Skip to main content

Trwydded masnachu ar y stryd

Rhaid i unrhyw berson sy'n masnachu ar y priffyrdd yn Rhondda Cynon Taf fod wedi cael caniatâd masnachu ar y stryd gan yr Awdurdod yma. Mae hwn yn cael ei reoli gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982, Rhan III Atodlen 4.

Crynodeb o'r rheoliadau

Bydd rhaid cyflwyno cais am drwydded i'r Awdurdod Lleol. Bydd modd rhoi trwydded ar ôl cwblhau archwiliadau penodol. Mae'r ffi yn daladwy wrth gyflwyno'r cais, ac mae angen arnon ni un ffotograff lliw maint pasbort o'r ymgeisydd, ynghyd ag unrhyw gynorthwywyr sy'n cael eu henwi.

Meini prawf

Mae copi o'n hamodau llawn ar gael gan y Garfan Trwyddedu – gweler y manylion cyswllt isod.

Sut mae gwneud cais?

Lawrlwythwch y ffurflen gais ar gyfer Masnachu ar y Priffyrdd yn RhCT

Fel arall, mae modd i chi gael ffurflen gais drwy e-bostio'r Garfan Trwyddedu: Adran.Trwyddedau@rctcbc.gov.uk neu drwy ffonio 01443 425001.

Costau

Rhaid talu ffi i wneud cais. Mae'r ffi yn daladwy wrth gyflwyno'r cais. Dyma fanylion y ffioedd:

MATH O GAIS A FFIOEDD 2024/2025

Math o Gais HydFfi

Grant

 

12 mis

£1105

Grant

 

6 Mis

£644

Grant

 

3 Mis

£371

Cyflwyno trwydded

 

Hyd at bythefnos

£120

Adnewyddu trwydded

 

12 mis

£920

Adnewyddu trwydded

 

6 Mis

£552

Adnewyddu trwydded

 

3 Mis

£324

Amrywio

 

Unrhyw un o'r uchod

£100

Newid manylion

Unrhyw un o'r uchod

£10.50

 

Cwyno/gwrthwynebu

Hoffech chi gyflwyno cwyn, naill ai am Fasnachwr Stryd sydd wedi'i drwyddedu neu heb ei drwyddedu, neu am ein gweithdrefnau? Ffoniwch y Garfan Trwyddedu ar 01443 425001 neu e-bostiwch Adran.Trwyddedau@rctcbc.gov.uk