Skip to main content

Cwestiynau Cyffredin

Dyma obeithio y bydd yr wybodaeth isod yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gan drigolion mewn perthynas ag ailagor Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned.

Pa eitemau mae'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn eu derbyn?

Mae rhestr lawn o'r hyn y mae Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn derbyn yn www.rctcbc.gov.uk/EitemauCanolfannauAilgylchu

Nodwch: Ar hyn o bryd dydy'r Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned DDIM yn derbyn gwastraff bagiau du, deunydd ailgylchu SYCH na gwastraff bwyd. Bydd y rhain yn cael eu casglu'n rhan o'r gwasanaeth casglu wrth ymyl y ffordd. 

A yw'r Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned yn cymryd gwastraff o’r ardd?

Ydy. Mae modd i chi fynd â gwastraff gwyrdd/o’r ardd i Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned. Cofiwch ddidoli'ch gwastraff cyn dod i'r safle er mwyn i chi allu mynd trwy'r safle'n gyflymach.

Ydych chi'n ystyried nwyddau gwyn yn eitemau swmpus o wastraff cartref?   Oes hawl gyda fi i fynd â nwyddau gwyn i'r Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned ar hyn o bryd?

Mae croeso i chi fynd â nwyddau gwyn o'ch cartref i'r safleoedd, ond gwnewch yn siŵr bod yr eitemau yma'n gallu cael eu codi'n ddiogel gan un person YN UNIG. Dydyn ni ddim yn derbyn unedau rhewgell oergelloedd masnachol. 

Sut mae cael gwared ar eitemau gwastraff swmpus fel dodrefn a nwyddau gwyn?

Mae modd cael gwared ar wastraff swmpus fel nwyddau gwyn a dodrefn mewn Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned. Os does dim modd i chi fynd ag eitem fawr i Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned, mae'r Cyngor yn cynnig gwasanaeth casglu gwastraff swmpus. Bydd angen i chi drefnu hyn ymlaen llaw a thalu am y gwasanaeth.

Mae mwy o fanylion ar gael yma www.rctcbc.gov.uk/EitemauMawr

Oes hawl gyda fi ddod â gwastraff o’r ardd a gwastraff o wneud gwaith ar y tŷ (DIY)?

Mae'r safle'n derbyn gwastraff o’r ardd, gwastraff o wneud gwaith ar y tŷ a gwastraff peryglus. Cofiwch ddidoli'ch gwastraff cyn dod i'r safle er mwyn i chi allu mynd trwy'r safle'n gyflymach.

Fydd raid i mi giwio i fynd i mewn i'r safle?

Rydyn ni'n disgwyl rhai cyfnodau prysurach yn ystod y penwythnosau a thywydd cynhesach. Yn ystod y cyfnodau yma bydd angen cyfyngu neu reoli mynediad i'r canolfannau ailgylchu a all arwain at giwiau byr.

Pan mae sgipiau'n cael eu newid, ni chaniateir mynediad i unrhyw gerbydau na cherddwyr i'r safle nes ei bod yn ddiogel gwneud hynny. Mae'n bosibl bydd hyn hefyd yn arwain at giwiau byr mewn safleoedd prysurach.

A fydd hawl gan faniau a cheir â cherbydau ôl ddefnyddio'r safle?

Mae rhagor o wybodaeth am ba fathau o gerbydau rydyn ni'n eu caniatáu mewn Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ar gael ar ein tudalen we.

A fydd gwasarn cathod/anifeiliaid yn cael ei dderbyn ar safleoedd Ailgylchu yn y Gymuned?

Bydd safleoedd yn derbyn symiau rheoledig o wasarn cathod/anifeiliaid lle mae biniau cywasgu ar gael. Dylai eitemau gael eu rhoi mewn sachau sbwriel du dwbl neu gyfwerth a'u clymu'n ddiogel. Bydd pob defnyddiwr yn cael eu herio ynghylch cynnwys yr holl fagiau gwastraff du wrth gyrraedd.

Pryd bydd y safleoedd yn agor heb gyfyngiadau Covid-19?

Mae pob safle ar agor ar hyn o bryd heb unrhyw gyfyngiadau Covid-19 ar waith. 

Mae'r HOLL Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned isod AR AGOR 7 diwrnod yr wythnos:

8.30am - 6.30pm (Dydd Llun, 1 Ebrill 2024 tan ddydd Sul, 27 Hydref 2024). 8.30am - 4.30pm (Dydd Llun, 28 Hydref 2023 tan ddydd Sul, 30 Mawrth 2025). Yn amodol ar newidiadau tymhorol.