Yn ôl disgresiwn y Cyngor, gall talwyr trethi (ardrethi) busnes gael rhyddhad caledi. Serch hynny, rhaid i unrhyw ryddhad caledi fod o fudd i drethdalwyr Rhondda Cynon Taf, gan mai nhw fydd yn talu 25% o'r gost.
Does dim modd caniatáu rhyddhad caledi ar sail sefyllfa gyffredinol yr economi neu'r farchnad. Bwriad rhyddhad caledi yw bod yn fesur tymor byr yn unig.