Skip to main content

Grant Ehangu Busnes

Diben y grant yma yw cefnogi busnesau lleol cynaliadwy i gael eu sefydlu, i dyfu neu ddod yn fwy amrywiol gan gyfrannu at economi leol gref a lliwgar.

Pwy sy'n gymwys i wneud cais?

Rhaid i fusnesau ddiwallu'r meini prawf canlynol:

  • Gweithredu o fewn Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a chael eu hystyried yn fusnesau newydd neu gyfredol (mentrau preifat a chymdeithasol)
  • Bod yn fenter fach a chanolig llawn amser gyda llai na 250 o weithwyr
  • Bod â throsiant blynyddol o lai na €50 miliwn neu fantolen flynyddol sydd â chyfanswm o lai na €43 miliwn
  • Talu Treth y Cyngor neu Ardrethi Annomestig Cenedlaethol (gan gynnwys busnesau wedi'u heithrio) i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Am beth gaf i wneud cais?

Gwariant cyfalaf megis;

  • Offer, cyfarpar neu beiriannau cyfalaf
  • Gwaith adfywio mewnol ar gyfer eiddo masnachol
  • Mesurau effeithlonrwydd ynni/lleihau carbon
  • Datblygu gwefan newydd

Dydy costau refeniw ddim yn gymwys yn rhan o’r grant yma.

Cyfradd y grant:

Uchafswm o gyfraniad o 75% tuag at gostau prosiect cymwys (ac eithrio TAW)

Swm y grant

Mentrau wedi'u lleoli mewn

Isafswm grant

Uchafswm grant

Eiddo masnachol

£2,000

£15,000

Tai

£1,000

£2,000

Nodwch na fydd unrhyw wariant sydd wedi digwydd/yn mynd i ddigwydd cyn cymeradwyo'r grant ddim yn gymwys i dderbyn arian.

Sut mae gwneud cais?

Llenwch y ffurflen Mynegi Diddordeb  a'u dychwelyd i Adfywio@rctcbc.gov.uk neu cysylltwch â'r Tim Adfywio gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Mae modd cyflwyno ffurflen Mynegi Diddordeb yn Gymraeg. Fydd ffurflenni Cymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na ffurflenni Saesneg.

Lawrlwythwch a llenwch y ffurflen o'r ddolen isod. Bydd angen i chi gadw copi ar eich cyfrifiadur a'i anfon yn ôl atom fel atodiad gyda'ch e-bost.