Skip to main content

Gwneud cais am waharddiad dros dro ar gyfer eich Trwydded Tai Amlfeddiannaeth

Beth yw Hysbysiad Gwahardd Dros Dro?

Mae'r Hysbysiad Gwahardd Dros Dro yn eithrio'r eiddo rhag gofynion y drwydded am 3 mis o'r dyddiad cyflwyno.

Mae modd i'r Awdurdod Lleol gyflwyno ail Hysbysiad Gwahardd Dros Dro a fydd yn berthnasol o ddyddiad dod i ben yr Hysbysiad cyntaf.  Rhaid i chi wneud cais am yr ail Hysbysiad ar-lein hefyd.  Rhaid i'r Awdurdod ystyried bod amgylchiadau eithriadol sy'n cyfiawnhau ail Hysbysiad.

Pryd dylwn i wneud cais am waharddiad dros dro ar gyfer fy Nhrwydded Tai Amlfeddiannaeth?

Mae modd i chi wneud cais am waharddiad dros dro ar gyfer eich trwydded Tai Amlfeddiannaeth os ydych chi'n penderfynu:

  • Lleihau nifer y meddiannwyr i nifer llai na sydd wedi'i gynnwys yng ngofynion y drwydded
  • Cael gwared ar bob tenant i ddychwelyd yn aelwyd sengl
  • Gwerthu'r eiddo gyda meddiant gwag

Pwy ddylai wneud cais am Hysbysiad Gwahardd Dros Dro?

Dim ond y deiliad trwydded cyfredol sydd â'r hawl i wneud cais am Hysbysiad Gwahardd Dros Dro.

Beth fydd angen arna i cyn i fi wneud cais am Hysbysiad Gwahardd Dros Dro?

Cyn i chi wneud cais am Hysbysiad Gwahardd Dros Dro (TEN), casglwch y dystiolaeth ganlynol:

  • Rhaid i'r perchennog a'r rheolwr gytuno i'r Hysbysiad Gwahardd Dros Dro.  Mae angen llythyr wedi'i lofnodi os nad yw'r ymgeisydd yn cyflawni rôl y perchennog a'r rheolwr. 
  • Bydd angen dogfennau ategol er mwyn profi bod y broses o droi allan wedi cychwyn a/neu gopïau o ddogfennau gwerthu ac ati

Does dim ffi ar gyfer gwneud cais am Hysbysiad Gwahardd Dros Dro.

Gwneud cais am Hysbysiad Eithrio Dros Dro

Gwneud cais am Hysbysiad Eithrio Dros Dro