Mae rhaid i unrhyw berson sydd â safle bridio cŵn gael trwydded dan Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014.
Daeth Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 i rym ar 30 Ebrill 2015. Mae'r rheoliadau newydd yn datgan bod angen i berson wneud cais am drwydded os yw’n cadw o leiaf 3 gast sy'n bridio ac sy'n bridio o leiaf 3 torllwyth y flwyddyn. Neu’n berson sy'n hysbysebu o leiaf 3 torllwyth y flwyddyn NEU'n darparu cŵn bach o 3 torllwyth neu fwy NEU’n hysbysebu busnes bridio neu werthu cŵn bach.
Bydd angen i'r ymgeisydd gwblhau rhaglen Gwella a Chyfoethogi ysgrifenedig a Rhaglen Cymdeithasoli yn ogystal ag adroddiadau gan filfeddyg yr ymgeisydd. Bydd yr adroddiadau yma'n datgan bod y gast sy'n bridio a'r ci magu yn ddigon iach i'w defnyddio mewn safle magu cyn i'r archwiliad trwyddedu gael ei gynnal.
Bydd y Cyngor yn archwilio'r adeilad cyn cymeradwyo'r drwydded er mwyn sicrhau:
- Bydd y cŵn yn cael eu cadw mewn llety addas ar bob adeg. Bydd rhaid bod y llety'n addas o ran adeiladwaith, maint, nifer y cŵn sy'n cael eu cadw yno, cyfleusterau ar gyfer ymarfer corff, tymheredd, goleuo, awyru a glendid;
- Bydd digon o fwyd, diod a deunydd gwely addas yn cael eu darparu ar gyfer y cŵn; bydd y cŵn yn cael ymarfer eu cyrff yn ddigonol; a bydd rhywun yn ymweld â'r cŵn ar adegau addas;
- Bydd pob rhagofal rhesymol yn cael ei gymryd i rwystro a rheoli ymlediad clefydau heintus neu gyffwrdd-ymledol ymhlith y cŵn, gan gynnwys darparu cyfleusterau ynysu;
- Bydd camau priodol yn cael eu cymryd i sicrhau diogelwch yr anifeiliaid os bydd tân neu argyfwng arall;
- Bydd pob cam priodol yn cael ei gymryd i sicrhau bod bwyd, diod a deunydd gwely addas yn cael eu darparu ar gyfer y cŵn, a bod y cŵn yn cael ymarfer eu cyrff yn ddigonol;
- Na fydd geist yn cael eu defnyddio os ydyn nhw'n llai nag un flwydd oed;
- Na fydd geist yn rhoi genedigaeth i fwy na chwe thorllwyth o gŵn bach yr un;
- Na fydd geist yn rhoi genedigaeth i fwy o gŵn cyn diwedd cyfnod o ddeuddeg mis ar ôl rhoi genedigaeth; a
- Bod cofnodion manwl mewn dull rhadnodedgig yn cael eu cadw ar y safle;
- Bod y safle yn cydymffurfio â rheoliadau ynglyn â'r nifer o staff sy'n bresennol;
Os bydd trwydded yn cael ei chymeradwyo, bydd y trwydded honno ac unrhyw drwyddedau dilynol dod i ben ar ben-blwydd y drwydded honno.
Mae amodau safonol ynghlwm wrth bob trwydded. Mae'r amodau hyn yn cael eu gosod ar bob sefydliad bridio cŵn sy'n cael ei drwyddedu gan y Cyngor.
Os bydd unigolyn yn anfodlon ar gais am drwydded sydd wedi ei wrthod, neu'n anfodlon ar unrhyw un o'r amodau sydd ynghlwm wrth y drwydded, bydd hawl ganddo i apelio i Lys yr Ynadon.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y dolenni isod:-
Sut mae gwneud cais
Mae modd cael ffurflen gais drwy gysylltu â ni neu edrychwch ar y ffurflen gais isod:
Carfan Trwyddedu
Tŷ Elái,
Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY
Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301
Rhaid talu ffi i wneud cais. Mae'r ffi yn daladwy wrth gyflwyno'r cais. £126.00 yw’r ffi ar hyn o bryd.