Skip to main content

Cofrestr Diogelwch Nwy

Mae cynllun Cofrestr Diogelwch Nwy wedi disodli cynllun cofrestru CORGI ym Mhrydain ac yn Ynys Manaw.

Y Gofrestr Diogelwch Nwy yw'r dilysnod newydd ar gyfer diogelwch nwy ym Mhrydain Fawr.  Ar 1 Ebrill 2009, disodlodd y Gofrestr Diogelwch Nwy gofrestr nwy CORGI fel y corff swyddogol ar gyfer diogelwch nwy. Felly, o 1 Ebrill 2009, yn ôl y gyfraith, dim ond peirianyddion sydd ar y Gofrestr Diogelwch Nwy ddylai gyflawni gwaith ar offer a gosodiadau nwy yn eich cartref. Dim ond un gofrestr diogelwch nwy sydd angen i chi'i defnyddio.  Chwiliwch am driongl melyn y Gofrestr Diogelwch Nwy ac nid bathodyn oren CORGI. Mae rhaid i unrhyw un sy’n cyflawni gwaith gyda nwy fod ar y Gofrestr Diogelwch Nwy.  Os nad ydyn nhw ar y Gofrestr, mae'r person hwnnw yn torri'r gyfraith ac yn eich peryglu chi a'ch teulu. Dim ond peiriannydd cofrestredig sydd â hawl gyfreithlon i osod teclynnau nwy, boeler, hob nwy, ffwrn, tân nwy ac ati yn eich cartref neu yn y gweithle.

Dim ond peiriannydd Diogelwch Nwy cofrestredig y dylech chi ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw fath o waith nwy gan gynnwys gosod, cynnal a chadw. 

Pwy sy'n rheoli'r Gofrestr Diogelwch Nwy?

Mae'r Gofrestr Diogelwch Nwy yn cael ei rheoli gan Capita Gas Registration and Ancillary Services Limited, sef isadran o Capita Group Plc. Y Gofrestr Diogelwch Nwy yw corff cofrestru nwy swyddogol Prydain ac Ynys Manaw, sydd wedi’i benodi gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ar gyfer Prydain a'r Arolygaeth Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle (HSWI) ar gyfer Ynys Manaw.

Beth am CORGI?

Daeth cynllun cofrestru nwy CORGI ym Mhrydain Fawr ac Ynys Manaw i ben ar 31 Mawrth 2009. Bellach, dydy'r cynllun yma ddim yn cael ei gydnabod yn gynllun cofrestru ar gyfer diogelwch nwy.  Gwnewch yn siŵr bod eich peiriannydd nwy yn beiriannydd cofrestredig Diogelwch Nwy. Dylech chi hefyd ofyn am gael gweld cerdyn adnabod Diogelwch Nwy eich peiriannydd.

Gweld rhagor o wybodaeth ar wefan y Gofrestr Diogelwch Nwy.