Anelir y rhyddhad hwn at fusnesau cymwys yn y sector lletygarwch bwyd a diod, er enghraifft tafarnau, bwytai, caffis, bariau a lleoliadau cerddoriaeth fyw. Nod y rhyddhad yw helpu'r sectorau hyn i reoli pwysau costau parhaus.
Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cyllid grant i bob un o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i ddarparu Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod i fusnesau cymwys ar gyfer 2026-27. Bydd y rhyddhad yn cynorthwyo eiddo wedi’i feddiannu sy’n gymwys, drwy gynnig disgownt o 15% ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo o'r fath.
Bydd y rhyddhad ar gael i bob busnes sy'n gymwys, ond bydd uchafswm i'r swm y caiff pob busnes ei hawlio ar draws Cymru. Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael yw £110,000 ar gyfer yr holl eiddo a feddiannir gan yr un busnes. Mae angen i bob busnes ddatgan, wrth wneud cais i awdurdodau lleol unigol, eu bod yn cadarnhau nad yw swm y rhyddhad y maent yn gwneud cais amdano ar draws Cymru yn fwy na’r uchafswm hwn.
Cynllun Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod 2026–27 – Cymhwysedd
Pa fathau o eiddo fydd yn gallu manteisio ar y rhyddhad?
Rhaid gwneud ceisiadau i’r awdurdodau lleol erbyn 31 Mawrth 2027 er mwyn i dalwyr ardrethi fod yn gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod yn 2026-27.
Yr eiddo a fydd yn elwa ar y rhyddhad hwn fydd eiddo a feddiannir ar gyfer lletygarwch bwyd a diod, er enghraifft tafarnau, bwytai, caffis, bariau a lleoliadau cerddoriaeth fyw ledled Cymru. Ceir rhagor o fanylion am y meini prawf cymhwystra a'r eithriadau i'r rhyddhad isod.
Dylai’r rhyddhad gael ei roi i bob busnes cymwys fel gostyngiad yn ei fil ardrethi ar sail meddiannaeth rhwng 1 Ebrill 2026 a 31 Mawrth 2027. At ddibenion y cynllun hwn, bydd eiddo cymwys yn golygu'r canlynol (yn amodol ar feini prawf eraill yn y canllawiau hyn).
Hereditamentau sy'n cael eu defnyddio i werthu bwyd a/neu ddiod i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â nhw, er enghraifft:
- Tafarnau
- Bwytai
- Caffis
- Bariau
- Lleoliadau cerddoriaeth fyw
Lleoliad cerddoriaeth fyw yw eiddo sy'n cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer perfformio cerddoriaeth fyw at ddibenion diddanu cynulleidfa. Yr unig weithgareddau eraill y gellir defnyddio eiddo cymwys ar eu cyfer yw rhai sy'n ategol i berfformio cerddoriaeth fyw neu'n gysylltiedig â hynny (e.e. gwerthu bwyd neu ddiod i aelodau'r gynulleidfa) neu weithgareddau nad ydynt yn effeithio ar y prif ddefnydd hwn (e.e. defnydd achlysurol o'r lleoliad fel gorsaf bleidleisio neu ddigwyddiad cymunedol).
Mae llawer o leoliadau cerddoriaeth fyw yn perthyn i ddosbarthiadau o fathau eraill o eiddo sy'n gymwys ar gyfer y rhyddhad hwn (e.e. tafarnau, bwytai a bariau). Nid yw eiddo yn lleoliad cerddoriaeth fyw at ddibenion y rhyddhad hwn os yw'n cael ei ddefnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf fel clwb nos neu theatr.
Eiddo nad yw'n cael ei ystyried yn gymwys ar gyfer Rhyddhad Ardrethi Lletygarwch Bwyd a Diod
Nid yw'r defnyddiau canlynol o hereditamentau ac amgylchiadau eraill yn cael eu hystyried yn gymwys ar gyfer y rhyddhad. Mewn rhai achosion, yr awdurdodau lleol eu hunain fydd yn penderfynu a yw hereditament yn un o'r mathau a restrir ac na fyddai'n gymwys.
Hereditamentau sydd:
- Yn dod o dan y lluosydd manwerthu
- Yn cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf i ddarparu llety byw fel busnes (e.e. gwestai, tai llety a thai byrddio, cartrefi gwyliau, a pharciau a safleoedd carafannau)
- Yn cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer gwerthu nwyddau i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â nhw (e.e. siopau, ystafelloedd arddangos, warysau manwerthu ac archfarchnadoedd)
- Yn cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer gwerthu neu ddarparu gwasanaethau i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â nhw (e.e. gwasanaethau ariannol neu broffesiynol, salonau a golchdai)
- Yn cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer cyfleusterau chwaraeon a hamdden i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â nhw (e.e. canolfannau chwaraeon, atyniadau ymwelwyr, theatrau a sinemâu)
- Yn cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf ar gyfer aelodau o'r cyhoedd sy'n ymgynnull ynddynt (e.e. tai clwb, neuaddau a sefydliadau cyhoeddus)
Hereditamentau nad ydynt yn rhesymol hygyrch i aelodau o’r cyhoedd allu ymweld â nhw
Os nad yw hereditament fel arfer yn rhesymol hygyrch i aelodau o'r cyhoedd allu ymweld â nhw, ni fydd yn gymwys i gael rhyddhad o dan y cynllun, hyd yn oed os oes defnydd atodol o'r hereditament y gellid ystyried ei fod yn dod o dan y disgrifiadau yn Pa fathau o eiddo fydd yn gallu manteisio ar y rhyddhad?
Hereditamentau nad ydynt wedi’u meddiannu
Nid yw hereditamentau nad ydynt wedi'u meddiannu yn gymwys i gael y rhyddhad hwn. Fodd bynnag, gallai eiddo o'r fath fod yn gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi Eiddo Gwag 100% am y tri mis cyntaf (ac mewn rhai achosion, chwe mis) y maent yn wag. Os bydd hereditament yn cael ei feddiannu a'i ddefnyddio at ddiben cymwys, gallai fod yn gymwys ar gyfer y rhyddhad am weddill y flwyddyn o'r dyddiad meddiannu.
Hereditamentau sy’n eiddo i awdurdod lleol neu sy’n cael eu rhentu neu eu rheoli ganddo
Nid yw hereditamentau sy’n eiddo i awdurdod lleol neu sy’n cael eu rhentu neu eu rheoli ganddo, er enghraifft bwytai mewn canolfannau ymwelwyr neu siopau coffi sy'n cael eu rhedeg gan y cyngor, yn gymwys i gael y rhyddhad.