Skip to main content

Newidiadau i Ddiwrnodau Casglu dros y Nadolig

Bydd eich casgliadau wythnosol ar gyfer gwastraff ailgylchu, bwyd, cewynnau a bagiau du YN NEWID dros gyfnod y Nadolig. 

Fydd gwastraff gwyrdd DDIM yn cael ei gasglu yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 25 Rhagfyr, er mwyn i ni allu defnyddio cymaint o adnoddau â phosibl i gasglu'r llwyth mawr o wastraff ailgylchu rydyn ni'n ei ddisgwyl eleni. Bydd gwasanaethau arferol yn ailddechrau ddydd Llun 15 Ionawr.

TREFNWCH AMSER i gasglu coed Nadolig go iawn 

Bydd y newidiadau'n berthnasol i BOB casgliad ailgylchu, gan gynnwys cewynnau, bwyd a bagiau ailgylchu CLIR. 

Casgliadau'r wythnos sy'n dechrau Dydd Llun 25 Rhagfyr

Bydd casgliadau a fyddai fel arfer wedi’u cynnal ddydd Llun 25 Rhagfyr yn digwydd ddydd Mercher 27 Rhagfyr, a bydd pob casgliad yn digwydd 2 ddiwrnod yn hwyrach - felly bydd casgliadau dydd Mawrth yn digwydd ddydd Iau, dydd Mercher ar y dydd Gwener, dydd Iau ar y dydd Sadwrn, a dydd Gwener ar y dydd Sul. 

Dylech chi roi'r holl wastraff a deunydd ailgylchu'r cartref (ynghyd â gwastraff bwyd a chewynnau) yn y man casglu arferol erbyn 7am ar y diwrnod casglu dros dro.

Diwrnodau Gwaith Arferol

Diwrnodau Gwaith Dros Dro

Dydd Llun 25 Rhagfyr

Dydd Mercher 27 Rhagfyr

Dydd Mawrth 26 Rhagfyr

Dydd Iau 28 Rhagfyr

Dydd Mercher 27 Rhagfyr

Dydd Gwener 29 Rhagfyr

Dydd Iau 28 Rhagfyr

Dydd Sadwrn 30 Rhagfyr

Dydd Gwener 29 Rhagfyr

Dydd Sul 31 Rhagfyr

Casgliadau'r wythnos sy’n dechrau ddydd Llun 1 Ionawr 2024 

Bydd pob casgliad yn digwydd ddiwrnod yn hwyrach - felly bydd casgliad dydd Llun yn digwydd ar y dydd Mawrth ac ati. Mae hyn yn wir ar gyfer POB casgliad ar gyfer ailgylchu, bwyd, cewynnau a bagiau du yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun, 1 Ionawr (wythnos y Flwyddyn Newydd).

Bydd rhaid gosod gwastraff a deunydd ailgylchu'r cartref (ynghyd â gwastraff bwyd a chewynnau) yn y man arferol erbyn 7am ar ddiwrnod eich casgliad..

Diwrnodau Gwaith Arferol

Diwrnodau Gwaith Dros Dro

Dydd Llun 1 Ionawr

Dydd Mawrth 2 Ionawr

Dydd Mawrth 2 Ionawr

Dydd Mercher 3 Ionawr

Dydd Mercher 3 Ionawr

Dydd Iau 4 Ionawr

Dydd Iau 4 Ionawr

Dydd Gwener 5 Ionawr

Dydd Gwener 5 Ionawr

Dydd Sadwrn 6 Ionawr

Os nad yw'ch gwastraff / eitemau ailgylchu wedi cael eu casglu yn ôl y disgwyl, gadewch yr eitemau ar ymyl y ffordd. Mae'n bosibl bod ein gweithwyr yn gweithio oriau ychwanegol er mwyn ateb y galw. Bydd ein gweithwyr yn gweithio gyda'r nos ar adegau prysur.

Bydd POB casgliad gwastraff ac ailgylchu yn dychwelyd i'r drefn arferol yr wythnos sy'n dechrau ddydd Llun 8 Ionawr 2024.

Awgrymiadau ar gyfer Casgliadau

  • Golchwch gynwysyddion bwyd a photeli diodydd yn y dŵr sy'n weddill ar ôl i chi olchi'ch llestri cyn eu rhoi nhw yn eich bagiau ailgylchu.
  • Sicrhewch fod digon o fagiau ailgylchu gyda chi cyn cyfnod y Nadolig. Mae modd casglu bagiau o'r mannau casglu ledled RhCT.
  • Cofiwch roi'r sbwriel a'r deunyddiau i'w hailgylchu allan erbyn 7am ar eich diwrnod casglu arferol, neu'r diwrnod casglu dros dro. Peidiwch â'u rhoi allan cyn hynny rhag ofn y byddan nhw'n gorlifo ac yn peri trafferthion i gerddwyr sy'n defnyddio'r palmant.
  • Rhowch yr holl bapur lapio a bagiau anrheg mewn bag clir ar wahân gan gynnwys ffoil a phapur lapio sgleiniog.
  • Trefnwch gasglu'ch coeden Nadolig go iawn ar-lein o 4 Rhagfyr.

Casgliadau Gwastraff Swmpus a Gwastraff Gwyrdd.

Fydd dim gwasanaethau casglu eitemau swmpus na chwaith gwasanaeth dosbarthu biniau ag olwynion/biniau gwastraff bwyd yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 25 Rhagfyr. Mae hyn er mwyn i ni ddefnyddio cymaint o adnoddau â phosibl i gasglu'r holl wastraff ailgylchu rydyn ni'n ei ddisgwyl eleni. Bydd gwasanaethau arferol yn ailddechrau ddydd Llun 8 Ionawr.

Bydd y gwasanaeth Casglu Gwastraff Gwyrdd y Gaeaf (gan gynnwys coed Nadolig sydd heb eu trefnu i gael eu casglu) yn cael ei ohirio am yr wythnos sy’n dechrau dydd Llun 25 Rhagfyr. Bydd Casgliadau Gwastraff Gwyrdd y Gaeaf wedi'u trefnu yn ailddechrau ddydd Llun, 15 Ionawr 2023. Bydd modd i chi fynd â'ch gwastraff gwyrdd, gan gynnwys coed Nadolig go iawn (heb fag), i'ch canolfan ailgylchu yn y gymuned leol drwy gydol cyfnod yr ŵyl.

Nodwch: Mae modd mynd â choed Nadolig artiffisial naill ai i Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned neu drefnu iddyn nhw gael eu casglu'n rhan o gasgliad Gwastraff Swmpus.

Hysbysiad Mynediad:

Gofynnwn i chi ystyried ein cerbydau casglu gwastraff a deunyddiau i'w hailgylchu wrth barcio ar y strydoedd. Sicrhewch eich bod chi'n gadael digon o le ar gyfer ein cerbydau, yn enwedig yn y strydoedd cul.