Skip to main content
Alert Symbol
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd MELYN ac AMBR ar gyfer glaw trwm. Bydd y rhybuddion tywydd yma mewn grym heddiw, dydd Llun 15 Rhagfyr, hyd at ganol nos. Bwriwch olwg ar y cyngor yma ar sut i baratoi ar gyfer llifogydd.

Gwasanaeth Paru Tenantiaid

Mae Gwasanaeth Paru Tenantiaid Rhondda Cynon Taf yn helpu landlordiaid i ddod o hyd i ddarpar denantiaid.

Mae tenantiaid yn cael eu paru ag eiddo yn unol â'u gallu i fodloni'r rhwymedigaethau ariannol wrth dalu lefel benodol o rent. Maen nhw'n cael cymorth i sefydlu hawliadau Credyd Cynhwysol ar gyfer eu costau tai a chymorth i sefydlu'r biliau cyfleustodau.

Does dim rhaid i landlordiaid dderbyn tenantiaid sydd wedi'u henwebu gan Wasanaeth Paru Tenantiaid y Cyngor ac mae hawl gyda nhw hysbysebu a gosod yr eiddo yn breifat o hyd.

Sut mae modd i landlordiaid gael mynediad at y gwasanaeth yma?

Mae modd i landlordiaid gael mynediad at y gwasanaeth yma drwy gysylltu â'r Garfan Materion Tai yn uniongyrchol drwy ffonio neu e-bostio. 

E-bost: GosodTaiCymdeithasol@rctcbc.gov.uk 
Rhif ffôn: 01443 281490