Os ydych chi'n rhedeg busnes, mae'n bosibl bod dyletswydd arnoch chi i reoli asbestos yn adeilad eich busnes.
Mae Rheoliad 4 o Reoliadau Rheoli Asbestos 2012 yn rhoi dyletswydd arbennig ar unrhyw un sydd â rhwymedigaeth i gynnal a chadw eiddo annomestig. Mae'n bosibl bod y rhwymedigaeth o ran gwaith cynnal a chadw trwy denantiaeth, cytundeb rhent, prydles neu berchen ar yr adeilad dan sylw.
Y ddyletswydd arbennig yw dilyn y camau canlynol.
- Cymerwch gamau priodol i gael gwybod a oes deunyddiau sy'n cynnwys asbestos yn eich adeilad. Os felly, nodwch faint o asbestos sydd, y lleoliad a'r cyflwr. Dylech chi ragdybio bod deunyddiau yn cynnwys asbestos, oni bai bod tystiolaeth gref gyda chi i'r gwrthwyneb.
- Lluniwch gofnod o'r lleoliad a chyflwr y deunyddiau sy'n cynnwys asbestos neu ddeunyddiau sy'n cynnwys asbestos yn eich tyb chi.
- Aseswch risg pawb (e.e. cydweithwyr, cwsmeriaid, contractwyr, ymwelwyr) sydd o fewn cwmpas ffibrau'r deunyddiau.
- Paratowch gynllun sy'n nodi'n fanwl sut byddwch chi'n rheoli'r risg sy'n deillio o'r deunyddiau hyn.
- Cymerwch y camau angenrheidiol i roi'r cynllun ar waith.
- Adolygwch y cynllun a'i fonitro yn rheolaidd, yn ogystal â'r trefniadau i'w roi ar waith, fel bod y cynllun yn parhau'n berthnasol ac yn gyfredol.
- Rhowch wybodaeth am leoliad a chyflwr unrhyw rai o'r deunyddiau hyn i unrhyw un sy'n debygol o weithio arnyn nhw neu'u symud.