Mae amrywiaeth o weithgareddau diwydiannol wedi cael eu nodi yn
Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 a allai beri niwed i'r amgylchedd neu i iechyd pobl. Mae'r Rheoliadau yn pennu'r gweithgareddau yma (ac eithrio rhai gweithgareddau penodol) yn Gyfleusterau a Reoleiddir. Yn seiliedig ar eu nodweddion, caiff y Cyfleusterau a Reoleiddir yma eu priodoli i ddosbarth ac mae hyn yn pennu pa reoleiddiwr sy'n gyfrifol amdanyn nhw.
Dyma ddosbarthiadau Cyfleusterau a Reoleiddir: -
- gosodiad
- peiriant symudol
- peiriant llosgi gwastraff bach
- gweithgaredd allyrru toddyddion
- gweithrediad gwastraff
- gweithrediad gwastraff mwyngloddio
- gweithgaredd sylweddau ymbelydrol
- gweithgaredd gollwng dŵr
- gweithgaredd dŵr tir
- gweithgaredd risg llifogydd
O'r uchod, dyma'r dosbarthiadau o Gyfleusterau a Reoleiddir y mae'r Awdurdod Lleol fel arfer yn eu rheoleiddio o fewn ardal yr awdurdod hwnnw:-
- Gosodiad neu Beiriant Symudol "Rhan A2"
- Gosodiad neu Beiriant Symudol "Rhan B"
- gweithrediad gwastraff sy'n osodiad “Rhan B” neu'n Beiriant Symudol yn unig
- peiriant llosgi gwastraff bach
- gweithgaredd allyrru toddyddion
Cyn defnyddio Cyfleuster a Reoleiddir, rhaid i Ddefnyddiwr gael Trwydded Amgylcheddol drwy wneud cais i'r Rheoleiddiwr cywir.
Gwneud Cais am Drwydded Amgylcheddol
Dylai pawb sy'n gwneud cais am Drwydded Amgylcheddol neu gofrestriad Cyfleuster Eithriedig gysylltu â'r Rheoleiddiwr perthnasol i gael arweiniad. Rhaid defnyddio'r ffurflen gais gywir a rhaid rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen er mwyn galluogi'r Rheoleiddiwr i ystyried y cais yn llawn. Bydd amseroedd aros am Drwydded yn amrywio a gallai gymryd sawl mis. Mae'n bosibl y bydd yn cynnwys cyfnod o ymgynghori â'r cyhoedd. Bydd raid anfon pob cais gyda'r ffi gywir. Llywodraeth Cymru sy'n gosod y ffioedd ar gyfer Cyfleuster Rheoleiddiedig Awdurdod Lleol.
Ar ôl ystyried, bydd y Rheoleiddiwr naill ai'n cymeradwyo'r Drwydded Amgylcheddol gan nodi Amodau neu bydd yn gwrthod y cais. Caiff cais ei wrthod os bydd y Rheoleiddiwr yn penderfynu na fyddai'r Ymgeisydd yn debygol o fod yn Weithredydd y Cyfleuster Rheoleiddiedig neu fel arall yn methu â gweithredu’r Cyfleuster Rheoleiddiedig yn unol â’r Drwydded Amgylcheddol arfaethedig. Mae gan yr ymgeisydd yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.
Gwneud Cais
Mae modd cael ffurflen gais drwy anfon e-bost i'r cyfeiriad cyswllt isod neu mae modd cwblhau cais ar-lein drwy'r dolenni canlynol:-
Gwneud cais ar-lein am drwydded amgylcheddol Rhan A(2)
Gwneud cais ar-lein am drwydded amgylcheddol Rhan B
Gwneud cais am newid trwydded amgylcheddol
Y Broses Apelio
Mae hawl i Ddefnyddiwr apelio, er enghraifft, os bydd y Rheoleiddiwr yn penderfynu rhoi Amodau mewn perthynas â Thrwydded Amgylcheddol neu eu newid; os bydd yn gwrthod rhoi Trwydded Amgylcheddol neu'n ei newid; os bydd yn cyflwyno hysbysiadau penodol neu os bydd yn gwrthod trosglwyddo Trwydded Amgylcheddol. Mae apeliadau'n cael eu hystyried gan y gwasanaeth Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru [PEDW], ar ran Llywodraeth Cymru. Rhaid cyflwyno apêl yn ysgrifenedig i'r gwasanaeth Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru o fewn y cyfnod amser sydd wedi'i nodi a chan nodi'r rhesymau dros apelio. Mae'r amser sydd ar gael i wneud apêl yn amrywio yn dibynnu ar y math o apêl.
Meddu ar Drwydded Amgylcheddol
Caiff trwydded amgylcheddol ei rhoi yn amodol ar gydymffurfiaeth ag amodau'r Rheoleiddiwr. Mae angen yr Amodau yma i atal cymaint o lygredd â phosibl er mwyn diogelu iechyd cyhoeddus a'r amgylchedd. Mae'r Amodau yn cael eu pennu drwy ystyried y math o Gyfleuster a Reoleiddir ac, yn y mwyafrif o achosion, y Technegau Gorau sydd ar gael, er mwyn lleihau a rheoli llygredd, fel sydd wedi'u disgrifio mewn canllawiau statudol.
