Skip to main content

Compostio yn y cartref

Mae tua 30% o gynnwys eich bin yn cynnwys darnau bwyd dros ben a gwastraff o'r ardd, sy'n ddeunyddiau organig y mae modd iddyn nhw gael eu troi'n gompost i'ch gardd.

Beth mae modd i mi ei gompostio?

Dyma ychydig o wybodaeth am yr hyn y mae modd i chi ei roi yn eich bin i wneud y compost gorau. Anelwch at gydbwysedd o 50% o ddeunydd gwyrdd a 50% o ddeunydd brown yn eich bin compost i gael y cymysgedd cywir.

'Gwyrdd'

Mae'r rhain yn pydru'n sydyn ac yn darparu nitrogen a lleithder pwysig

  • Gwrtaith anifeiliaid gyda gwellt
  • Chwyn blynyddol
  • Cwlwm y cythraul (bindweed)
  • Rhedynen
  • Coesyn sbrowts
  • Pen a choesyn moron
  • Croen ffrwyth citrws
  • Coffi
  • Dail cwmffri
  • Blodau wedi'u torri
  • Codwarth
  • Croen a phwlp ffrwyth
  • Hadau ffrwyth
  • Gwair wedi'i dorri
  • Gwair
  • Toriadau o'r clawdd
  • Planhigion tŷ
  • Dail eiddew
  • Danadl
  • Hen blanhigion gwely blodau
  • Chwyn lluosflwydd
  • Planhigion gwenwynig
  • Dail riwbob
  • Gwymon
  • Toriadau meddal a malurion planhigion
  • Dail a bagiau te
  • Wrin
  • Croen a phwlp llysiau

'Brown' 

Mae’r rhain yn pydru'n arafach, darparu carbon a ffeibr ac yn caniatau pocedi aer i ffurfio.

  • Dail yr hydref
  • Cardfwrdd
  • Coeden Nadolig
  • Leininau startsh corn
  • Tywelion cotwm
  • Gwlân cotwm
  • Bocsys Wyau
  • Plisg ŵy
  • Toriadau bytholwyrdd
  • Gwallt
  • Cyrc naturiol
  • Cnau
  • Bagiau papur
  • Gwyros
  • Gwellt
  • Cobiau India-corn
  • Toriadau pigog
  • Planhigion tomatos
  • Papur cegin wedi'i ddefnyddio
  • Cynnwys sugnwyr llwch
  • Coed onnen
  • Gwlân

Peidiwch â chynnwys y rhain!

Ni ddylid byth rhoi rhai pethau yn eich bin.

  • Esgyrn - gall atynnu plâu
  • Bara - gall atynnu plâu
  • Caniau - fyddan nhw ddim yn pydru
  • Torllwyth cath - gall gynnwys clefyd
  • Bonion sigaréts - gall cemegau gael eu rhyddhau i'r compost
  • Ffilm lapio - ni fydd yn diraddio
  • Lludw glo - gall halogion achosi difrod i blanhigion
  • Pacedi creision - ni fydd yn diraddio
  • Cynnyrch llaeth - gall atynnu plâu
  • Cewynnau tafladwy - risg iechyd
  • Ysgarthion ci - gall gynnwys clefyd
  • Bwyd ci - gall atynnu plâu
  • Cartonau diod - ni fydd yn diraddio
  • Darnau o gig a physgod - gall atynnu plâu
  • Olew olewydd - gall atynnu plâu
  • Bagiau plastig - ni fydd yn diraddio
  • Poteli plastig - ni fydd yn diraddio
  • Hances wedi'i defnyddio - gall fod yn risg iechyd 

Manteision compostio gartref

  • Mae compostio yn dargyfeirio gwastraff organig o safleoedd tirlenwi ac yn helpu i leihau cronni nwyon tŷ gwydr fel methan.
  • Mae compost yn gyfoethog mewn maetholion a gall ddarparu cyflyrydd pridd ardderchog ar gyfer eich gardd. Mae'n rhad ac am ddim ac yn wrtaith cyflawn ar gyfer pob planhigyn a llysiau. Mae'n darparu bwyd planhigion sylfaenol a chyflyrydd pridd o'r enw hwmws, sy'n gwella ffrwythlondeb a strwythur y pridd.
  • Mae modd defnyddio compost yn lle gwrteithiau a mawn niweidiol.

Prynu bin compost

Dydyn ni ddim yn cynnig gwasanaeth â chymorthdal bellach. Yn lle hynny, mae modd i chi brynu bin compost o ganolfannau garddio, siopau DIY a manwerthwyr ar-lein.