Skip to main content

Ardal Gwella Busnes (BID) Caru Aberdâr

 

Beth ydy Ardoll Ardal Gwella Busnes?

Mae'r ardoll Ardal Gwella Busnes ar gyfer eiddo annomestig yng nghanol tref Aberdâr. Bydd yr hysbysiad ardoll Ardal Gwella Busnes cyntaf ar gyfer y cyfnod bilio o fis Ebrill 2020 hyd at ddiwedd mis Mawrth 2021.  Bydd hysbysiad blynyddol yn cael ei gyhoeddi mis Mawrth ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill tan fis Mawrth, tan fis Mawrth 2024. Bydd yr hysbysiad olaf ar gyfer y cyfnod o fis Ebrill 2024 tan ddiwedd mis Mawrth 2025. 

Beth yw 'Our Aberdare LTD'?

Mae Ardal Gwella Busnes cwmni Our Aberdare Ltd yn gwmni preifat, sy ddim yn rhan o'r awdurdod lleol, sy'n gyfrifol am ddarparu a rheoli gwasanaethau Ardal Gwella Busnes ar gyfer canol tref Aberdâr. Cafodd y cwmni ei sefydlu yn sgil canlyniad pleidlais Ardal Gwella Busnes ym mis Chwefror 2020.

Gyda phwy ydw i'n cysylltu am ymholiad ynghylch yr Ardal Gwella Busnes?

Os ydy'ch ymholiad am daliad neu'ch bil, cysylltwch â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Os ydy'ch ymholiad am wasanaethau'r Ardal Gwella Busnes neu unrhyw beth arall (ar wahân i dalu), cysylltwch â chwmni Our Aberdare Ltd drwy e-bost: info@ouraberdare.com neu ffoniwch 07947 373489.

Beth ydy rôl y Cyngor yn yr Ardal Gwella Busnes?

Yn ôl y gyfraith, y Cyngor ydy awdurdod codi tâl unrhyw Ardal Gwella Busnes, sy'n golygu mai'r Cyngor sy'n gyfrifol am gasglu ardollau. Dyw'r Cyngor ddim yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau Ardal Gwella Busnes, oherwydd mai swyddogaeth cwmni Our Aberdare Ltd yw hynny.

Pwy sy'n talu'r ardoll Ardal Gwella Busnes?

Y person neu sefydliad sy'n gyfrifol am dalu trethi (cyfraddau) annomestig yr eiddo sy'n gyfrifol am dalu ardoll Ardal Gwella Busnes. Os oes rhywun yn byw yn yr eiddo, yna'r deiliad sy'n gyfrifol. Pan fydd eiddo'n wag, y person neu sefydliad sydd â hawl defnyddio'r eiddo sy'n gyfrifol. Fel arfer, y rhan-ddeiliad neu'r perchennog yw hynny.

Ydy'r Cyngor a chyrff sector cyhoeddus eraill yn talu ardoll Ardal Gwella Busnes?

Bydd. Rhaid i'r Cyngor a chyrff sector cyhoeddus eraill dalu'r ardoll ar eiddo yn yr Ardal Gwella Busnes, ac mae'n debyg bod rhaid iddyn nhw dalu cyfraddau annomestig.

Ydw i'n cael dewis peidio bod yn rhan o'r Ardal Gwella Busnes?

Na chewch. Yn gyfreithiol, mae talwyr cyfraddau annomestig wedi'u rhwymo i'r Ardal Gwella Busnes, yn dilyn canlyniad llwyddiannus y bleidlais.

Beth yw swm yr ardollau Ardal Gwella Busnes sy'n cael eu casglu?

Mae modd casglu tua £78,500 bob blwyddyn o'r ardoll.

Beth sy'n digwydd i'r arian sy'n cael ei gasglu?

Caiff arian o'r ardollau dim ond ei ddefnyddio i dalu am wasanaethau Ardal Gwella Busnes a chanran o gostau'r Cyngor am gasglu'r ardoll. Y Cyngor sy'n cadw'r arian cyn talu Corff yr Ardal Gwella Busnes (cwmni Our Aberdare Ltd) er mwyn talu am y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan y cwmni.

Beth rydw i'n cael am fy arian?

Our Aberdare Ltd sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau Ardal Gwella Busnes. Bydd cwmni Ardal Gwella Busnes Our Aberdare yn buddsoddi oddeutu £392,375 gan fusnesau lleol rhwng 2020 a 2025 ar raglen gynhwysfawr o welliannau. Yn ogystal â hyn, mae cyfraniadau busnesau yn ein galluogi ni i chwilio am ragor o gyllid.

Bydd rhaglen Our Aberdare yn cynnwys pedair elfen allweddol:

  1. Edrych a Theimlo
  • Gwella'r arwyddion yn y dref ac o'i hamgylch
  • Bywiogi unedau gwag
  • Addurno'r dref
  • Ailddefnyddio gwastraff o'r tir
  1. Marchnata ac Achlysuron
  • Creu calendr o achlysuron blynyddol
  • Darparu gweithdai hyfforddi
  • Darparu gorchuddion cynfas ar gyfer achlysuron
  • Datblygu cynllun teyrngarwch
  1. Gwybodaeth a Chyfathrebu
  • Datblygu Hwb yn Aberdâr
  • Rhoi cymorth i fusnesau lwyddo
  • Bod yn lais cryf dros fusnesau
  • Denu arian ychwanegol drwy gynlluniau grant
  1. Hygyrchedd a Pharcio
  • Datblygu a hyrwyddo cynigion parcio
  • Gweithio ar wella hygyrchedd

Dylech chi gysylltu â chwmni Our Aberdare Ltd os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am wasanaethau'r Ardal Gwella Busnes.

