Mae’r HMRC yn cyflwyno gwiriad treth syml ar y 4ydd o Ebrill 2022 ac yn cychwyn pan bydd pobl yn adnewyddu eu trwyddedau i yrru tacsis, gyrru a gweithredu cerbydau hurio preifat, neu ddelio â metel sgrap.
Fydd hyn yn cael ei cefnogi gan system ddigidol newydd mae’r HMRC yn datblygu.
Bydd angen i chi gwblhau gwiriad treth pan fyddwch yn gwneud cais neu'n adnewyddu eich trwydded fel a ganlyn:
- gyrrwr tacsi (cerbyd hacni)
- gyrrwr cerbyd hurio preifat (a thrwyddedau deuol)
- gweithredwr cerbydau hurio preifat
- casglwr symudol gwerthwr metel sgrap
- safle gwerthwr metel sgrap
Darllenwch y daflen ffeithiau gwirio treth hon i ddeall yr hyn sy'n ofynnol, gan bydd hyn yn berthnasol i bob adnewyddiad ac ymgeisydd newydd.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am newidiadau i geisiadau am drwydded tacsis, hurio preifat neu drwydded metel sgrap o fis Ebrill 2022 neu cysylltwch â'r Tîm Trwyddedu.