Beth yw ardoll Ardal Gwella Busnes?
Mae'r ardoll Ardal Gwella Busnes ar gyfer eiddo annomestig yng nghanol tref Tonypandy. Bydd yr hysbysiad galw cyntaf am Ardoll Ardal Gwella Busnes yn mynd i'r afael a'r 6 mis sy'n weddill o'r flwyddyn ariannol, 1 Hydref 2025 tan ddiwedd mis Mawrth 2026. Bydd archeb tâl flynyddol yn cael ei chyhoeddi bob mis Mawrth ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill tan fis Mawrth, tan fis Mawrth 2030. Bydd yr archeb tâl olaf ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill 2030 tan ddiwedd mis Medi 2030.
Bwriwch olwg ar sut i dalu eich biliau Ardoll Ardal Gwella Busnes
Beth yw Ardal Gwella Busnes Tonypandy?
Mae Ardal Gwella Busnes Tonypandy yn gwmni preifat, nad yw'n rhan o'r awdurdod lleol, sy'n gyfrifol am ddarparu a rheoli gwasanaethau'r Ardal Gwella Busnes ar gyfer canol tref Tonypandy. Cafodd y cwmni ei sefydlu yn dilyn pleidlais Ardal Gwella Busnes ym mis Gorffennaf 2025.
Gyda phwy rydw i'n cysylltu os ydw i am ofyn cwestiwn ynghylch yr Ardal Gwella Busnes?
Os ydy'ch cwestiwn am daliad neu'ch bil, dylech chi gysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Fodd bynnag, os mae eich ymholiad yn ymwneud â gwasanaethau'r Ardal Gwella Busnes neu unrhyw beth arall oni bai am daliadau, dylech chi gysylltu ag Ardal Gwella Busnes Tonypandy drwy e-bostio:
mandy.jenkins@themeans.co.uk neu ffonio 07803 503 972.
Beth ydy swyddogaeth y Cyngor yn yr Ardal Gwella Busnes?
Yn ôl y gyfraith, y Cyngor ydy'r awdurdod sy'n codi tâl ar ran unrhyw Ardal Gwella Busnes sy'n golygu ei fod yn gyfrifol am gasglu ardollau'r Ardal Gwella Busnes. Dyw'r Cyngor ddim yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau Ardal Gwella Busnes, oherwydd mai swyddogaeth cwmni Ardal Gwella Busnes Tonypandy Cyf yw hynny.
Pwy sy'n talu'r ardoll Ardal Gwella Busnes?
Y person neu'r sefydliad sy'n gyfrifol am dalu ardrethi annomestig yr eiddo sy'n gyfrifol am dalu'r ardoll Ardal Gwella Busnes.Os oes rhywun yn byw yn yr eiddo, yna'r deiliad sy'n gyfrifol. Pan fydd eiddo'n wag, y person neu sefydliad sydd â hawl defnyddio'r eiddo sy'n gyfrifol. Fel arfer, y lesddeiliad neu'r perchennog yw hynny.
Ydy'r Cyngor a chyrff sector cyhoeddus eraill yn talu'r ardoll Ardal Gwella Busnes?
Ydy. Rhaid i'r Cyngor a chyrff sector cyhoeddus eraill dalu'r ardoll ar eiddo yn yr Ardal Gwella Busnes y maen nhw'n gyfrifol am dalu ardrethi annomestig ar ei gyfer.
Ga i ddewis peidio â bod yn rhan o'r Ardal Gwella Busnes?
Na chewch. Yn gyfreithiol, mae talwyr cyfraddau annomestig wedi'u rhwymo i'r Ardal Gwella Busnes, yn dilyn canlyniad llwyddiannus y bleidlais.
Faint sy'n cael ei gasglu mewn ardollau Ardal Gwella Busnes?
Mae modd casglu tua £18,000 bob blwyddyn o'r ardoll.
Beth sy'n digwydd i'r arian ardoll sy'n cael ei gasglu?
Caiff arian o'r ardollau ei ddefnyddio i dalu am wasanaethau Ardal Gwella Busnes yn unig, ynghyd â chanran o gostau'r Cyngor am gasglu'r ardoll. Y Cyngor sy'n cadw'r arian cyn talu Corff yr Ardal Gwella Busnes (cwmni Ardal Gwella Busnes Tonypandy) er mwyn talu am y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan y cwmni.
Beth fydda i'n ei gael am fy arian?
Dros y flwyddyn nesaf, bydd Ardal Gwella Busnes Tonypandy yn dechrau ar y gwaith o wireddu'r addewidion sydd yn ei dogfen gynnig:
- Denu pobl i'r dref drwy raglen o achlysuron yn ogystal ag ymgyrch farchnata a hysbysebu effeithiol.
- Annog trigolion i siopa’n lleol gyda chynllun teyrngarwch.
- Gweithio gyda rhanddeiliaid eraill i fanteisio ar gyllid a rhoi rhagor o fewnbwn i fusnesau ar faterion sy'n effeithio ar ganol y dref.
- Annog busnesau newydd i agor yn Nhonypandy a dechrau masnachu'n llwyddiannus, gan roi cymorth iddyn nhw wneud hynny.
- Annog pobl leol ac ymwelwyr i grwydro canol y dref gyda chyfres o lwybrau â thema.
- Cydweithio ag atyniadau lleol er mwyn denu'r sawl sy'n ymweld â'r ardal i ganol y dref a gwella'i henw da.