Ydy'r gwasanaethau hyn yn cael eu cynnig gan y Cyngor yn barod?

Nac ydyn. Mae gwasanaethau Ardal Gwella Busnes yn rhai ychwanegol, sy ddim yn cael eu cynnig gan y Cyngor nac yn ehangu ar wasanaethau presennol.

Ydy'r ardoll Ardal Gwella Busnes yn cynyddu bob blwyddyn?

Bydd yn cynyddu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant costau'r ardoll, drwy gydol cyfnod yr Ardal Gwella Busnes.

Os yw'r eiddo'n wag, oes rhaid i mi dalu?

Oes. Mae talwyr cyfradd eiddo gwag hefyd yn gyfrifol am dalu ardoll Ardal Gwella Busnes.

A oes modd talu mewn rhandaliadau?

Nac oes. Rhaid talu ardoll Ardal Gwella Busnes mewn un taliad.

Os oes gennych chi wir drafferth ariannol ac rydych chi'n ei chael hi'n anodd talu, cysylltwch â'r Cyngor yn syth ar 01443 425002. Peidiwch ag anwybyddu hysbysiad talu, gan fydd hyn dim ond yn gwaethygu'r sefyllfa.

Pleidleisiais yn erbyn yr Ardal Gwella Busnes neu doeddwn i ddim yn gymwys i bleidleisio ar y pryd, oes rhaid i mi dalu?

Oes. Mae canlyniad y bleidlais a gynhaliwyd ar 27 Chwefror 2020 yn rhwymo holl dalwyr cyfradd annomestig yr ardal honno o 1 Ebrill 2020 hyd at 31 Mawrth 2025. Mae hwn yn cynnwys pobl neu sefydliadau a ddaeth yn dalwyr cyfraddau ar ôl dyddiad y bleidlais.

Ydw i'n dod yn aelod o gwmni Our Aberdare Ltd yn awtomatig?

Nac ydych. Mae Erthyglau Cymdeithasu Our Aberdare yn gofyn i fusnesau sy'n talu ardoll mewn Ardal Gwella Busnes wneud cais i fod yn aelod o'r cwmni. Gall aelodau'r cwmni bleidleisio yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol, sy wedi'i drefnu ar gyfer y flwyddyn nesaf, a dod yn rhan o Fwrdd Cyfarwyddwyr neu ymuno â grŵp thema.

Pe hoffech chi ymuno â'r Bwrdd neu grwpiau thema, anfonwch e-bost at: info@ouraberdare.com

Sut i ddod yn rhan o bethau?

Mae dwy ffordd o gymryd rhan:

  1. Ymuno â Bwrdd y Cyfarwyddwyr a dod yn rhan o waith arwain a goruchwylio cynnydd Ardal Gwella Busnes cwmni Our Aberdare.
  2. Ymaelodwch â grŵp thema sy'n cyfarfod i ganolbwyntio ar brosiectau penodol sy'n ymwneud â materion fel marchnata, diogelwch a gwella ymddangosiad a phrofiad trigolion ac ymwelwyr yn y dref.

Sut galla i dalu fy mil Ardal Gwella Busnes?

Cewch ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd
Sicrhewch fod cyfeirnod eich cyfrif Ardal Gwella Busnes wrth law. Bydd y cyfeirnod yn cynwys 8 digid ac yn dechrau gyda 7.

System bancio ar-lein neu drosglwyddo drwy BACS;

Talu - Cyfrif Cyffredinol CBS Rhondda Cynon Taf

Sort Code - 20-68-92

Rhif Cyfrif - 20639427

Nodwch eich cyfeirnod cyfrif Ardal Gwella Busnes bob tro, sy'n dechrau â rhif 7, bob tro wrth dalu. 

Trwy'r Post

Anfonwch sieciau, yn daladwy i CBSRhCT, i Swyddfeydd y Cyngor, Business Support Unit, Ty Elai, Dinas Isaf East Ind Est, Williamstown, Tonypandy, CF40 1NY.  Nodwch eich rhif cyfeirnod 8 digit, sy'n dechrau â rif 7, ar y cefn.

Wyneb yn Wyneb

Defnyddiwch flwch talu electronig yn un o Ganolfannau iBobUn y Cyngor - manylion ar gael ar ochr Gymraeg y wefan www.rctcbc.gov.uk/cysylltu - cadwch eich rhif cyfeirnod 8 digit, sy'n dechrau â rhif 7, wrth law.

Ffôn

Ffoniwch ganolfan cyswllt i gwsmeriaid ar 01443 425002, i dalu â cherdyn debyd neu gredyd.  Mae tâl ychwanegol ar gyfer cardiau credyd. 

Cysylltwch â ni

Ymholiadau ynghylch eich bil, ewch i'r wefan www.rctcbc.gov.uk - busnesau - cyfraddau busnesau - Ardal Gwella Busnes

E-bost: refeniw@rctcbc.gov.uk

Ffôn 01443 425002

Llythyron i Swyddfeydd y Cyngor,

Ty Oldway, Stryd Y Porth, Porth CF39 9ST


Ymholiadau ynghylch gwasanaethau Ardal Gwella Busnes

e-bost: info@ouraberdare.com