Bydd angen trwydded arnoch chi gan yr Awdurdod Lleol i gynnal llety cŵn neu lety cathod. Bydd nifer y lleoedd sydd ar gael i gŵn a chathod i'w gweld ar y drwydded, ynghyd ag amodau penodol eraill.
Fydd dim modd i neb gynnal sefydliad llety i anifeiliaid heb gael trwydded gan ei Awdurdod Lleol yn gyntaf.
Gall Awdurdod Lleol roi awdurdod i swyddog neu filfeddyg arolygu safleoedd trwyddedig.
Crynodeb o'r rheoliadau
Bydd rhaid cyflwyno cais am drwydded i'r Awdurdod Lleol. Bydd modd rhoi trwydded os fydd yr ymgeisydd ddim wedi'i wahardd o dan unrhyw un o'r Deddfau canlynol:
Meini prawf
Bydd y meini prawf isod yn cael eu hystyried wrth werthuso pob cais:
- Bydd yr anifeiliaid yn cael eu cadw mewn llety addas ar bob adeg. Mae llety addas yn golygu ystyried adeiladwaith a maint y llety, nifer yr anifeiliaid fydd yn cael eu cadw yn y llety, cyfleusterau ar gyfer ymarfer corff, glendid a thymheredd, goleuo ac awyru.
- Bydd bwyd, diod a deunydd gwely addas yn cael eu darparu; bydd yr anifeiliaid yn cael ymarfer eu cyrff yn rheolaidd; a bydd rhywun yn ymweld â'r anifeiliaid yn rheolaidd.
- Bydd camau'n cael eu cymryd i rwystro a rheoli ymlediad clefydau ymhlith yr anifeiliaid, a bydd cyfleusterau ynysu yn eu lle.
- Bydd mesurau priodol ar waith i ddiogelu'r anifeiliaid os bydd tân neu argyfwng arall.
- Bydd cofrestr yn cael ei chadw. Dylai'r gofrestr gynnwys: disgrifiad o unrhyw anifail bydd y sefydliad yn ei dderbyn; dyddiadau cyrraedd a gadael; ac enw a chyfeiriad y perchennog. Dylai'r gofrestr fod ar gael i'w harchwilio ar unrhyw adeg gan un o swyddogion yr Awdurdod Lleol neu filfeddyg.
Y broses cyflwyno cais
Mae ffurflenni cais ar gael trwy gysylltu â ni neu drwy lenwi cais ar-lein gan ddefnyddio'r manylion isod.
Er budd y cyhoedd, mae rhaid i'r Awdurdod brosesu'ch cais cyn iddo fe gael ei gymeradwyo. Os fyddwch chi ddim wedi clywed gan yr Awdurdod Lleol o fewn cyfnod rhesymol, rhowch wybod am hyn gan ddefnyddio'r manylion cysylltu isod.
Costau
Y gost flynyddol am y drwydded yma yw £161.00. Bydd angen adnewyddu'r drwydded ar 1 Ionawr bob blwyddyn. Bydd rhaid i chi hefyd dalu ffi am arolygiad milfeddygol.
Amserlen
Er budd y cyhoedd, mae rhaid i'r Awdurdod brosesu'ch cais cyn iddo fe gael ei gymeradwyo. Os fyddwch chi ddim wedi clywed gan yr Awdurdod Lleol o fewn cyfnod rhesymol, rhowch wybod am hyn gan ddefnyddio'r manylion cysylltu isod.
Cyflwyno cais
Mae modd i chi gyflwyno cais ar-lein a thalu'n electronig (os oes angen). Fel arall, mae modd i chi gael ffurflen gais drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.
Cadarnhad ein bod ni wedi derbyn eich cais
Os byddwch chi'n cyflwyno cais ar-lein, byddwch chi'n derbyn cadarnhad unwaith ein bod ni wedi derbyn y taliad yn llwyddiannus. Byddwch chi, wedyn, yn derbyn neges e-bost yn nodi bod eich cais yn cael ei brosesu.
Os byddwch chi'n anfon cais i'r Adran Trwyddedu, byddwch chi, o fewn saith o ddiwrnodau gwaith, yn derbyn llythyr o gadarnhad bod eich cais yn cael ei brosesu, ynghyd â derbynneb.
Os byddwch chi'n dod â'ch ffurflen gais i dderbynfa ein swyddfa, byddwch chi'n derbyn derbynneb ar unwaith ac, o fewn saith o ddiwrnodau gwaith, byddwch chi'n derbyn llythyr sy'n cadarnhau bod eich cais yn cael ei brosesu.
Cofrestri cyhoeddus
I gael mynediad i'r gofrestr gyhoeddus, ffoniwch y Garfan Trwyddedu ar 01443 425001 i drefnu apwyntiad i weld y gofrestr yn ein swyddfeydd. Fel arall, anfonwch neges e-bost gan roi manylion eich dymuniad i Adran.Trwyddedau@rhondda-cynon-taf.gov.uk.
Rhagor o wybodaeth
Adran Trwyddedu
Tŷ Elái
Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY
Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301