Skip to main content

Cofrestru am gasgliadau gwastraff gwyrdd

Bydd angen i drigolion sydd angen casgliadau gwastraff gwyrdd gofrestru ar gyfer y gwasanaeth.

Cofrestru am gasgliadau gwastraff gwyrdd ar-lein

O fewn 20 diwrnod o gofrestru byddwch chi'n derbyn dwy sach gwastraff gwyrdd am ddim ynghyd ag unrhyw sachau ychwanegol rydych chi wedi'u prynu. 

1 green waste sack = 2.5 clear recycling bags

Mae modd prynu sachau ychwanegol ar gost o £3 yr un ar yr adeg cofrestru, neu ar ôl hynny

 A wyddoch chi?: Mae pob sach werdd yn dal 90 litr (45cm x 45cm x 45cm). Mae hynny'n cyfateb i ddau a hanner o fagiau ailgylchu clir.

Cyngor Craff: Mae modd plygu ochrau'r sach a rhoi un handlen y tu mewn i'r llall (fel cris-croes) i wneud i'r sachau dynnu'n agosach at ei gilydd.