Skip to main content

Carbon

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddod yn "Gyngor Carbon Niwtrall erbyn 2030".

Yn y flwyddyn ariannol 2023/24, roedd allyriadau nwyddau a gwasanaethau a brynwyd (cadwyn gyflenwi) yn cyfrif am 75% o gyfanswm ôl troed carbon y Cyngor.

Mae allyriadau cadwyn gyflenwi yn deillio o'r holl weithgareddau sy'n gysylltiedig â'r nwyddau a'r gwasanaethau y mae'r Cyngor yn eu prynu, ac adeiladu asedau cyfalaf newydd megis ffyrdd ac adeiladau. Mae’r pryniannau hyn yn cynnwys ‘carbon corfforedig’ – yr allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n gysylltiedig â’r broses gynhyrchu gyfan a chylch bywyd cynnyrch. Mae hyn yn cynnwys gweithgareddau cychwynnol y gadwyn gyflenwi megis echdynnu deunyddiau crai, gweithgynhyrchu a dosbarthu cynhyrchion, yn ogystal ag allyriadau ymhellach ymlaen megis yr allyriadau sy'n gysylltiedig â defnyddio nwydd neu wasanaeth a gwaredu'r cynnyrch hwnnw ar ddiwedd ei oes.

O hyn ymlaen bydd rhaid i ni ystyried ôl troed carbon y sefydliad a'r holl wasanaethau a nwyddau rydyn ni'n eu caffael yn rhan o'r fanyleb a'r gwerthusiad. Rydyn ni'n gofyn y tri chwestiwn yma i gyflenwyr a chontractwyr yn rhan o'r broses dendro:

Carbon Sero Net - 1

A oes modd i'ch sefydliad gyfrifo ei ôl troed carbon yn unol â'r Protocol Cyfrifo Corfforaethol Nwy Tŷ Gwydr?

Carbon Sero Net - 2

Os ydych chi wedi ateb 'oes' i'r cwestiwn cyntaf, nodwch eich ôl troed carbon blynyddol cyfredol. Os dywedoch chi 'nac oes', nodwch ‘ddim yn berthnasol’.

Carbon Sero Net - 3

A fyddai modd i'ch sefydliad gyfrifo ei ôl troed carbon yn unol â Phrotocol Cyfrifo Corfforaethol Nwy Tŷ Gwydr y contract yma?

Carbon Sero Net - 4

Beth mae eich sefydliad chi yn ei wneud i leihau ei ôl troed carbon?

Carbon sero net - 5

Pa gynigion fyddech chi'n eu rhoi ar waith i leihau'r allyriadau carbon sy'n rhan o'r contract yma? 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf hefyd yn dilyn canllaw Llywodraeth Cymru yn y Nodyn Polisi Caffael Cymru (WPPN) 12/21, gan ganolbwyntio ar ddadgarboneiddio trwy gaffael. Mae'r WPPN 12/21 yn rhoi cyngor i sector cyhoeddus Cymru ar y camau mae modd eu cymryd er mwyn mynd i'r afael ag allyriadau carbon deuocsid mewn cadwyni cyflenwi neu nwyddau a brynwyd er mwyn eu cynorthwyo nhw i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o fod yn Sector Cyhoeddus Sero Net erbyn 2030.

Mewn ymateb i'r WPPN 12/21, mae'r Cyngor wedi datblygu Cyfrifiannell Ôl Troed Carbon i fynd i'r afael ag allyriadau Cwmpas 3 sy'n cael eu cynhyrchu gan nwyddau a brynwyd a gwasanaethau'r Cyngor. Mae'r gyfrifiannell yn defnyddio data gwariant sylfaenol lefel 1 i gyfrifo allyriadau carbon deuocsid cyflenwyr unigol, ac yn darparu gwybodaeth am allyriadau cwmpas 1, 2 a 3 yn ogystal â chyfanswm eu allyriadau carbon i fusnesau.

Mae diffiniadau o allyriadau Cwmpas 1,2 a 3 wedi’u diffinio isod, gyda rhagor o wybodaeth wedi’i chynnwys yn Strategaeth Datgarboneiddio RhCT (2023 – 2025):

Cwmpas 1

Allyriadau uniongyrchol sefydliad, gan gynnwys

Cwmpas 2

Allyriadau anuniongyrchol sefydliad, gan gynnwys trydan a gwres a brynwyd.

Cwmpas 3

Allyriadau anuniongyrchol eraill sy'n gysylltiedig â sefydliad, gan gynnwys y gadwyn gyflenwi, trafnidiaeth a dosbarthu, teithio busnes a chymudo, defnyddio cynhyrchion, gwastraff, buddsoddiadau ac asedau ar brydles neu ryddfreintiau eraill.