Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi Datganiad Polisi Trwyddedu o dan Ddeddf Trwyddedu 2003.
Mae'r datganiad yn cynnwys gwerthu alcohol yn adwerthol, cyflenwi alcohol gan clwb neu ar ei ran, darparu adloniant rheoledig a darparu lluniaeth gyda'r hwyr.
Am ragor o wybodaeth am y Datganiad neu Ddeddf Trwyddedu 2003, ffoniwch y Garfan Trwyddedu ar 01443 744284 neu e-bostio Adran.Trwyddedau@rhondda-cynon-taf.gov.uk.
Mae Adran 5 o Ddeddf Trwyddedu 2003 yn gosod gofyniad ar bob Awdurdod Trwyddedu o ran trwyddedau gwerthu alcohol, darparu adloniant a darparu lluniaeth hwyr y nos.
Mae'r datganiad polisi trwyddedu presennol wrthi'n cael ei adolygu. Mae'r Datganiad Polisi drafft ynghlwm er mwyn i chi ei ystyried. Mae'r Awdurdod yn awyddus i ymgynghori mor eang â phosibl gan fod gwerthu, cyflenwi a bwyta alcohol yn effeithio ar sawl agwedd ar fywyd ein cymuned. Bydd yr Awdurdod yn ystyried yn
ofalus iawn yr holl ymatebion a dderbyniwyd.
Bydd yr ymgynghoriad ar agor o 24 Mehefin 2019 tan 2 Awst 2019.
Rhowch eich barn trwy gwblhau'r arolwg ar-lein - dolen yma:
Neu drwy anfon e-bost at consultation@rctcbc.gov.uk
Datganiad Polisi Trwyddedu 2020 - 2025 – Ymgynghoriad