau Cynllunio

Bydd pob eiddo sydd ar ffiniau safle unrhyw ddatblygiad arfaethedig yn cael gwybod am y cynigion y datblygiad drwy lythyr sy'n rhoi 21 diwrnod i gyflwyno sylwadau.

Bydd angen rhoi rhybudd a/neu hysbyseb yn y wasg leol ar gyfer rhai ceisiadau. Mae'r rhain yn cynnwys ceisiadau mewn ardaloedd cadwraeth, ar adeiladau rhestredig, datblygiadau mawr, a'r rhai sy'n cynrychioli gwyro oddi wrth bolisïau'r cynllun lleol.

Mae ffeiliau'r ceisiadau cynllunio ar gael i'w harchwilio gan y cyhoedd yn y Canolfannau IBobUn yn Nhŷ Sardis, Pontypridd ac ar-lein - Chwilio'r Gofrestr.

Ar gyfer ceisiadau i'r rhai nad ydyn nhw'n ddeiliaid tai, mae rhan o'r broses yn cynnwys ymgynghori ag ymgyngoreion statudol megis Dŵr Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru  ac ati.

Ystyriaeth y Swyddog Cynllunio 

Tra bod ymgynghoriadau allanol yn cael eu cynnal, bydd y swyddog cynllunio yn ymweld â'r safle er mwyn asesu'r cynnig. Fel arfer, nid oes angen apwyntiad ar gyfer yr ymweliad os nad oes angen mynediad i'ch eiddo/i'r safle. Yn ystod yr ymweliad â'r safle, bydd y swyddog cynllunio yn nodi'r canlynol (enghreifftiol) :

  • Effaith ar adeilad presennol
  • Effaith ar olwg y stryd
  • Unrhyw ffenestri / drysau sydd ar adeiladau'r cymdogion a allai gael eu heffeithio
  • Manylion y driniaeth ffiniau
  • Effaith ar eiddo cyfagos
  • Effaith ar goed / tirwedd.

Bydd y swyddog cynllunio yn ystyried y polisïau cynllunio sy'n berthnasol yn y fwrdeistref. Mae'r manylion i'w gweld yng Nghynllun Datblygu Lleol Rhondda Cynon Taf. Os oes angen newidiadau i'r cynnig, bydd y swyddog cynllunio yn cysylltu â chi, neu eich asiant os ydych yn defnyddio un.

Rhaid i unrhyw ddiwygiadau i'r cynnig gael ei ddarparu o fewn amser penodedig. Yn yr amgylchiadau hyn efallai bydd y broses ymgynghori yn cael ei hailadrodd, sy'n caniatáu 21 diwrnod pellach i wneud sylwadau.  

Cysylltwch â Ni

Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.
Ffôn: 01443 281130 / 01443 281134 E-bost: GwasanaethauCynllunio@rhondda-cynon-taf.gov.uk