Skip to main content

Trwydded Petrol

Mae petrol yn sylwedd peryglus. Mae'n hylif fflamadwy iawn a gall cynhyrchu anwedd mae modd ei losgi'n hawdd. Drwy beidio â'i drin yn ddiogel, mae'n bosibl iddo achosi tân difrifol a/neu ffrwydrad.

Mae petrol yn sylwedd peryglus. Mae'n hylif fflamadwy iawn a gall cynhyrchu anwedd mae modd ei losgi'n hawdd. Drwy beidio â'i drin yn ddiogel, mae'n bosibl iddo achosi tân difrifol a/neu ffrwydrad.

Mae hyn yn golygu mae perygl tân a/neu ffrwydrad bob tro mae ffynhonnell tanio gerllaw, er enghraifft fflam noeth, gwreichionen drydanol neu debyg. Oherwydd y risgiau hyn, mae storio petrol yn ddiogel yn rhan o ddeddfwriaeth. Os ydych chi'n storio petrol, mae'r ddeddfwriaeth yma'n berthnasol i chi.

Beth yw'r gyfraith ynglŷn â storio petrol yn ddiogel?

Daeth Rheoliadau Petrolewm (Cydgrynhoi) 2014 i rym ar 1 Hydref 2014 ac maen nhw'n berthnasol i:

  • gweithleoedd sy'n storio petrol ac yn ei ddosbarthu, sef gorsafoedd petrol sy'n safleoedd manwerthu neu fel arall; a
  • safleoedd sy'n storio petrol ond sydd ddim yn weithleoedd, er enghraifft, cartrefi preifat neu glybiau/gymdeithasau (neu debyg).

Awdurdodau Gorfodi Petrolewm (Awdurdodau Trwyddedu Petrolewm gynt) sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Petrolewm (Cydgrynhoi) 2014. Maen nhw hefyd yn parhau i orfodi Rheoliadau Sylweddau Peryglus ac Atmosfferau Ffrwydrol 2002 mewn gweithleoedd sy'n dod o dan Reoliadau Petrolewm (Cydgrynhoi) 2014. Mae hyn yn golygu does dim newid i'r trefniadau gorfodi presennol.

Mae materion storio petrol yn ddiogel a defnyddio petrol yn y gweithle hefyd yn dod o dan Reoliadau Sylweddau Peryglus ac Atmosfferau Ffrwydrol 2002.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu cysylltwch â'r tîm bwyd ac iechyd a diogelwch ar y rhif ffôn 01443 425001 neu e-bostiwch Food.HealthandSafety@rhondda-cynon-taff.gov.uk