Mae tyrau oeri a chyddwysyddion anweddol wedi cael eu cysylltu â chlefyd y llengfilwyr (‘legionnaires' disease’). Yn unol â
Rheoliadau Hysbysu am Dyrau Oeri a Chyddwysyddion Anweddol 1992 mae angen i bob safle sydd â thŵr oeri gwlyb, cyddwysydd anweddol, neu'r ddau, hysbysu awdurdodau lleol ar ffurflen gymeradwy.
Prif bwrpas y broses hysbysu yma yw nodi ffynonellau risg posibl. Bydd hynny'n fodd i'r awdurdodau eu monitro a'u harchwilio'n rhwydd.
Yn ôl y rheoliadau, cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw cynnal a chadw cofnodion am systemau oeri gwlyb, ond mae'r cyfrifoldeb gorfodi mewn perthynas â safonau asesu a rheoli yn cael ei rannu gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (sef un o asiantaethau'r llywodraeth) ac awdurdodau lleol, yn dibynnu ar brif weithgaredd y safle.
Os ydych chi’n gweithredu'r cyfryw ddyfeisiau, cofiwch bydd yr Awdurdod Lleol a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn ymweld â'ch safle i wneud yn siŵr eich bod chi'n bodloni'r safonau. Os oes angen, byddan nhw'n cymryd camau i orfodi'r gyfraith.
Crynodeb o'r rheoliadau
Yn ôl Rheoliadau Hysbysu am Dyrau Oeri a Chyddwysyddion Anweddol 1992, mae'n rhaid i bob safle yn Rhondda Cynon Taf sydd â thyrau oeri neu gyddwysyddion anweddol gofrestru gyda'r Awdurdod Lleol.
Yn unol â'r rheoliadau hyn, mae hefyd eisiau i'r awdurdod lleol gael gwybod am unrhyw fwriad i ddatgomisiynu tyrau oeri a chyddwysyddion anweddol.
Meini prawf
- darpariaeth yn y ddeddfwriaeth.
Sut mae cyflwyno cais
Erbyn hyn, mae modd i chi gyflwyno cais ar-lein neu dderbyn ffurflen gais. Defnyddiwch y manylion isod.
Carfan Materion Bwyd ac Iechyd a Diogelwch
Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd
Tŷ Elái
Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY
Ffon: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301
Tyrau oeri yn Rhondda Cynon Taf
Sample Table
Enw a chyfeiriad | Nifer y tyrau |
Allevard Springs Ltd Uned 1 Parc Hen Lofa'r Cambrian Cwm Clydach CF40 2XX |
1 |
Beatus Cartons Ltd North Road Y Porth CF39 9SP |
1 |
EFTEC Ltd Rhigos Road Y Rhigos Aberdâr CF44 9UE |
1 |
PB Gelatins UK Ltd Uned A21 Severn Road Ystad Ddiwydiannol Trefforest Trefforest Pontypridd CF37 5SQ |
2 |
Prysmian Cables & Systems Cables Ltd Trecynon Aberdâr CF44 07D |
2 |
RPC Containers Ltd Parc Busnes Llantrisant Pont-y-clun CF72 8LF |
1 |
Sub Zero Ice Cream Ltd Ystad Ddiwydiannol Elái Trewiliam Tonypandy CF40 1RA |
2 |
Sunlight Clinical Solutions Parc Busnes Cwm Cynon Aberpennar CF45 4ER |
1 |
Y Bathdy Brenhinol Parc Busnes Llantrisant Llantrisant Pont-y-clun CF72 8YT |
2 |
United Plastics Group Ystad Ddiwydiannol Cwm Cynon Parc Busnes Cwm Cynon Aberpennar CF45 4ER
|
1 |
SPC Europe Ltd. Maerdy, Ferndale. CF43 4FP.
|
1 |