Skip to main content

Gwneud Cais am Drwydded Sgaffaldiau

Chewch chi ddim gosod sgaffaldiau, tyrau symudol neu blatfformau hydrolig ar briffordd gyhoeddus heb drwydded gan y Cyngor.

Crynodeb o'r Rheoliadau

Mae deddfwriaeth (sef Deddf Priffyrdd 1980, adran 169) yn gosod rheoliadau ar sgaffaldiau, tyrau symudol, neu blatfformau hydrolig sy'n cael eu gosod ar y briffordd gyhoeddus ar gyfer gwaith cynnal a chadw adeiladau. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol cael trwydded i wneud hynny. Gall trwyddedau fod yn ddilys am unrhyw gyfnod hyd at 14 diwrnod calendr. Os ydych chi am osod sgaffaldiau am gyfnodau hirach, rhaid cyflwyno ceisiadau ychwanegol a thalu amdanyn nhw. Wrth wneud unrhyw waith adeiladu/cynnal a chadw neu waith dymchwel ar eiddo sy'n agos i'r briffordd gyhoeddus (gan gynnwys ffordd, palmant neu lôn gefn), rhaid i ddiogelwch defnyddwyr y briffordd honno fod yn brif ystyriaeth. Caiff hynny ei gyflawni drwy ddynodi mannau diogel ar y llawr neu blatfform uchel.

Rhaid darparu llwybr i gerddwyr o amgylch y sgaffaldiau, y tŵr symudol neu'r platfform hydrolig. Os nad oes modd trefnu hynny, rhaid ei gwneud yn bosibl cerdded o dan/drwy'r sgaffaldiau ac ati'n ddiogel. Rhaid peidio â gadael unrhyw beryglon baglu nac unrhyw diwbiau neu osodiadau ymwthiol. Rhaid gosod gorchudd sy'n ddigonol i gynnal gwaith uwchben ac sy'n atal rwbel rhag cwympo drwodd. Rhaid tynnu sylw at bolion. Rhaid darparu lle rhesymol er mwyn galluogi pobl mewn cadeiriau olwyn, pramiau ac ati i fynd heibio i'r sgaffaldiau, y tŵr symudol, y craen cyrraedd brig coed neu'r platfform hydrolig yn ddiogel.

Gwneud cais

Bydd Carfan Gwaith y Strydoedd yn rhoi trwydded i gwmnïau sgaffaldiau yn unig oherwydd mae gan y cwmnïau hyn yr yswiriant atebolrwydd cyhoeddus sy'n ofynnol

Gwneud cais am drwydded sgaffaldiau drwy ddefnyddio'n ffurflen ar-lein

Noder:Rhaid i'r Awdurdod Lleol brosesu'ch cais a rhoi rhif trwydded i chi cyn bydd hawl gennych chi i osod y cyfarpar ar y briffordd. Os na fyddwch chi wedi clywed gan yr Awdurdod Lleol o fewn cyfnod rhesymol, rhowch wybod am hynny drwy ddefnyddio'r manylion isod.

Trosolwg

Mae angen i weithredwyr sgaffaldiau gofrestru eu manylion a'r dogfennau cysylltiedig i'w dilysu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Dim ond ar ôl i'r cais cofrestru gael ei ddilysu y bydd modd i'r gweithredwr wneud cais am drwydded(au) sgaffaldiau.

Cofrestru fel Gweithredwr Sgaffaldiau

I gofrestru fel gweithredwr sgaffaldiau, cwblhewch y ffurflen cofrestru gweithredwr sgaffaldiau ar ochr dde'r dudalen yma. Anfonwch y ffurflen yma, ynghyd â'r dogfennau perthnasol, mewn neges e-bost i SgipiauSgaffaldiau@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Costau

Mae gwneud cais am drwydded (sydd naill ai'n cael ei roi neu'i wrthod/ganslo neu fel arall) yn costio £34.20 ar hyn o bryd, a fydd dim modd ad-dalu'r gost yma. Bydd y drwydded yn ddilys am gyfnod o 14 diwrnod calendr. Bydd cyfnodau ar ôl hynny'n costio £34.20 (nad oes modd  ei ad-dalu) am 14 diwrnod calendr neu lai.

