Bydd safleoedd busnes sydd wedi'u meddiannu'n llwyr ac sydd â gwerth ardrethol hyd at £6,000 yn cael rhyddhad o 100%, a bydd y rheini sydd â gwerth ardrethol rhwng £6,001 a £12,000 yn cael rhyddhad ar raddfa a fydd yn gostwng o 100% i sero.
Does dim rhaid i chi gyflwyno cais i'r Cyngor am ryddhad; os ydych chi'n gymwys, byddwch chi'n derbyn y rhyddhad yn awtomatig a bydd hyn yn ymddangos ar eich bil ardrethi.