Skip to main content

Gwasanaethau Cymorth ar Faterion Tai

Cafodd y Rhaglen Cymorth i Bobl ei sefydlu yn 2003, i ariannu Gwasanaethau Cymorth ar Faterion Tai ar gyfer y rheini a oedd angen rhywle i fyw. Ym mis Ebrill 2019, cyfunodd Llywodraeth Cymru y Grant Cymorth i Bobl, y Grant Atal Digartrefedd ac elfen orfodi Rhentu Doeth Cymru er mwyn creu grant newydd sef y Grant Cymorth Tai. Mae'r Grant Cymorth Tai bellach yn ariannu Gwasanaethau Cymorth ar Faterion Tai yn Rhondda Cynon Taf.

Sut gallwn ni fod o gymorth?

Mae modd i'r Gwasanaethau Cymorth ar Faterion Tai eich helpu chi i feithrin y sgiliau sydd eu hangen i fyw'n annibynnol yn eich cymuned. Mae hynny'n golygu cael rhywle i fyw a gallu byw mewn ffordd ddiogel a hapus.

Mae modd cael cymorth gyda'ch tenantiaeth bresennol, cymorth i symud i denantiaeth newydd neu gymorth os nad oes gyda chi eich tenantiaeth eich hun. Mae hefyd yn cynnig llety â chymorth.  Mae rhagor o wybodaeth yn y daflen 'Cymorth ar Faterion Tai' yn y tudalennau perthnasol.

Mae modd i'r cymorth gynnwys:

  • Rhoi trefn ar eich cartref ac edrych ar ei ôl, gan gynnwys rheoli tenantiaeth.
  • Cyllidebu, dyled (e.e. ôl-ddyledion rhent), budd-daliadau, rheoli arian a sut i wneud y mwyaf o incwm.
  • Meithrin sgiliau byw ymarferol.
  • Gwasanaeth cyfeirio a chymorth i gysylltu ag asiantaethau eraill megis Gwasanaethau Cyffuriau/Alcohol, Meddyg Teulu, Iechyd Meddwl, ac ati.
  • Chwilio am waith, hyfforddiant, cyfleoedd gwirfoddoli neu ddod o hyd i weithgareddau yn eich ardal leol.
  • Materion tai, ôl-ddyledion, cael eich hel allan, ac ati.
  • Llenwi ffurflenni neu eu darllen nhw (e.e. llythyron a biliau).
  • Symud a chwilio am lety amgen.

Pa wasanaethau sydd ar gael?

Mae ystod o wasanaethau ar gael, ac mae modd dod o hyd iddyn nhw yn y 'Cyfeiriadur Grant Cymorth Tai' yn y tudalennau perthnasol. Yn y cyfeiriadur mae rhestr o holl Wasanaethau Cymorth ar Faterion Tai yn RhCT ynghyd â lluniau o rai o'r prosiectau.

Pwy sydd â'r hawl i dderbyn Gwasanaeth Cymorth ar Faterion Tai?

Os ydych chi'n 16 oed neu'n hŷn ac yn byw yn Rhondda Cynon Taf, mae modd i chi atgyfeirio'ch hun at y Gwasanaeth, neu mae modd i aelod o'ch teulu neu ffrind, Gweithiwr Cymdeithasol, Swyddog Gyrfaoedd neu asiantaethau eraill sy'n gweithio gyda chi eich atgyfeirio chi.

Does dim modd i'r Gwasanaeth Cymorth ar Faterion Tai gynnig y canlynol:

  • Rheoli eich arian
  • Talu eich biliau
  • Rhoi gofal personol i chi neu eich helpu i ymolchi a gwisgo (Byddwn yn eich helpu i wneud cais am wasanaethau gofal yn y cartref)
  • Gwneud gwaith tŷ, coginio i chi neu gynnal atgyweiriadau (Byddwn ni'n eich helpu chi i roi gwybod am atgyweiriadau neu wneud cais am wasanaethau gofal yn y cartref)
  • Mynd ar deithiau neu i achlysuron gyda chi
  • Dod â dadleuon rhyngoch chi a phobl eraill i ben
  • Eich cwnsela chi

Sut mae cyflwyno cais am Gymorth ar Faterion Tai?

Edrychwch ar y 'Ffurflen Atgyfeirio am Gymorth ar Faterion Tai' ar y tudalennau perthnasol.

Mae modd i chi lenwi ffurflen atgyfeirio, neu mae modd i rywun arall ei llenwi ar eich rhan.  Os ydych chi'n derbyn cymorth gan weithiwr proffesiynol arall (e.e. gweithiwr cymdeithasol neu swyddog prawf, ac ati) neu gan aelod o'r teulu, bydd modd iddo fe/iddi hi eich helpu chi i lenwi'r ffurflen yma.

Os ydych chi'n llenwi'r ffurflen ar ran rhywun arall, trafodwch y mater gyda fe/hi a gwnewch yn siŵr ei fod/ei bod yn hapus i dderbyn cymorth ac yn cydsynio.

Mae croeso i chi gysylltu â'r garfan i gael cymorth i lenwi'r ffurflen, neu os oes gyda chi unrhyw gwestiynau pellach.

Manylion Cyswllt:

Carfan Grant Cymorth Tai

Tŷ Sardis,

Heol Sardis,

Pontypridd

CF37 1DU

E-bost: CarfanGCT@rctcbc.gov.uk
Ffon: 01443 281482
Houseing Support Grant