Rheoli Ansawdd Aer Lleol
Gan gydnabod pwysigrwydd ansawdd aer, mae Carfan Diogelu'r Amgylchedd a Safonau Tai yn asesu ansawdd aer yn yr awyr agored yn rheolaidd yn Rhondda Cynon Taf. Dros amser, mae'r asesiadau yma wedi nodi'r llygryddion aer mwyaf perthnasol ar gyfer sylw'r cyhoedd:-
- Mae Nitrogen Deuocsid [NO2] yn nwy sydd, fel arfer, yn annatgeladwy i fodau dynol ar y lefelau isel iawn sydd, yn aml, yn ein hamgylchedd. Gan amlaf, mae'n gysylltiedig â hylosgiad, er enghraifft ffwrneisiau diwydiannol, tanwydd solet domestig neu wres nwy, a thraffig ffordd petrol a diesel. Mae modd i’w lefelau fod yn uwch mewn ardaloedd trefol gyda phoblogaeth ddwys, yn ogystal â lleoliadau ger ffyrdd prysur iawn â llawer o gerbydau.
- Mae Deunydd Gronynnol [PM] yn gymysgedd o nifer o wahanol sylweddau solet y mae modd iddyn nhw fod yn yr aer rydyn ni'n ei anadlu. Does dim modd i fodau dynol weld Deunydd Gronynnol mân iawn, sy'n cael ei labelu'n PM10 a PM2.5 yn aml, ond mae modd ei anadlu a mae’n cyrff ni’n ei amsugno. Gall llawer o wahanol weithgareddau naturiol a dynol achosi Deunydd Gronynnol, gan gynnwys hylosgiad, traul wyneb ffyrdd, gweithgareddau amaethyddol, graeanu a'r gwynt yn casglu a symud Deunydd Gronynnol yn gyffredinol.
O ganlyniad i bwysigrwydd llygryddion aer penodol, mae Rheoliadau wedi pennu Amcanion Ansawdd Aer y dylai'r Cyngor fod yn effro iddyn nhw a gweithio tuag at eu cyflawni, lle bo modd. Felly, mae ansawdd aer wedi cael ei fonitro yn Rhondda Cynon Taf ers y 1990au ac mae'r Cyngor yn cyhoeddi adroddiad ar ansawdd aer lleol bob blwyddyn. Mae'r adroddiadau yma'n rhoi gwybodaeth am y broses statudol, data monitro lleol diweddar a dadansoddiad o'r ansawdd aer lleol. Yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi Adroddiad Cynnydd 2025.
Beth mae modd i chi ei wneud am Ansawdd Aer Lleol?
Mae nifer o gamau y mae modd eu cymryd i helpu i wella ansawdd aer lleol. Mae'n bosibl y bydd rhai o’r camau yma’n gofyn i'r Cyngor a'i bartneriaid gyflwyno newid lle bydd gofyn i ysgolion, cymunedau lleol, cartrefi ac unigolion gynnal camau gweithredu eraill.
Mae modd dod o hyd i wybodaeth gyffredinol ynglŷn ag ansawdd aer ar wefan 'Clean Air Hub'. Mae'r wefan hefyd yn cynnwys awgrymiadau o ran sut mae modd i chi wella ansawdd aer lleol a dyddiad y 'Diwrnod Aer Glân' nesaf.
Mae'r Cyngor hefyd yn croesawu gohebiaeth ac argymhellion gan y gymuned am gamau gweithredu lleol posibl y byddai modd eu cymryd i wella ansawdd aer lleol.
Monitro Ansawdd Aer
Mae gan y Cyngor rwydwaith o safleoedd monitro ansawdd aer ac mae’r Cyngor yn eu defnyddio er mwyn ennill dealltwriaeth well o ansawdd aer yn lleol. Mae modd gweld canlyniadau’r gwaith monitro ansawdd aer lleol, ynghyd â manylion y safleoedd ledled Cymru, ar wefan Ansawdd Aer Cymru.
Adroddiad Cynnydd 2025
Mae wedi cael ei ddangos bod gan y rhan fwyaf o sir Rhondda Cynon Taf ansawdd aer sy'n cydymffurfio ac mae hynny'n debygol o barhau yn y dyfodol. Gyda'r disgwyliad y gallai ansawdd aer barhau i wella ychydig yn y dyfodol agos, ac wrth i dechnolegau trafnidiaeth newydd gael eu mabwysiadu'n raddol, mae potensial i gael gwelliant cynaliadwy pellach i lefelau o leiaf rhai llygryddion aer yn y tymor hwy.
