Skip to main content

Rhandiroedd - Cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd

Caiff gwastraff gwyrdd mae modd ei ailgylchu, sy'n cynnwys gwastraff o'r ardd a gwastraff anifeiliaid anwes llysieuol ei gasglu BOB WYTHNOS o ganol mis Mawrth hyd at ddechrau mis Tachwedd, ac ar ôl hynny BOB PYTHEFNOS yn ystod misoedd y gaeaf.

Bydd gwastraff gwyrdd mewn sachau gwastraff gwyrdd dim ond yn cael ei gasglu o randiroedd cofrestredig sy'n cael eu rhedeg gan gymdeithas.

Beth fydd angen i mi ei wneud?

Bydd angen i randiroedd  sy'n dymuno manteisio ar y gwasanaeth casgliadau gwyrdd gofrestru amdano.

O fewn pythefnos i gofrestru byddwch chi'n derbyn dwy sach gwastraff gwyrdd am ddim ynghyd ag unrhyw sachau ychwanegol rydych chi wedi'u prynu. 

Mae modd prynu sachau ychwanegol sy'n costio £3 yr un ar adeg cofrestru ar gyfer y gwasanaeth, neu ar ôl hynny.

Prynu Sachau Gwastraff Gwyrdd Ar-Lein

  • 1 Green Waste Sack = 2.5 clear recycling bagsFfôn:  - 01443 425001

A wyddoch chi?: Mae pob sach werdd yn dal 90 litr (45cm x 45cm x 45cm). Mae hynny'n cyfateb i ddau fag ailgylchu clir a hanner.

Yn ôl i'r brigj

Pryd bydd fy ngwastraff gwyrdd yn cael ei gasglu?

Bydd eich diwrnod casglu gwastraff gwyrdd yn dilyn trefn eich diwrnod casglu deunydd i’w ailgylchu yn ystod misoedd yr haf (Mawrth-Tachwedd) a'ch casgliadau bagiau du/biniau yn ystod misoedd y gaeaf (Tachwedd-Mawrth) - ac eithrio ein bod ni'n rhoi gwybod i chi fel arall.

Ar hyn o bryd mae'r gwasanaeth yn gweithredu yn ôl amserlen casglu bob pythefnos a bydd yn dychwelyd i gasgliadau wythnosol o 14 Mawrth 2022.

Mae modd i chi hefyd waredu gwastraff gwyrdd yn eich Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned leol

Yn ôl i'r brig

Sut i ailgylchu'ch gwastraff gwyrdd

Rhowch y gwastraff gwyrdd yn y sach gwastraff gwyrdd.  Ar eich diwrnod casglu, rhowch eich sach gwastraff gwyrdd wrth eich man casglu biniau arferol cyn 7am.

  • Rydyn ni eisiau tynnu eich sylw at y canlynol:

  • Dydych chi ddim yn cael rhoi gwastraff gwyrdd mewn bagiau ailgylchu clir a rhaid ichi ymuno â'r cynllun cyn bod modd i ni ddechrau casglu.
  • Os yw'ch sach/sachau heb eu casglu mae'n bosibl nad ydych chi wedi cael eich cofrestru a bydd angen i chi gofrestru ar y cynllun.
  • Peidiwch â gorlenwi'ch sach/sachau gwastraff gwyrdd. Os oes angen, prynwch sachau ychwanegol.
  • DIM OND gwastraff gwyrdd mae modd i chi ei roi yn eich sachau gwastraff gwyrdd – os oes unrhyw wastraff arall yn eich sachau gwastraff gwyrdd fel pridd, rwbel a phren, fyddan nhw ddim yn cael eu casglu.
  • Os fyddwch chi ddim yn rhoi unrhyw wastraff gwyrdd allan dros gyfnod o 12 casgliad yn olynol, mae'n bosib y cewch eich tynnu oddi ar y rownd gasglu a bydd angen i chi gofrestru eto. Mae hyn yn cyfeirio at gasgliadau ac nid wythnosau; mae casgliadau'n digwydd bob pythefnos yn y gaeaf a bydd egwyl dros gyfnod y Nadolig.
  • Peidiwch â defnyddio sachau mae cymdogion neu ffrindiau wedi'u rhoi i chi – fyddan nhw ddim yn cael eu casglu. Byddwn ni ond yn casglu o randiroedd sydd wedi'u cofrestru ar gyfer y cynllun.
  • Sicrhewch fod eich sachau gwastraff gwyrdd wedi'u rhoi allan i'w casglu erbyn 7am ar y diwrnod casglu ac ewch â'ch sachau gwastraff gwyrdd yn ôl i mewn ar ôl i'r gwastraff gael ei gasglu.

Yn ôl i'r brig

Beth fydda i’n cael ei roi yn y sachau gwastraff gwyrdd?

Cael gwybod beth fydda i’n cael ei roi yn y sachau gwastraff gwyrdd.

Yn ôl i'r brig

Angen rhagor o sachau?

Mae modd i randiroedd sydd wedi cofrestru brynu rhagor o sachau gwastraff gwyrdd ar-lein.

archebu rhagor o sachau gfwastraff gwyrdd

 

Yn ôl i'r brig

Rhoi gwybod am sachau sydd ar goll, neu sachau wedi'u difrodi neu wedi'u dwyn

Mae modd i randiroedd roi gwybod am sachau sydd ar goll, neu sachau wedi'u difrodi neu wedi'u dwyn trwy ddefnyddio'n ffurflen ar-lein

 

Gadael y cynllun casgliadau gwastraff gwyrdd

Mae modd i randiroedd dynnu'u henw oddi ar y rhestr ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd drwy lenwi'n ffurflen ar-lein.  Bydd ein gweithwyr yna'n cymryd eich sachau i ffwrdd ar eich diwrnod casglu gwastraff gwyrdd nesaf.  

Sylwch fod dim modd eich ad-dalu ar gyfer sachau ychwanegol a gafodd eu harchebu.

Yn ôl i'r brig

Gwastraff heb ei gasglu

O fis Tachwedd 2021, mae'n ofynnol i bob rhandir sydd angen gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd gofrestru ei fanylion.  Fydd gwastraff gwyrdd ddim yn cael ei gasglu o randiroedd sydd heb gofrestru.  Mae modd i chi gofrestru ar-lein neu ffoniwch ni ar 01443 425001.

Os ydych chi wedi cofrestru ac wedi gwirio'ch diwrnod casglu, a bod eich sachau gwastraff gwyrdd heb eu casglu cyn pen 24 awr ar ôl y diwrnod sydd wedi'i drefnu ar eich cyfer, mae modd i chi roi gwybod am hynny ar-lein 

Yn ôl i'r brig