Skip to main content

Trwydded Safle Hapchwarae

Mae Deddf Gamblo 2005 wedi creu system newydd ar gyfer trwyddedu a rheoleiddio hapchwarae masnachol (ac eithrio'r Loteri Genedlaethol a betio gwasgaredig).

Cafodd y Ddeddf Gydsyniad Brenhinol ar 7 Ebrill 2005. Mae'n trosglwyddo'r cyfrifoldeb am drwyddedu safleoedd betio o'r Ynadon i'r Awdurdod Lleol. Ymhlith y newidiadau eraill, mae’n rhoi cyfrifoldebau newydd ac estynedig i Awdurdodau Lleol am faterion trwyddedu safleoedd hapchwarae (gamblo). Mae'r cyfrifoldeb am faterion sy'n cynnwys betio, gemau casino a bingo, oedd yn gyfrifoldebau’r Ynadon Trwyddedu gynt, wedi trosglwyddo i Awdurdodau Lleol.

Cyngor Rhondda Cynon Taf yw'r Awdurdod Trwyddedu ar gyfer yr ardal yma erbyn hyn, ac mae wedi paratoi Datganiad o Egwyddorion sy'n nodi sut bydd y Cyngor yn ymdrin â cheisiadau ac ati yn ystod y tair blynedd nesaf. Mae'r polisi yma wedi'i baratoi ar ôl ymgynghori'n eang â grwpiau cymunedol, asiantaethau statudol ac aelodau o'r diwydiant, a'u cymdeithasu.

Bydd y 'Datganiad o Egwyddorion' hapchwarae newydd ar gyfer Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn dod i rym ar 31 Ionawr 2019. Cyn i’r ddatganiad neu'r adolygiad dod i rym, mae rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r Awdurdod Trwyddedu ei gyhoeddi ar wefan yr Awdurdod. Bydd hefyd angen i’r ddatganiad fod ar gael ar adegau rhesymol ar gyfer archwilio gan y cyhoedd mewn un neu ragor o lyfrgelloedd cyhoeddus yn yr ardal a gwmpesir gan y ddatganiad neu mewn mangre arall sydd wedi'i lleoli yn yr ardal honno. Rhaid i'r ddatganiad neu'r adolygiad gael ei gyhoeddi o leiaf bedair wythnos cyn y ddaw i rym.

Gellir weld copïau papur o'r Ddatganiad o Egwyddorion newydd o 3 Ionawr 2019 yn y mannau canlynol:-

  • Ty Elai, Dinas Isaf Dwyrain, Williamstown, Tonypandy, CF40 1NY
  • Llyfrgell Treorci, Station Rd, Treorci CF42 6UD
  • Canolfan gynghori iBobUn, Tŷ Sardis, Sardis Rd, Pontypridd, Morgannwg Ganol, CF37 1DU

Cliciwch yma i weld y Ddatganiad ar-lein.

Beth ydy Deddf Hapchwarae 2005 yn ei olygu?

Mae Deddf 2005 yn sefydlu system integredig ar gyfer trwyddedu safleoedd a rhoi trwyddedau.

Sut mae cyflwyno cais am drwydded neu hawlen?

Mae'r Cyngor yn gyfrifol am bob hawlen a thrwydded safle hapchwarae wedi'i rhoi ar ôl 1 Medi 2007. Bydd raid i unrhyw gais am roi neu adnewyddu hawlen neu drwydded safle hapchwarae, sy'n dechrau ar y dyddiad hwnnw neu ar ôl hynny, gael ei gyflwyno i'r Cyngor.

I ofyn am ffurflen gais, cysylltwch â'r Adran Trwyddedau. Mae'r manylion cyswllt ar waelod y dudalen yma.

Y Comisiwn Hapchwarae sy'n gyfrifol am drwyddedau personol a thrwyddedau gweithredwyr sydd wedi'u rhoi o dan Ddeddf Hapchwarae 2005. Gall y trwyddedau hyn gael eu rhoi gan y Comisiwn Hapchwarae yn unig. Mae dolen gyswllt i wefan y Comisiwn Hapchwarae ar gael ar waelod y dudalen yma.

Pa drwyddedau a hawlenni sydd ar gael dan Ddeddf 2005?

Trwydded safle:

  • safle casino (does dim ar y gweill yn Rhondda Cynon Taf)
  • safle bingo
  • safle betio, gan gynnwys traciau
  • canolfan peiriannau hapchwarae i oedolion (ar gyfer peiriannau      categorïau B3, B4, C a D)
  • canolfan adloniant i deuluoedd (ar gyfer peiriannau categorïau C a D      yn unig)
  • hawlen canolfan adloniant i deuluoedd (ar gyfer peiriannau categori D      yn unig)

Datganiad dros dro

Mae'n galluogi unigolyn i wneud cais i'r Awdurdod Trwyddedu mewn perthynas ag adeilad mae'n:

  • disgwyl ei adeiladu;
  • disgwyl ei addasu; neu
  • disgwyl cael hawl i'w feddiannu.

Hawlenni a ffioedd

Hawlen peiriannau hapchwarae ar gyfer safle â thrwydded alcohol

Os oes hyd at ddau beiriant ar y safle, does angen gwneud dim ond hysbysu'r Cyngor am bresenoldeb y peiriannau a thalu ffi hysbysu o £50.00. Os oes tri neu ragor o beiriannau ar y safle, mae angen hawlen peiriannau hapchwarae ar gyfer safle â thrwydded alcohol. Y ffi ar gyfer ceisiadau newydd yw £150. Bydd hefyd ffi flynyddol o £50.

