Skip to main content

Gwastraff anifeiliaid ac anifeiliaid anwes

Sut i ddelio â gwastraff eich anifeiliaid anwes

Gwastraff Anifeiliad Bychain 

Mae modd ailgylchu blawd llif sydd wedi'i ddefnyddio mewn cwt anifeiliaid bach e.e. moch cwta, cwningod, llygod. Rhowch y blawd llif yn eich sach WERDD amldro a byddwn ni'n ei chasglu yn rhan o'ch gwasanaeth casglu sachau gwyrdd wythnosol.

Cofrestrwch ar gyfer Casgliadau Ailgylchu Gwastraff Gwyrdd yma.

Cŵn

Rhaid i faw ci gael ei roi mewn bag, ei glymu, a'i roi yn eich bag du/bin ar olwynion yn barod i'r gasglu. Mae modd i chi hefyd fynd â bagiau du â gwastraff anifeiliaid i'ch Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned agosaf. 

Peidiwch â'i gompostio.

Cathod

Rhaid i faw a sbwriel cathod gael eu rhoi mewn bag, eu clymu, a'u rhoi yn eich bagiau du/bin ar olwynion yn barod i'w casglu. Mae modd i chi hefyd fynd â bagiau du â gwastraff anifeiliaid i'ch Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned agosaf

Wrth i chi baratoi'r hambwrdd sbwriel, ceisiwch ddefnyddio cyn lleied o sbwriel ag sy'n bosibl a dim ond clirio'r hyn sydd angen ei glirio.

Peidiwch â'i gompostio.

Ceffylau a merlod

Dylech chi gompostio tail mewn storfa tail sydd wedi'i hadeiladu'n gywir. Yna, mae modd iddo gael ei ddefnyddio fel gwrtaith.

Mae modd i chi ei roi i grŵp rhandir lleol os nad oes modd i chi ddefnyddio'r cyfan eich hunan.

Anifeiliaid anwes eraill

Dylech chi gael gwared ar wastraff anifeiliaid fferm yn eich bin compost.

Mae modd i chi gael gwared ar wastraff anifeiliaid fferm yn eich bagiau du neu'ch bin ar olwynion.

Dylech chi gael gwared ar wastraff anifeiliaid egsotig fel croen wedi'i rwygo, unrhyw ddillad gwely ac unrhyw faw yn eich bin compost neu fagiau du/bin ar olwynion.

Bwyd anifeiliaid anwes dros ben

Dylech chi gael gwared ar unrhyw fwyd sych i gŵn a chathod yn eich cadi gwastraff bwyd neu'ch bin compost.

Dylech chi gael gwared ar fwyd gwlyb i anifeiliaid yn eich cadi gwastraff bwyd.

Dylech chi gael gwared ar fwyd pysgod yn eich cadi gwastraff bwyd neu fin compost.

Cofrestrwch ar gyfer gwasanaeth ailgylchu gwastraff bwyd yma.