O edrych ar amgylchiadau lleol, gan gynnwys canlyniadau monitro, dros gyfnod estynedig, deellir mai dim ond rhai ardaloedd bach sy'n gysylltiedig â chyffyrdd ffyrdd trefol prysur, y rhwydwaith ffyrdd rhanbarthol neu ffynonellau lleol penodol sy'n debygol o gael ansawdd aer sydd ddim yn cydymffurfio yn ardal Rhondda Cynon Taf. Credir bod yr ardaloedd sydd mewn perygl – ardaloedd sydd yn hanesyddol yn gysylltiedig â lefelau uchel o NO2 – eisoes wedi cael eu cynnwys yn rhan o Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer [ARhAA] ac, yn wahanol i'r rhan fwyaf o leoliadau, mae'n bosibl fydd ansawdd aer yn yr ardaloedd yma ddim yn gwella mor gyflym ag ardaloedd eraill yn y tymor byr
Mae nifer o’r lleoliadau yn Rhondda Cynon Taf wedi cydymffurfio â'r Amcanion Ansawdd Aer blynyddol ar gyfer NO2 ers sawl blwyddyn felly mae nifer o'r lleoliadau yma wedi'u dirymu. Fodd bynnag, mae Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer (ARhAA) Cymer, Glynrhedynog, Canol Tref Aberpennar, Nightingales Bush, Canol Tref Pontypridd a Tylorstown yn parhau i weithredu, a hynny gan eu bod nhw’n debygol o barhau i beidio â chydymffurfio â'r Amcanion Ansawdd Aer blynyddol ar gyfer NO2 yn y tymor canolig, oni bai bod camau gwella wedi'u targedu yn cael effaith gadarnhaol yn y dyfodol.
Yn 2024 roedd modd i’r Awdurdod Lleol fonitro PM2.5 a PM10 yng Nglyn-coch, Pontypridd. Mae dadansoddiad o'r canlyniadau'n sail i'r dylanwad sylweddol tebygol y gallai gwahanol weithrediadau yn Chwarel Craig Yr Hesg ei gael ar PM10 yr arsylwyd arno yn lleol, er y gallai canlyniadau PM2.5 fod yn fwy annibynnol o ddylanwadau lleol. Er ei bod hi'n parhau i fod yn anodd rhagweld tuedd yn y dyfodol yng Nglyn-coch, ymddengys, ar hyn o bryd, fod y lleoliad yn parhau i gydymffurfio â'r cymedr blynyddol a'r cymedr dyddiol 24 awr o ran Amcanion Ansawdd Aer ar gyfer PM10. Serch hynny, gallai digwyddiad hinsoddol parhaus neu newid andwyol i ffynonellau deunydd gronynnol lleol fygwth y ddealltwriaeth yma. Felly, efallai y bydd angen monitro parhaus i sicrhau bod modd ystyried yn llawn unrhyw newidiadau yn y dyfodol, a allai effeithio ar lefelau PM10 yn lleol.
Mae'r Cyngor wedi cychwyn ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â dadansoddi Adroddiad Cynnydd 2025 a’i argymhellion. Os ydych chi eisiau rhoi sylwadau ar yr adroddiad yma, anfonwch nhw ar bapur neu drwy e-bost i'r cyfeiriadau isod: -
Ansawdd Aer
Materion Llygredd ac Iechyd y Cyhoedd
Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd
Tŷ Elái
Dwyrain Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY
E-bost: LlygreddyrAmgylchedd@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dod i ben ar 1 Rhagfyr 2025. Fydd sylwadau sy'n cyrraedd ar ôl y dyddiad yma ddim yn cael eu hystyried gan y Cyngor wrth drafod Adroddiad Cynnydd 2025 a'i argymhellion. Mae modd i'r holl sylwadau ddod yn fater o gofnod cyhoeddus ac, oni nodir yn wahanol, mae modd cyhoeddi enw a dynodiad y person sy'n gwneud y sylwadau, ynghyd â'r sylwadau.
Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer
Mae Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer yn cael eu cyhoeddi gan y Cyngor, drwy Orchymyn, dan Adran 83(1) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995. Yn sgil torri Amcanion Ansawdd Aer ar gyfer Nitrogen Deuocsid, mae 6 o Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer ar hyn o bryd o fewn ffiniau Rhondda Cynon Taf:-
- Ardal Rheoli Ansawdd Aer y Cymer
- Ardal Rheoli Ansawdd Aer Glynrhedynog
- Ardal Rheoli Ansawdd Aer Canol Tref Aberpennar
- Ardal Rheoli Ansawdd Aer Llwyn yr Eos
- Ardal Rheoli Ansawdd Aer Canol Tref Pontypridd
- Ardal Rheoli Ansawdd Aer Tylorstown
Mae'r Cyngor wedi llunio Cynlluniau Gweithredu Ansawdd Aer unigol, ar gyfer pob Ardal Rheoli Ansawdd Aer, sy'n nodi camau gweithredu sydd â'r modd i wella ansawdd yr aer ynddyn nhw a hyrwyddo nod y Cyngor i gydymffurfio â'r Amcan Ansawdd Aer perthnasol ledled Rhondda Cynon Taf.