Amserlenni

Lleiafswm amser prosesu trwydded sgaffaldiau – dau ddiwrnod gwaith

Y Broses Apelio

Cysylltwch â Charfan Gwaith y Strydoedd.

Cwestiynau Cyffredin

A oes modd gosod sgaffaldiau/tyrau symudol/platfformau hydrolig ar balmant? Oes, cyn belled â bod yr arolygydd o'r farn nad oes perygl i gerddwyr na risg o ddifrod i'r llwybr troed.

A oes modd gosod sgaffaldiau/tyrau symudol/platfformau hydrolig ar lôn gefn? Oes, cyn belled â bod modd ei defnyddio o hyd, a bod yr arolygydd o'r farn nad oes perygl i gerddwyr.

Pa gyngor y gallwch ei roi i mi ar ofynion yn achos sgaffaldiau/dyrau symudol/blatfformau hydrolig? Tra caiff cyfarpar eu codi neu eu datgymalu, rhaid cynnal ardal weithio ddiogel ar y llawr a chadw cerddwyr allan o ardaloedd gweithio. Mewn canol trefi, mae'n bosibl y bydd raid cyflawni'r gwaith yma y tu allan i oriau gwaith arferol, sef ar ôl 6pm a chyn 8am, neu ar ddydd Sul. Bydd raid darparu llwybr i gerddwyr, a bydd rhaid ei gynllunio er mwyn ei gwneud yn bosibl cerdded o dan y sgaffaldiau a thrwyddyn nhw'n ddiogel. Rhaid cael gwared ar unrhyw beryglon baglu ac unrhyw diwbiau neu osodiadau sy'n ymwthio. Bydd rhaid gosod gorchudd digonol i gynnal gwaith uwchben ac sy'n atal unrhyw rwbel rhag cwympo drwodd. Bydd rhaid tynnu sylw at bolion, a bydd rhaid darparu lle rhesymol er mwyn galluogi pobl mewn cadeiriau olwyn/pramiau ac ati i fynd heibio i'r sgaffaldiau yn ddiogel.

Sut y gallaf i wneud cŵyn ar frys am leoliad sgaffaldiau/tyrau symudol/platfform hydrolig, neu am beryglon cysylltiedig â nhw? Rhowch wybod am unrhyw gŵyn frys am leoliad sgaffaldiau ac ati, neu am beryglon cysylltiedig, i Garfan Gwaith y Strydoedd y Cyngor drwy anfon neges e-bost i

Cwyno / gwrthwynebu

Os oes gennych chi gŵyn neu gwestiwn ynglŷn â materion sgaffaldiau / tyrau symudol / llwyfan neu blatfform hydrolig, cysylltwch â'r Garfan Gwaith y Strydoedd drwy anfon neges e-bost i SgipiauSgaffaldiau@rhondda-cynon-taf.gov.uk neu drwy ffonio'r Gwasanaethau i Gwsmeriaid ar 01443 425001 a gofyn am gofnodi cŵyn/gwrthwynebiad i'w drosglwyddo i'r Garfan Gwaith y Strydoedd.

Cofrestrau cyhoeddus

Ar hyn o bryd, does dim cofrestr gyhoeddus o drwyddedau sgaffaldiau sydd wedi'u cymeradwyo yn Rhondda Cynon Taf.

Rhagor o wybodaeth

Mae modd cael rhagor o wybodaeth drwy gysylltu â ni â'r manylion isod:

Isadran Gwaith y Strydoedd
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Tŷ Sardis
Heol Sardis
Pontypridd
CF37 1DU
Ffon: 01443 425001