Bydd raid i bob ymgeisydd fod yn ddeiliad trwydded alcohol fewnol.

Hawlenni hapchwarae â gwobrau

Mae'r hawlen hapchwarae â gwobrau yn para 10 mlynedd ac mae ffi o £300 ar gyfer rhoi hawlen newydd ac adnewyddu hawlen.

Hawlen canolfan adloniant i deuluoedd (ar gyfer peiriannau categori D yn unig)

Mae'r hawlen canolfan adloniant i deuluoedd yn para 10 mlynedd ac mae ffi o £300 ar gyfer rhoi hawlen ac adnewyddu hawlen.

Hawlen hapchwarae ar gyfer clwb a hawlen peiriannau hapchwarae ar gyfer clwb

Mae'r hawlen hapchwarae ar gyfer clwb a'r hawlen peiriannau hapchwarae ar gyfer clwb yn para 10 mlynedd (cyfnod amhenodol ar gyfer deiliaid tystysgrif safle clwb). Y ffi ar gyfer cyflwyno cais gan weithredwr cyfredol yw £100. Y ffi ar gyfer adnewyddu hawlen a rhoi hawlen newydd yw £200. Bydd hefyd ffi flynyddol o £50 (nid ar gyfer deiliaid tystysgrif safle clwb).

Yn ogystal â chyflwyno cais i'r Cyngor, bydd raid i bawb sy'n gwneud cais am hawlen hapchwarae ar gyfer clwb a hawlen peiriannau hapchwarae ar gyfer clwb hefyd anfon copi o'i gais at y Comisiwn Hapchwarae a phrif swyddog heddlu'r ardal (nid ar gyfer deiliaid tystysgrif safle clwb).

Hysbysiad o ddefnydd dros dro

  • Ar gyfer safle sydd heb drwydded safle, ond lle mae gweithredwr hapchwarae eisiau defnyddio'r safle ar gyfer darparu cyfleusterau hapchwarae dros dro.
  • Hyd at 21 diwrnod y flwyddyn ar gyfer y safle.

Hysbysiad o ddefnydd achlysurol

  • Ar gyfer betio ar drac heb orfod cael trwydded safle lawn.
  • Hyd at 8 diwrnod y flwyddyn (yn dechrau 1 Ionawr).
  • Bydd rhaid i'r hysbysiad gael ei gyflwyno gan unigolyn sy'n gyfrifol      am weinyddu achlysuron ar y trac neu gan feddiannydd y trac.

Cofrestru loteri cymdeithas fechan

Mae 'loteri cymdeithas fechan' yn loteri sydd wedi ei sefydlu a'i chynnal i ddibenion elusennol, â'r bwriad o alluogi pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon, athletau neu weithgareddau diwylliannol, neu eu cefnogi, neu i unrhyw ddiben arall heb fod yn fasnachol, ar wahân i fudd preifat.

Mae'r loteri'n fechan os yw cyfanswm gwerth y tocynnau sydd ar werth mewn un loteri yn £20,000 neu'n llai, ac os yw cyfanswm gwerth y tocynnau sydd ar werth yn ystod blwyddyn galendr yn £250,000 neu'n llai. Lle mae tocynnau ar gyfer un loteri yn fwy na £20,000 neu le mae cyfanswm gwerth y tocynnau i gyd mewn blwyddyn yn fwy na £250,000, mae'r loteri'n loteri cymdeithas fawr a bydd angen trwydded gan y Comisiwn Hapchwarae.

Y ffi am loteri cymdeithas fach yw £40 ar gyfer cofrestru yn y lle cyntaf ac mae ffi flynyddol o £20.

Amcanion trwyddedu

Mae disgwyl i bob awdurdod trwyddedu (sef Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn yr achos yma) gyflawni ei ddyletswyddau er mwyn ceisio hyrwyddo'r tri amcan trwyddedu:

Atal hapchwarae rhag bod yn ffynhonnell trosedd ac anrhefn, bod yn gysylltiedig â throsedd neu anrhefn, neu gael ei ddefnyddio i gefnogi trosedd

Sicrhau bod hapchwarae yn digwydd mewn modd teg ac agored

Amddiffyn plant a phobl eraill agored i niwed rhag cael eu niweidio neu eu hecsbloetio gan hapchwarae

Nod yr amcanion hyn yw sicrhau bod pawb sy'n rhan o'r gyfundrefn trwyddedu yn canolbwyntio ar nodau cyffredin. Mae hyn yn hanfodol wrth sicrhau cydbwysedd teg o ran buddiannau gwahanol a lles ein cymunedau mewn perthynas â gweithgareddau trwyddedig.

Beth am ffioedd trwyddedu a ffurflenni cais?

I weld y ffioedd sydd wedi'u pennu gan yr Awdurdod, cliciwch ar y ddolen berthnasol yn y blwch ‘Dogfennau perthnasol’. Mae ffurflenni cais ar gael drwy eu lawrlwytho oddi ar wefan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon neu drwy ffonio'r Adran Trwyddedau ar 01443 425001.

Carfan Trwyddedu

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf,

Tŷ Elái
Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301 Safle Hapchwarae