Skip to main content

Cynllun Achredu Eiddo Trefforest

Bydd y cynllun yn weithredol o fis Tachwedd 2016

Mae'r Cynllun Achredu Eiddo wedi cael ei gyflwyno gyda'r bwriad o godi ansawdd, amwynder a rheolaeth y Stoc Tai i'w Rhentu'n Breifat yn ardal Trefforest yn Rhondda Cynon Taf. Nod arall y cynllun bydd codi proffil landlordiaid da a chydnabod eu bod yn rheoli i safon uchel.

Mae'r Cynllun Achredu Eiddo ar gael i landlordiaid ac asiantau gosod sy'n gallu cymryd rhan yn wirfoddol ac yn ddi-dâl. Bydd eiddo'n cael ei asesu yn unol â'r safonau y cytunwyd arnyn nhw. Bydd yr wybodaeth ar gael i ddarpar denantiaid sy'n chwilio am lety i'w rentu yn ardal Trefforest.   

Rhestr eiddo achrededig

Safonau

Bydd eiddo yn cael ei asesu yn eiddo sy'n darparu safonau ansawdd ac arfer rheoli tai a gytunwyd arnyn nhw yn ôl ac yn dibynnu ar yr ansawdd a'r amwynder y maen nhw'n eu darparu. Bydd 4 lefel achrediad i adlewyrchu ansawdd yr eiddo a'i gydymffurfiad â gofynion deddfwriaethol, ynghyd â chymhwyso prosiectau rheoli tai a gweinyddol.

Bydd landlordiaid yn derbyn cymorth yn ystod y broses hunanasesu ac yn cael gwybodaeth berthnasol megis Iechyd a Diogelwch Tai 2004 ac arferion da yn y Sector Rhentu Preifat yng Nghymru.

Manteision

Mae gan y Cynllun Achredu Eiddo gefnogaeth gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, Prifysgol De Cymru a chyrff cynrychioliadol o'r Sector Rhentu Preifat, Heddlu De Cymru a'r Gwasanaeth Tân. Y prif fudd i landlordiaid fydd cydnabyddiaeth o ansawdd eu heiddo a'r rheolaeth tai y maen nhw'n ei darparu, wrth ddenu tenantiaid a chystadlu mewn marchnad rentu gystadleuol iawn.

 Proses Gweithredu'r Cynllun Achredu Tai 

Mae modd i landlordiaid lawrlwytho gwybodaeth am y Cynllun Achredu Tai a phecyn cais. Mae'r pecyn yn egluro proses yr asesiad ynghyd ag agweddau arfer da a'r gofynion deddfwriaethol sy'n gysylltiedig â'r

Fel arall, mae modd cwblhau'r asesiad ar-lein yma.

Mae modd i landlordiaid hunan asesu eu heiddo a'u paru ag un o'r pedwar safon osod. Os bydd eiddo yn cwrdd â lefelau sylfaenol a chanolradd y Cynllun Achredu Eiddo, bydd angen i'r landlord gwblhau'r asesiad a'i ddychwelyd i adrannau Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd neu Strategaeth Dai y Cyngor er mwyn iddyn nhw ei weinyddu.

Pan fydd eiddo'n cydymffurfio â'r safon uchaf, bydd yn ofynnol ategu'r asesiad drwy archwiliad gan y garfan Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd cyn bydd y cofrestriad llawn yn cael ei gwblhau.

Gofalwch fod y dogfennau canlynol ar gael i'w gweld yn ystod yr archwiliad.

  • Tystysgrifau Diogelwch Nwy (pob eiddo)
  • Tystysgrifau Perfformiad Ynni (eiddo heb drwydded HMO)
  • Tystysgrifau Diogelwch Trydanol (eiddo â thrwydded HMO)
  • Tystysgrifau System Canfod Tân (eiddo â thrwydded HMO)

Bydd manylion yr eiddo achrededig yn cael ei hysbysebu drwy wefan benodol y Cyngor am gyfnod o 2 mlynedd. Ar ôl hynny bydd angen asesiad a chadarnhad safon newydd.

Cynnal y Safon

Bydd sicrhau credadwyaeth Cynllun Achredu Eiddo RhCT yn elfen allweddol o sut y mae'r prosesau asesu a chofrestru yn cael eu gweinyddu.

Carfan Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd y Cyngor fydd yn archwilio pob eiddo 4 a 5 seren achrededig cyn cofrestru neu ardystio; bydd rhai eiddo 2 a 3 seren achrededig yn cael eu harchwilio'n flynyddol er mwyn sicrhau bod y safonau'n cael eu cynnal.              

Bydd y safonau yn cael eu hadolygu i gydymffurfio â newidiadau mewn deddfwriaeth ac arfer da yn y Sector Rhentu Preifat.

Bydd unrhyw Eiddo Achrededig sy'n torri'r safonau, i'r fath raddau y bydden nhw'n cyflwyno risg o niwed i'r tenant, yn cael eu tynnu oddi ar restr eiddo cofrestredig Cynllun Achredu Eiddo RhCT. Fydd eiddo o'r fath ddim yn gymwys i ailymgeisio nes bod y peryglon wedi'u hunioni a nes bod arolygiad llawn wedi'i gynnal er mwyn cadarnhau cydymffurfiaeth.

Bydd pob eiddo Achrededig yn derbyn Tystysgrif Achrediad a chyfeirnod y gellir eu harddangos yn yr eiddo neu yn y swyddfa, yn ogystal ag ar hysbysebion sy'n ymwneud â rhentu'r eiddo.      

Bydd darpar denantiaid yn gallu cael mynediad i wefan Cynllun Achredu Eiddo RhCT a chadarnhau a yw eiddo penodol ar y rhestr ac i ba safon y mae wedi cael ei asesu neu i roi gwybod bod y safon a roddir wedi'i thorri.  

Aelod

Ardystiwyd gan:

 "Mae’r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl yn cefnogi RhCT a’i ymdrech wirfoddol i wella safonau Tai Amlbreswyliaeth (HMOs). Yn gymhelliant ychwanegol i’r cynllun, bydd y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl yn cynnig gostyngiad o 25% oddi ar bris aelodaeth blwyddyn i landlordiaid sydd wedi cyflawni sgôr 5 seren. Rhaid i eiddo gael eu gwirio gan RhCT cyn caniatáu’r gostyngiad."  Ewch i wefan y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl i gael rhagor o wybodaeth.

 I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Ffôn: 01443 281136
E-bost: CynllunAchreduTai@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf hefyd yn ceisio cefnogi landlordiaid drwy fforwm landlordiaid, am ragor o wybodaeth ewch i'n tudalen we www.rctcbc.gov.uk/fforwmlandlordiaid