Skip to main content

Cyfleusterau Ailgylchu Archfarchnadoedd

Mae modd i blastigion meddal, bagiau a phecynnau lapio plastig gael eu hailgylchu yn eich archfarchnad leol.


Dim ond 6% o'r 311,000 tunnell o ddeunydd lapio plastig sy'n cael ei roi ar ein silffoedd sy'n cael ei ailgylchu.

Dyna pam mae archfarchnadoedd y DU wedi dod at ei gilydd i gasglu’r plastigau yma nad oes modd eu hailgylchu'n eang gartref.

Ailgylchwch eich bagiau a'ch deunydd lapio plastig mewn archfarchnadoedd.

Boed yn fagiau bara neu’n fagiau bwyd wedi'u rhewi, pecynnau creision neu becynnau bwyd anifeiliaid anwes, deunydd plastig sy'n dal papur toiled neu becynnau siocled – mae modd i chi ailgylchu’r rhain i gyd mewn mwy na 4000 o archfarchnadoedd erbyn hyn.

Trwy ailgylchu gyda'n gilydd, mae modd i ni wneud newid am y gorau a chael effaith gadarnhaol ar y blaned.

Awgrymiadau ar gyfer ailgylchu bagiau a deunyddiau lapio plastig:

  • Bwriwch olwg ar ein Lleolwr Ailgylchu i ddod o hyd i’ch man ailgylchu archfarchnad agosaf. Sicrhewch nad oes unrhyw fwyd yn y bagiau a'r deunydd lapio a'u bod mor lân â phosibl – bydd hyn yn golygu eu bod nhw'n yn y cyflwr gorau posibl ar gyfer ailgylchu.
  • Casglwch eich bagiau a'ch deunydd lapio plastig glân ynghyd a mynd â swmp mawr gyda chi y tro nesaf ewch i'r archfarchnad.
  • P'un a yw wedi'i gadw mewn cwpwrdd o dan y sinc neu wedi'i rhoi mewn bwndel gyda'i gilydd mewn bag wrth ymyl eich drws ffrynt - dewch o hyd i system storio sy'n gweithio i chi. Ychwanegwch nodyn atgoffa ar eich rhestr siopa i fynd â'r bwndel plastig gyda chi i'r siop.
Ie, os gwelwch yn dda!No Thanks
  • Bagiau plastig
  • Bagiau bara
  • Bagiau bwyd wedi'u rhewi
  • Bagiau nwyddau
  • Bagiau grawnfwyd
  • Deunydd plastig sy'n dal papur toiled
  • Deunydd plastig aml-pecyn
  • Bagiau salad, pasta a reis
  • Deunydd plastig caws, pysgod a chig
  • Pecynnau creision, bagiau fferins, bisgedi a siocled
  • Pecynnau bwyd babi, bwyd anifeiliaid anwes, glanedydd a glanhau
  • Caeadau plastig hyblyg
  • Compostable and biodegradable bags and wrapping

  • Cardboard packaging

  • Plastic bottles, pots, tubs and trays

  • Bubble wrap and cling film

 

Ailgylchwch eich bagiau a'ch deunyddiau plastig mewn archfarchnadoedd