Skip to main content

Casgliadau â chymorth

Mae casgliadau â chymorth ar gyfer trigolion sy'n cael anawsterau corfforol wrth symud eu deunydd ailgylchu neu wastraff cyffredinol i'w man casglu.

Mae'r Cyngor yn gweithredu'r gwasanaeth casglu a dychwelyd yma ar gyfer casgliad â chymorth o leoliad arall. 

  • Mae modd i'r cymorth yma fod yn gymorth tymor byr neu hir dymor
  • Mae'r casgliadau yma ar gael i drigolion sydd heb gymorth gan rywun arall (e.e. teulu, ffrind neu gymydog)
  • Mae'r Cyngor yn cadw'r hawl i ddod â'r gwasanaeth yma i ben os oes ganddo reswm dros gredu bod y trigolyn ddim yn gymwys bellach. 

Bydd gofyn i drigolion wneud cais am gasgliad â chymorth, a bydd Swyddog Ymwybyddiaeth yn adolygu p'un a yw'r cais am gasgliad â chymorth, a lleoliad y man casglu amgen, yn addas. 

Bydd trigolion yn cael gwybod am ganlyniad y cais.

Gwnewch gais am gasgliad â chymorth ar-lein