Skip to main content

Cymorth Materion Tai

Mae Cymorth Materion Tai yn wasanaeth cymorth am ddim sy'n ymwneud â thai yn Rhondda Cynon Taf i bobl 16 oed ac yn hŷn. Mae'r gwasanaeth yma yn helpu i atal digartrefedd trwy fagu hyder pobl a'u helpu nhw gyda'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw i fyw'n annibynnol a rheoli cartref yn llwyddiannus.

Mae Cymorth Materion Tai ar gael er mwyn i aelwydydd sy'n agored i niwed gael mynediad at lety yn y sector rhentu preifat, a’i gynnal.

Mae cymorth arbenigol o ran tenantiaethau yn galluogi aelwydydd sy’n agored i niwed i ddatblygu sgiliau byw’n annibynnol a’u helpu i ddeall y cyfrifoldebau sy’n gysylltiedig â thelerau cytundeb tenantiaeth. Gall landlordiaid elwa ar y sicrwydd ychwanegol sydd i'w gael drwy wybod bod eu tenant yn gallu cydymffurfio â thelerau eu tenantiaeth.

Sut y mae modd i landlordiaid gael mynediad at y gwasanaeth yma?

Bwriwch olwg ar ragor o fanylion am Gymorth Materion Tai sy'n cael ei gynnig gan y Cyngor

Cysylltwch â'r garfan am ragor o fanylion drwy e-bostio: CarfanGCT@rctcbc.gov.uk.