Mae hawliau perchnogion cartrefi symudol yn dod o dan ddeddfwriaeth cartrefi symudol benodol. Mae hyn oherwydd bod gweithredwr safle yn berchen ar y tir y mae'r cartrefi'n sefyll arno, er bod perchnogion cartrefi symudol yn berchen ar eu cartrefi eu hunain. Mae perchennog y cartref symudol yn talu rhent i weithredwr y safle am ddefnyddio'r llain.
Daeth Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 i rym ar 1 Hydref 2014. Mae'r gyfraith yma yn diweddaru'r gyfraith sy'n bodoli eisoes, a sefydlwyd yn wreiddiol yn y 1960au ar gyfer cartrefi symudol preswyl. Mae wedi'i chynllunio i helpu i wella'r broses o reoleiddio'r diwydiant, fel bod cyflwr safleoedd cartrefi symudol yn cael ei wella a bod hawliau preswylwyr yn cael eu diogelu'n well.
Prif nodweddion y gyfraith newydd yw:
- Bydd yn ofynnol i berchnogion safleoedd wneud cais am drwydded gan eu hawdurdod lleol i weithredu safle. Bydd y drwydded yn para hyd at bum mlynedd.
- Bydd angen i reolwyr safle basio prawf 'person addas a phriodol' cyn cael trwydded.
- Ni fydd perchnogion safleoedd yn gallu rhwystro gwerthu cartref symudol mwyach. Bydd perchennog y cartref symudol yn rhydd i werthu eu cartref i bwy bynnag y dymunan nhw.
- Bydd awdurdodau lleol yn gallu archwilio safleoedd a rhoi hysbysiad cosb benodedig i berchnogion safleoedd os nad yw'r safle'n cael ei gadw mewn cyflwr priodol.
- Mewn achosion mwy difrifol, bydd awdurdodau lleol yn gallu rhoi hysbysiad cydymffurfio i berchnogion y safleoedd i sicrhau bod cyflwr y safle yn cael ei gynnal.
- Dim ond yn unol â Mynegai Prisiau Defnyddwyr y bydd modd cynyddu ffioedd ar gyfer lleiniau.
- Bydd perchnogion safleoedd a thrigolion yn gallu apelio i'r Tribiwnlys Eiddo Preswyl o dan rai amgylchiadau.
Mae copi o Ddeddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 a Nodiadau Esboniadol y Ddeddf i'w gweld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru .
Gweithredu
Er bod y Bil wedi dod i rym ym mis Tachwedd 2013, roedd cyfnod pontio o bron i 12 mis cyn i'r holl ddarpariaethau ddod i rym ar 1 Hydref 2014. O 1 Hydref, mae gan awdurdodau lleol chwe mis i ail-drwyddedu pob safle (erbyn 1 Ebrill 2015) a bydd gan berchnogion safleoedd 12 mis i wneud a chyflwyno rheolau safle newydd (erbyn 1 Hydref 2015).
Trwyddedau Safle
Rhaid i bob safle cartrefi symudol gael trwydded safle gan yr awdurdod lleol ar barc gyda chaniatâd cynllunio perthnasol. Mae gan awdurdodau lleol chwe mis i ddirymu ac ail-drwyddedu pob safle erbyn 1 Ebrill 2015.
Safonau Enghreifftiol
Mae Safonau Enghreifftiol 2008 ar gyfer Safleoedd Carafanau yng Nghymru yn nodi'r cyflwr 'a ddisgwylir fel arfer fel mater o arfer da ar safleoedd.' Maen nhw'n berthnasol i garafanau preswyl yn unig ac mae modd iddyn nhw gwmpasu meysydd fel cynllun parciau cartrefi symudol a darparu cyfleusterau, gwasanaethau ac offer ar eu cyfer. Cyflwynodd y safonau yma nifer o newidiadau. Roedd y mwyaf arwyddocaol yn ymwneud â:
- delio â ffiniau safleoedd parc
- ei gwneud yn fwy eglur beth ddylai gael ei ganiatáu o fewn y gofod 6 metr rhwng cartrefi, a beth na ddylai gael ei ganiatáu
- caniatáu parcio un car rhwng cartrefi
- ei gwneud yn ofynnol cael llawr concrid caled ar gyfer pob cartref
- ymestyn gofynion draenio'r parc i gynnwys y llain
- sicrhau bod ardaloedd cyffredin y safle yn cael eu cynnal a'u cadw mewn cyflwr da
- nodi'r safonau gofynnol ar gyfer cyflenwi dŵr, trydan, draenio a glanweithdra
- ei gwneud yn glir fod dim ond angen tir wedi'i neilltuo ar gyfer gofod hamdden pan fydd plant yn byw yn y parc
Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Gwybodaeth fanwl am newidiadau allweddol yn Neddf 2013
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu taflen ar gyfer preswylwyr safleoedd gyda'r bwriad o roi trosolwg defnyddiol o'r newidiadau allweddol sy wedi'u nodi yn Neddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.
Rydyn ni wedi cynhyrchu cyfres o daflenni gwybodaeth sy'n egluro'n fanylach y newidiadau penodol:
Cartrefi Symudol - Gwybod Eich Hawliau
Mae'r daflen yma yn rhoi gwybodaeth bwysig i chi am y newidiadau i'r gyfraith yn dilyn cyflwyno Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013.
Ffurflenni a phrosesau
Mae'r ddeddfwriaeth newydd yn cyflwyno ffurflenni statudol y mae rhaid eu defnyddio wrth werthu a rhoi cartref symudol yn anrheg, newid ffioedd ar gyfer llain a diwygio rheolau safle.
Mae rheoliadau'n rhagnodi'r ffurflenni y mae RHAID eu defnyddio ar gyfer pob un o'r prosesau hyn. Mae'r ffurflenni canlynol ar gael i chi eu llenwi a'u hargraffu.
Cysylltu â ni
Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301
Neges Destun: 07781 489133
E-bost: iechydycyhoeddathai@rhondda-cynon-taf.gov.uk