- Lobïo darparwyr trafnidiaeth lleol i wella'r gwasanaethau i ganol ein tref ac allan ohoni, yn ogystal â hyrwyddo ein cynnig parcio am ddim yn well.
Dylech chi gysylltu ag Ardal Gwella Busnes Tonypandy os oes gyda chi unrhyw gwestiynau am wasanaethau'r Ardal Gwella Busnes.
Ydy'r gwasanaethau yma'n cael eu cynnig gan y Cyngor eisoes?
Nac ydyn. Rhaid i wasanaethau Ardal Gwella Busnes fod yn wasanaethau ychwanegol, sy ddim yn cael eu cynnig gan y Cyngor eisoes nac yn ehangu ar wasanaethau presennol.
Ydy'r ardoll Ardal Gwella Busnes yn cynyddu bob blwyddyn?
Bydd cynydd bob blwyddyn yn unol â chwyddiant costau'r ardoll, drwy gydol cyfnod yr Ardal Gwella Busnes.
Oes rhai i mi dalu os yw'r eiddo'n wag?
Oes. Mae'r sawl sy'n talu ardrethi ar gyfer eiddo gwag hefyd yn gyfrifol am dalu'r ardoll Ardal Gwella Busnes.
Oes modd talu mewn rhandaliadau?
Nac oes. Rhaid talu'r ardoll Ardal Gwella Busnes mewn un taliad.
Os oes wir anhawster ariannol gyda chi a does dim modd i chi dalu, cysylltwch â'r Cyngor ar unwaith ar 01443 425002. Peidiwch byth ag anwybyddu ceisiadau am daliad gan y bydd hyn dim ond yn gwaethygu'r sefyllfa.
Pleidleisiais yn erbyn yr Ardal Gwella Busnes / doeddwn i ddim yn gymwys i bleidleisio ar y pryd, felly oes rhaid i mi dalu o hyd?
Oes. Mae canlyniad y bleidlais a gafodd ei chynnal ym mis Gorffennaf 2025 yn golygu bod rhaid i holl dalwyr ardrethi annomestig yr Ardal Gwella Busnes dalu'r ardoll o 1 Hydref 2025 hyd at fis Medi 2030. Mae hyn yn cynnwys unigolion neu sefydliadau a fydd yn talu ardrethi ar ôl dyddiad y bleidlais.
Ydw i'n dod yn aelod o gwmni Ardal Gwella Busnes Tonypandy Cyf yn awtomatig?
Mae modd i unigolion o bob sefydliad oedd yn gymwys i bleidleisio ddod yn aelodau o'r cwmni. Caiff unrhyw aelod sefyll yn ymgeisydd i gael ei ethol i'r bwrdd. Mae modd i aelodau, wedi hynny, enwebu eu hunain ar gyfer cyfarwyddiaethau neu i eistedd ar un o grwpiau themâu'r cwmni. Bydd aelodau'r Bwrdd yn gosod cyfeiriad strategol yr AGB, yn llywodraethu'r AGB ac yn rheoli unrhyw staff a fydd yn cyflawni'r prosiectau ac yn darparu'r gwasanaethau sydd wedi'u nodi yn y Cynnig AGB.
Cysylltwch â ni os hoffech chi ddod yn rhan o bethau o ran y Bwrdd neu'r Grwpiau Themâu drwy ffonio Mandy Jenkins ar 07803 503972 neu e-bostio: mandy.jenkins@themeans.co.uk.
Sut galla' i dalu fy mil Ardal Gwella Busnes?
Talwch ar-lein gan ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd.
Sicrhewch fod cyfeirnod eich cyfrif Ardal Gwella Busnes wrth law. Bydd y cyfeirnod yn cynwys 8 digid ac yn dechrau gyda 7
System bancio ar-lein neu drosglwyddo drwy BACS;
Talwch: Rhondda Cynon Taf CBC
Cod didoli: 20-68-92
Rhif cyfrif: 20639427
Nodwch gyfeirnod eich cyfrif Ardal Gwella Busnes (sy'n dechrau â rhif 7) bob tro wrth dalu.
Trwy'r Post
Anfonwch sieciau, yn daladwy i CBSRhCT, i Swyddfeydd y Cyngor, Tŷ Elái, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, Tonypandy CF40 1NY. Nodwch gyfeirnod eich cyfrif Ardal Gwella Busnes ar y cefn. Mae'r cyfeirnod yn cynnwys 8 digid ac yn dechrau â 7.
Wyneb yn wyneb
Defnyddiwch y ciosg talu electronig yn un o Ganolfannau IBobUn y Cyngor – mae manylion ar gael yma: www.rctcbc.gov.uk/Cysylltu. Cofiwch fod â'ch cyfeirnod 8 digid, sy'n dechrau â rif 7, wrth law.
Dros y ffôn
I dalu gyda cherdyn debyd neu gredyd, ffoniwch y ganolfan gyswllt i gwsmeriaid, ar 01443 425002.
Cysylltwch â ni
Am ymholiadau ynglŷn â'ch bil, bwriwch olwg ar y wefan www.rctcbc.gov.uk
E-bost: refeniw@rctcbc.gov.uk
Ffôn: 01443 425002
Anfonwch lythyrau i: Tŷ Elái, Ystad Ddiwydiannol Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, Tonypandy, CF40 1NY
Ar gyfer ymholiadau am wasanaethau Ardal Gwella Busnes
E-bost: mandy.jenkins@themeans.co.uk
Ffôn: 07803 503972