Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i orfodi cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae'n rhan o ‘reolaethau swyddogol’ cenedlaethol y Deyrnas Unedig, sy'n cael eu goruchwylio a'u harchwilio gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Mae rhaid i awdurdodau lleol lunio cynllun sy'n nodi sut byddan nhw'n cyflawni'r swyddogaeth honno. Mae'r cynllun gwasanaeth bwyd a bwyd anifeiliaid yn cyflawni'r ddyletswydd honno ar gyfer y Cyngor, ac mae wedi'i ysgrifennu yn unol â Chytundeb Fframwaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd, sy'n seiliedig ar Godau Ymarfer statudol.
Yn ôl Deddf Diogelwch Bwyd 1990, a'r rheoliadau a wnaed o dan y ddeddf honno, mae'n drosedd i unrhyw un werthu neu brosesu bwyd i'w werthu sy'n niweidiol i iechyd. Maen nhw hefyd yn gosod rhwymedigaeth ar fusnesau i sicrhau bod eu gweithgareddau'n cael eu cyflawni mewn ffordd hylan.
Mae'r Cyngor yn gweithredu'r cynllun yn unol â gofynion Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013.
Mae rhagor o wybodaeth am ddeddfwriaeth hylendid bwyd ar gael ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Edrychwch ar Gynllun y Gwasanaeth Bwyd a Bwydo 2015-16 sy'n rhoi manylion am raglenni, gweithgareddau a strategaeth y flwyddyn sy'n ein galluogi i gynnig gwasanaethau gorfodi bwyd a bwydo i ddefnyddwyr a busnesau.
Carfan Materion Bwyd ac Iechyd a Diogelwch
Adran Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Tŷ Elái
Dwyrain Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY
Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301