Skip to main content

Beth yw Tŷ Amlfeddiannaeth (HMO)?

Eiddo sydd wedi cael ei rentu gan o leiaf 3 pherson sydd ddim o 1 'aelwyd' ond sy'n rhannu cyfleusterau fel yr ystafell ymolchi a'r gegin. O bryd i'w gilydd, caiff hyn ei alw'n 'dŷ sy'n cael ei rannu'.

Bydd eich eiddo'n cael ei ddiffinio fel Tŷ Amlfeddiannaeth os:

  • mae 3 neu ragor o bobl yn rhentu'r eiddo ac mae'n ffurfio mwy nag 1 aelwyd

  • yw tenantiaid yn rhannu tŷ bach, ystafell ymolchi neu gyfleusterau cegin

Caiff tenantiaid eu hystyried fel Aelwyd os ydyn nhw'n:

  • Cwpl sy'n cyd-fyw
  • Perthynas trwy waed neu deulu maeth
  • Cynhalwyr neu'n staff domestig

Fflatiau

Does dim angen trwydded Tai Amlfeddiannaeth ar fflatiau pwrpasol, fodd bynnag, bydd adeiladau sydd wedi'u haddasu'n fflatiau hunangynhwysol yn cael eu diffinio fel Tai Amlfeddiannaeth os ydyn nhw'n bodloni pob un o'r meini prawf canlynol:

  • doedd yr addasiad ddim yn bodloni Rheoliadau Adeiladu 1991
  • mae mwy nag un traean o'r fflatiau sy'n cael eu rhentu'n denantiaethau tymor byr / llai na dau draean o'r fflatiau yn cael eu meddiannu gan y perchennog
  • mae o leiaf 2 berson yn byw yn yr adeilad

I wirio a yw eich eiddo angen trwydded Tai Amlfeddiannaeth, darllenwch dudalen gwneud cais am drwydded Tai Amlfeddiannaeth a defnyddio’r teclyn gwirio cymhwysedd.

Cadw'ch Trwydded Tai Amlfeddiannaeth

Rhaid i chi:

  • gyflwyno tystysgrif diogelwch nwy ddiweddar i'r Cyngor bob blwyddyn
  • gosod a chynnal larymau mwg
  • darparu tystysgrifau diogelwch ar gyfer yr holl ddyfeisiau trydanol ar gais

Mae'n bosibl y byddwn ni'n ychwanegu amodau eraill at eich trwydded, e.e. gwella safon eich cyfleusterau. Byddwn ni'n rhoi gwybod i chi ar ôl i chi wneud cais.

Caniatâd Cynllunio

Os nad oes gan yr eiddo ganiatâd cynllunio ar hyn o bryd i weithredu fel Tŷ Amlfeddiannaeth, mae gofyniad cyfreithiol arnoch chi i chi wneud cais am ganiatâd cynllunio os yw unrhyw un o'r pwyntiau isod yn berthnasol:

  • Os bydd y defnydd eiddo yn newid o aelwyd sengl i fod yn Dŷ Amlfeddiannaeth, a bydd rhwng 3 a 6 o unigolion yn byw ynddi (hyd yn oed os mae wedi gweithredu fel Tŷ Amlfeddiannaeth yn y gorffennol)
  • Os bydd 7 neu ragor o bobl yn byw yn yr eiddo

Mae caniatâd cynllunio yn gweithredu'n annibynnol i drwydded Tai Amlfeddiannaeth. Dydy sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth ddim yn gwarantu y bydd trwydded ar gyfer tŷ amlfeddiannaeth yn cael ei chaniatáu. Yn yr un modd, dydy trwydded amlfeddiannaeth ddim yn sicrhau y bydd Caniatâd Cynllunio yn cael ei roi. 

I gael rhagor o wybodaeth neu gyngor ynghylch y gofyniad yma, cysylltwch â'r Gwasanaethau Cynllunio :

Proses apelio

Mae modd i unrhyw ymgeisydd y mae'i gais yn cael ei wrthod, neu sy'n dymuno apelio yn erbyn yr amodau sydd yn rhan o'i drwydded, wneud apêl i Dribiwnlys Eiddo Preswyl Cymru.  Fodd bynnag, cysylltwch â ni yn yr achos gyntaf.

Ffioedd a dirwyon

Mae modd i chi dderbyn dirwy o hyd at £20,000 os ydych chi'n gosod eiddo heb drwydded Tai Amlfeddiannaeth ar rent.

Carfan Safonau Tai

Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a'r Gymuned

Ffôn: 01443 425 001