Mae'r amodau sydd ynghlwm wrth Drwyddedau Amgylcheddol ar gyfer Gosodiadau A2 a Pheiriannau Symudol yn effeithio ar reolaeth dros allyriadau i'r aer, y dŵr a'r tir. Bydd Amodau ar Drwyddedau Amgylcheddol ar gyfer Gosodiadau B neu Beiriannau Symudol, peiriannau llosgi gwastraff bach neu weithgareddau allyrru dyddoddion yn ei gwneud yn bosibl rheoli allyriadau i'r awyr yn bennaf neu yn unig.
Mae'n bosibl y bydd y Rheoleiddiwr yn newid Trwydded Amgylcheddol Bresennol os bydd amgylchiadau yn newid neu os caiff cais ei wneud gan y Defnyddiwr/Gweithredwr er mwyn sicrhau ei fod yn gyfredol ac yn berthnasol.
Os bydd Defnyddiwr/Gweithredwr Cyfleuster a Reoleiddir yn newid, mae modd trosglwyddo'r Drwydded Amgylcheddol i'r un newydd drwy wneud cais llwyddiannus.
Er mwyn cynnal y Drwydded Amgylcheddol mae'n ofynnol i'r deiliad dalu tâl cynhaliaeth flynyddol, sy'n cael ei bennu gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cyfleuster Rheoleiddiedig Awdurdod Lleol.
Gorfodi Trwydded
Ar ôl i Drwydded Amgylcheddol gael ei rhoi, bydd y Rheoleiddiwr yn archwilio'r Cyfleuster a Reoleiddir yn rheolaidd er mwyn gwirio bod y Defnyddiwr yn cydymffurfio ag Amodau'r Drwydded. Caiff lleiafswm amlder yr archwiliadau ei bennu yn unol â'r dull o asesu risg y mae Llywodraeth Cymru yn ei bennu.
Mae'n drosedd peri neu ganiatáu yn fwriadol i Gyfleuster Rheoledig weithredu heb y Drwydded Amgylcheddol briodol yn ogystal â methu â chydymffurfio ag Amod Trwydded Amgylcheddol neu fynd yn groes iddo. Mae modd i'r Rheoleiddiwr gymryd amrywiaeth eang o gamau gweithredu yn unol â'i Bolisi Gorfodi er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol.
Ildio Trwydded
Os bydd deiliad y Drwydded Amgylcheddol am stopio'r gweithgaredd, bydd raid iddo ildio'r Drwydded Amgylcheddol yn ffurfiol drwy ddefnyddio'r ffurflen gywir. Mae'n bosibl bydd methu â gwneud hynny yn arwain at ffioedd ychwanegol.
Y Gofrestr Gyhoeddus
Mae'r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol yn ei gwneud yn ofynnol i gadw Cofrestrau Cyhoeddus o wybodaeth berthnasol e.e. manylion cais am Drwydded Amgylcheddol a chanlyniadau monitro allyriadau Cyfleusterau Rheoleiddiedig.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal cofrestrau cyhoeddus ar gyfer y Cyfleusterau a reoleiddir ganddo sydd ar gael ar ei wefan.
Mae'r Cyngor hefyd yn cynnal Cofrestrau Cyhoeddus Trwyddedu Amgylcheddol ar gyfer y Cyfleusterau sy'n cael eu rheoleiddio ganddo. Mae mynegeion Cofrestrau Cyhoeddus Trwyddedu Amgylcheddol Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi'u cyhoeddi ar y dudalen we yma ac mae'r Cofrestrau Cyhoeddus ar gael i'w harchwilio rhwng 9am a 4pm yn ystod unrhyw ddiwrnod gwaith yr Awdurdod Lleol yn y cyfeiriad isod.
Ymgynghoriadau
Ar ôl cael ceisiadau penodol, bydd yr Awdurdod Lleol yn cynnal ymgynghoriad gyda'r sawl a allai fod â diddordeb, gan gynnwys y cyhoedd. Ar hyn o bryd mae'r Awdurdod Lleol yn cynnal ymgynghoriad ar y canlynol:-
Dim
Mae'r 'Gofrestr Trwyddedau Amgylcheddol Gyhoeddus' yn cynnwys manylion am bob cais ac mae modd gweld y rhain rhwng 9am a 4pm ar unrhyw ddiwrnod gwaith yr Awdurdod Lleol yn y cyfeiriad isod.
Rhaid anfon unrhyw sylwadau am y cais yma'n ysgrifenedig i'r cyfeiriad cyswllt isod, a rhaid iddyn nhw gyrraedd cyn dyddiad dod i ben yr ymgynghoriad, sydd wedi'i nodi uchod. Caiff cofnod ei gadw o bob sylw a chaiff ei gyhoeddi gydag enw'r unigolyn a'i gwnaeth, heblaw y mae wedi nodi'n benodol nad yw am i hynny ddigwydd.
Cysylltwch â Ni
Llygredd ac Iechyd y Cyhoedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Tŷ Elái
Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY