Rhaid i chi wneud cais am drwydded Tŷ Amlfeddiannaeth ar-lein.
Pwy ddylai gyflwyno'r cais am Drwydded Tai Amlfeddiannaeth?
Dylai perchennog yr eiddo wneud cais am y drwydded.
Beth fydd y Cyngor yn ei asesu yn rhan o'r cais?
Bydd broses drwyddedu Tai Amlfeddiannaeth yn cynnwys edrych ar y Tŷ Amlfeddiannaeth ei hun, y perchennog ac unrhyw reolwyr arfaethedig.
Bydd yr Awdurdod yn cyflwyno trwydded os yw'n fodlon:
- Bod yTŷ Amlfeddiannaeth yn rhesymol addas ar gyfer nifer y bobl sy'n byw yno yn unol ag amodau'r drwydded
- Bod y deiliad trwydded arfaethedig yn "berson addas a phriodol"
- Mai’r deiliad trwydded arfaethedig yw'r person mwyaf addas i ddal y drwydded
- Bod y rheolwr arfaethedig (os oes un) yn "berson addas a phriodol"
- Bod y trefniadau ar gyfer rheoli'r eiddo yn foddhaol
- Bod y person sydd ynghlwm â gwaith rheoli'r Tŷ Amlfeddiannaeth yn berson cymwys
- Bod strwythur ariannol ar gyfer rheoli a chynnal yr eiddo yn addas
Beth fydd angen arna i cyn gwneud cais am Drwydded Tai Amlfeddiannaeth?
Cyn i chi wneud eich cais ar-lein, casglwch y dystiolaeth ganlynol:
- Rhestr o'r holl bartïon â diddordeb (enwau, cyfeiriadau, disgrifiad o'u diddordeb nhw yn yr eiddo/cais a'r dyddiad cyflwyno). Bydd angen i chi roi gwybod i'r bobl yma am y cais.
- Cytundeb tenantiaeth / datganiad o delerau meddiannaeth ysgrifenedig
- Cynllun llawr. Does dim angen i'r cynllun yma fod i raddfa, ond dylai nodi defnydd pob ystafell a phresenoldeb offer rhagofalon tân. Mae modd i chi dynnu llun o hyn â llaw, ond bydd angen i chi lwytho'r llun yma i gyd-fynd â'ch cais.
- Tystysgrif diogelwch nwy gyfredol y landlord (os yw'n berthnasol)
- Adroddiad Cyflwr Gosodiadau Trydanol (dydy cyflwyno tystysgrifau â chod nam 1 neu nam 2 ddim yn dderbyniol.)
- Adroddiad gosod/archwilio a gwasanaethu'r larwm tân
- Tystysgrif archwilio a phrofi goleuadau argyfwng (os yw'n berthnasol)
Bydd angen cerdyn credyd neu ddebyd er mwyn talu ar-lein ar gyfer eich cais.
GWIRIO A YW EICH EIDDO YN DŶ AMLFEDDIANNAETH A GWNEUD CAIS AR-LEIN
Gwneud Cais am Drwydded Tai Amlfeddiannaeth ar-lein