Skip to main content

Eitemau Trydanol Bychain (Ailgylchu Gwastraff Cyfarpar Trydanol ac Electronig)

Mae cyfarpar trydanol ac electronig yn cael ei reoleiddio i leihau faint o wastraff cyfarpar trydanol ac electronig sy'n cael ei losgi neu ei anfon i safleoedd tirlenwi.

Ceir gostyngiad trwy fesurau amrywiol sy'n annog adennill, ailddefnyddio ac ailgylchu cynhyrchion a chydrannau.

Caiff unrhyw eitemau sydd â phlwg, sy'n defnyddio batris, sydd angen eu gwefru neu sydd â llun o fin ar olwynion wedi'i groesi allan arnyn nhw, eu galw'n Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff.

Ni ddylai'r eitemau yma gael eu hanfon i safleoedd tirlenwi a dylen nhw gael eu hailgylchu yng Nghanolfannau Ailgylchu yn y Gymuned yn Rhondda Cynon Taf, mewn banciau dod ag eitemau trydanol neu drwy fanwerthwyr trydanol - ewch i  recycleyourelectricals.org.uk i gael rhagor o wybodaeth.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn hwyluso'r ffyrdd mae modd i chi ailgylchu eich cyfarpar trydanol ac electronig bach (WEEE) gan fod bellach modd eu hailgylchu mewn canolfannau hamdden penodol ledled y Fwrdeistref Sirol.

Mae bellach gan y SAITH prif Ganolfan Hamdden am Oes ledled RhCT finiau i chi adael eich eitemau cyn gwneud ymarfer corff – mae'r rhaglen yma'n fuddiol i'r amgylchedd ac i'ch iechyd chi.

Dyma'r canolfannau sy'n cymryd rhan:

  • Canolfan Chwaraeon Abercynon
  • Canolfan Hamdden y Ddraenen Wen
  • Canolfan Hamdden Llantrisant 
  • Canolfan Hamdden Rhondda Fach
  • Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda
  • Canolfan Hamdden Sobell
  • Canolfan Hamdden Tonyrefail  

Bydd y canolfannau yma'n derbyn:

  • Offer ymbincio personol: sychwyr gwallt, sythwyr gwallt, brwshys dannedd trydanol ac eillwyr trydanol ac ati
  • Offer cegin bach: tegellau, tostwyr a blendwyr ac ati
  • Technoleg: radios, chwaraewyr CDau/DVDau, teganau/gemau electronig, ffonau, llechi trydanol a chamerâu
  • Lampau, tortshis, goleuadau coed Nadolig
  • Ceblau a gwifrau gwefru

Tynnwch unrhyw fatris a'u hailgylchu ar wahân yn eich manwerthwr agosaf sy'n eu derbyn neu Ganolfan Ailgylchu yn y Gymuned

Fydd y canolfannau ddim yn derbyn:

  • Unrhyw beth sy'n fwy na thostiwr pedair tafell sydd â phlwg, batri neu gebl
  • Sigarennau trydanol o unrhyw fath
  • Offer cegin mawr: platiau poeth, ffrïwyr aer, microdonnau a chrochanau araf