Wrth roi'r Cynlluniau Gweithredu Ansawdd Aer ar waith, mae'n bosibl hefyd y bydd mwy o fuddion yn cael eu gwireddu, er enghraifft hyrwyddo dyletswyddau'r Cyngor ymhellach mewn perthynas â theithio llesol. Mae'r camau gweithredu sy'n cael eu nodi'n fanwl yn y Cynlluniau Gweithredu Ansawdd Aer yn cynnwys amrywiaeth eang o ddyheadau a mecanweithiau i effeithio ar ansawdd aer lleol. Mae rhai o'r camau gweithredu yn ymwneud yn benodol â’r Ardal Rheoli Ansawdd Aer, tra gall eraill wella'r Fwrdeistref drwyddi draw. Mae'r camau gweithredu wedi’u hamlinellu isod:
- Ymchwilio i newidiadau lleol posibl wedi'u targedu i reoli lefel bresennol y traffig er mwyn lleihau neu gael gwared ar y tagfeydd traffig mewn mannau risg uchel.
- Ystyried rhagor o gyfyngiadau aros a pharcio wedi'u targedu'n lleol, neu ddarpariaethau amgen, a'u gorfodi mewn mannau penodol i wella llif y traffig a lleihau tagfeydd.
- Aildrefnu lleol posibl ar gyfer safle bysiau i leihau effaith y bws yn aros ar dagfeydd traffig lleol.
- Cefnogi gostyngiad yn y cyflymder sy'n cael ei ganiatáu ar hyd rhan o'r A470.
- Cefnogi sefydlu Metro De Ddwyrain Cymru yn effeithiol a thrydaneiddio Rheilffordd Canol Cymoedd De Cymru.
- Annog newid ymddygiad ledled y Fwrdeistref drwy ddefnyddio adnoddau cyfredol a mecanweithiau polisi i annog rhagor o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus, rhannu ceir a chynllunio teithiau'n effeithlon.
Camau Gweithredu Ansawdd Aer
Mae'r Awdurdod Lleol yn parhau, pan fo'n bosibl, i weithredu neu i ddylanwadu ar weithredu camau yn ei Gynlluniau Gweithredu Ansawdd Aer, yn ogystal â chamau eraill a all wella ansawdd aer lleol yn gyffredinol. Serch hynny, oherwydd adnoddau cyfyngedig, ni fu'n bosibl gweithredu'r holl gamau gwella ansawdd aer ar unwaith. Serch hynny, mae’r camau gwella a gyflawnwyd yn ddiweddar yn cynnwys datblygu Metro De Cymru a chyflwyno tocynnau ‘tapio a mynd’, cwblhau Cynllun Deuoli’r A4119 Coed-elái, gosod mannau gwefru cerbydau trydan pwrpasol ychwanegol mewn meysydd parcio cyhoeddus, cyflwyno tocynnau bws rhatach (uchafswm o £1.50) ar gyfer teithiau o fewn Rhondda Cynon Taf yn ystod adegau penodol o'r flwyddyn, yn ogystal â chludiant addysg ôl-16-19 oed am ddim i unigolion cymwys, datblygu rhaglen waith fesul cam gwerth miliynau o bunnoedd i uwchraddio a gwella nifer o lwybrau teithio llesol a gosod rhwystrau rhannol gan ddefnyddio seilwaith gwyrdd (gwrychoedd a choed) yn Ysgol Gyfun Aberpennar.
Wrth edrych i'r dyfodol bydd yr Awdurdod Lleol yn parhau i symud ymlaen ag ystod o gamau gweithredu a mentrau. Mae'r rhain yn cynnwys dylunio a gweithredu sawl gwelliant arfaethedig posibl i wella priffyrdd er mwyn gwella'r sefyllfa wrth 'fannau cyfyng problemus', a phrosiectau i gynyddu defnyddioldeb ac ymwybyddiaeth o lwybrau teithio llesol ac opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy leol. Wrth gydnabod effeithiau posibl newid yn yr hinsawdd, a'r manteision y byddai modd eu gwireddu o roi dull cyfannol o ymdrin â materion amgylcheddol ar waith, mae'r Awdurdod Lleol yn parhau i ddatblygu strategaethau a rhaglenni newid hinsawdd lleol allweddol. Mae hyn wedi cynnwys datblygu Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan a rhaglen cynhyrchu ynni adnewyddadwy uchelgeisiol.
Cysylltwch â Ni
Llygredd ac Iechyd y Cyhoedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Tŷ Elái
Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY
E-bost: LlygreddyrAmgylchedd@rctcbc.gov.uk
Ffôn: 01443 425001