Skip to main content

Gwobr Eco Ysgolion RhCT

Cynllun wedi'i greu gan y Cyngor ydy Gwobr Eco Ysgolion Rhondda Cynon Taf, sy'n integreiddio datblygiad cynaliadwy a gwelliannau i'r amgylchedd. Mae ein hysgolion yn cwblhau ystod o weithgareddau er mwyn bodloni gofynion y wobr.

Bwriad y wobr yw cefnogi ysgolion i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd, croesawu ac annog bywyd gwyllt ar safleoedd ysgolion, a chefnogi disgyblion i ddysgu sgiliau ar gyfer byw dyfodol sy'n garbon isel. Bydd ysgolion yn cefnogi Strategaeth Hinsawdd y Cyngor, 'Hinsawdd Ystyriol Rhondda Cynon Taf', wrth gymryd rhan yn y fenter yma.

Categorïau'r Wobr a Themâu

Mae Gwobr Eco Ysgolion Rhondda Cynon Taf yn cynnwys tri chategori gwahanol:

  • Bioamrywiaeth a Natur
  • Gwastraff ac Ailgylchu
  • Ynni a Lleihau Carbon

Mae meini prawf pob categori wedi'u datblygu er mwyn ymdrin â'r heriau penodol a'r cyfleoedd y mae ysgolion Rhondda Cynon Taf (gan gynnwys ardal yr ysgol a'r mathau o adeiladau) yn eu hwynebu. Bydd ennill y gwobrau’n helpu ysgolion i wneud newidiadau effeithiol, un cam ar y tro, a fydd yn cyfrannu at sicrhau bod ysgolion yn fwy gwyrdd, yn llai gwastraffus ac yn fwy ystyriol o’r amgylchedd.

Rhaid i ysgolion fodloni pob agwedd ar y meini prawf er mwyn ennill y wobr. Pan fydd ysgolion yn llwyddo i dderbyn y Wobr Efydd, bydd y wobr sy'n cael ei rhoi yn berthnasol i'r ysgol benodol. Bydd ennill y Wobr Efydd yn gam tuag at ennill y Wobr Arian a thu hwnt. Mae modd gweld meini prawf y Wobr Efydd isod:

Biodiversity-Nature-Info-FINAL
Energy-Carbon-Saving-Info-FINAL
Waste-Recycling-Info-FINAL

Dangosfyrddau Ynni

Mae dau ddangosfwrdd wedi'u creu sy'n rhoi cymorth i ysgolion fonitro a rheoli'u defnydd o ynni:

  • Dangosfwrdd ynni ar gyfer penaethiaid a staff yr ysgol sy'n galluogi staff i fonitro faint o ynni mae'r ysgol yn ei ddefnyddio. Bydd y dangosfwrdd hefyd o gymorth o ran rheoli cyllideb ynni yr ysgol.
  • Dangosfwrdd sy’n ennyn diddordeb er mwyn i ddisgyblion yr ysgol gadw golwg ar faint o ynni y mae'r ysgol yn ei ddefnyddio, a gobeithio gweld sut mae'r ysgol yn defnyddio llai o ynni wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen.

Meini prawf y wobr

Mae modd bodloni meini prawf pob gwobr (Efydd, Arian, Aur) mewn blwyddyn academaidd. Mae'r ysgolion sy'n cymryd rhan yng Ngwobr Eco Ysgolion Rhondda Cynon Taf yn ystod y flwyddyn academaidd yma yn cyflwyno'u tystiolaeth ar ddechrau'r flwyddyn ysgol nesaf, a hynny trwy gwblhau ffurflen fer ar Microsoft Forms. Mae'r cwestiynau wedi'u cynllunio fel bod modd i ysgolion gadarnhau eu bod nhw wedi bodloni'r meini prawf o dan bob categori.

Os dydy ysgolion ddim yn bodloni'r meini prawf erbyn dechrau’r flwyddyn ysgol ganlynol, yna bydd modd cyflwyno'r dystiolaeth eto'r flwyddyn ganlynol gyda'r gobaith y bydd yr ysgol yn symud ymlaen at lefel nesaf y wobr. Bydd ysgolion yn parhau bob blwyddyn hyd nes eu bod nhw’n ennill y Wobr Aur.

Bydd cyfle i Gynghorau Ysgol a Phwyllgorau Eco yr ysgolion hynny sydd wedi ennill y wobr Efydd, Arian / Aur gyflwyno gwaith y rhaglen i gynrychiolwyr y Cyngor.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni: