Gall cam-drin, esgeulustod ac ecsbloetio gymryd sawl ffurf, efallai na fydd bob amser yn amlwg a gall fod yn gymhleth weithiau. Efallai na fyddwch chi'n ei weld yn digwydd, ond mae'n bosibl y byddwch chi'n sylwi ar arwyddion neu'n teimlo bod rhywbeth o'i le.
Diffiniadau Cyfreithiol
- Oedolyn sy'n agored i niwed: Unigolyn sy'n profi, neu sy'n agored i niwed, megis cam-drin neu esgeulustod, sydd angen gofal a chefnogaeth ac sy'n methu amddiffyn ei hun o ganlyniad.
- Plentyn sy'n agored i niwed: Plentyn sy'n profi, neu sy'n agored i niwed, megis cam-drin, esgeulustod, neu fathau eraill o niwed, ac sydd ag anghenion gofal a chymorth.
- Camdriniaeth: Yn cynnwys cam-drin corfforol, rhywiol, emosiynol, seicolegol neu ariannol mewn unrhyw leoliad, boed mewn cartref preifat, sefydliad neu rywle arall.
- Esgeulustod: Methu â diwallu anghenion corfforol, emosiynol, cymdeithasol neu seicolegol hanfodol unigolyn, sy'n debygol o amharu ar ei lesiant neu ei ddatblygiad.
Mae'n bwysig nodi bod y term 'yn agored i niwed' yn golygu NAD OES rhaid bod camdriniaeth neu esgeulustod wedi ddigwydd, ond y dylid ystyried ymyriadau cynnar i ddiogelu'r plentyn neu'r oedolyn sy'n agored i niwed er mwyn atal niwed, camdriniaeth ac esgeulustod gwirioneddol.
Dyma restr o enghreifftiau (sydd ddim yn gynhwysfawr) ar gyfer pob un o'r categorïau o gam-drin ac esgeuluso:
Categorïau cam-drin
- Cam-drin corfforol: Yn cwmpasu taro, bwrw, camddefnyddio meddyginiaeth, ataliaeth amhriodol, salwch ffug, neu gosbau anghyfreithlon. Mae cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru.
- Cam-drin Rhywiol: Yn cynnwys gweithredoedd rhywiol heb gydsyniad, gorfodi neu drin yn wael (manipiwleiddio). Yn cynnwys gweithredoedd corfforol ac anghorfforol fel ecsbloetio ar-lein.
- Cam-drin emosiynol neu seicolegol: Yn cwmpasu bygythiadau, rheolaeth orfodol, cywilydd, cam-drin geiriol neu hiliol, ynysu, neu gau drws i rwydweithiau cefnogol.
- Esgeulustod: Mae enghreifftiau’n cynnwys methu â darparu gofal hanfodol fel triniaeth feddygol, bwyd, lloches, hylendid, neu gefnogaeth emosiynol.
- Cam-drin Ariannol: Yn cynnwys lladrad, twyll, pwysau gormodol ynghylch ewyllysiau neu eiddo, a chamddefnyddio arian neu eiddo—yn effeithio'n bennaf ar oedolion sy'n agored i niwed ond gall hefyd effeithio ar blant.
Pryderon o ran Diogelu
- Cam-drin plant yn rhywiol : Denu plant i weithgarwch rhywiol a/neu gyfathrebu rhywiol, naill ai drwy gyswllt corfforol neu’n rhithiol, ar-lein a thrwy apiau neu dechnoleg arall, yn aml o dan ddylanwad neu dwyll.
- Cam-drin Domestig a VAWDASV: Cam-drin gan rywun sy'n adnabod y dioddefwr, gan gynnwys cam-drin emosiynol, rhywiol, ariannol, corfforol ac ymddygiad gorfodol a rheoli. Ystyrir bod gweld cam-drin o'r fath yn niweidiol i blant hefyd.
- Hunanladdiad a Hunan-niweidio: Wedi'i ddiffinio fel hunan-anafu neu wenwyno bwriadol, waeth beth fo'r cymhelliad. Achos sylweddol o orfod mynd i'r ysbyty a marwolaethau ymhlith pobl ifanc.
Mathau o Gamfanteisio
- Meithrin perthynas amhriodol ar-lein: Mae cam-drinwyr yn manteisio ar lwyfannau digidol i feithrin ymddiriedaeth gyda phlant a'u manipiwleiddio, yn aml yn guddiedig fel cyfoedion neu oedolion dibynadwy.
- Cam-fanteisio'n Rhywiol ar Blant: Gorfodi pobl ifanc i wneud gweithredoedd rhywiol er elw—gall ymddangos yn gydsyniol ond mae'n seiliedig ar fanipiwleiddio ac anghydbwysedd pŵer.
- Unigolion Coll: Gall unigolion, yn enwedig plant, nad yw eu lleoliad yn hysbys fod mewn perygl o niwed, cam-fanteisio, neu ymwneud â throseddu.
- Trais Ieuenctid Difrifol: Yn cynnwys troseddau treisgar difrifol sy'n cynnwys pobl ifainc (1–19 oed), yn aml yn gysylltiedig â gangiau, trais rhywiol, neu droseddau sy'n gysylltiedig ag arfau.
- Cam-fanteisio Troseddol: Manipiwleiddio neu orfodi unigolion, yn enwedig plant neu oedolion sy'n agored i niwed, i weithgareddau troseddol fel masnachu cyffuriau.
- Llinellau Cyffuriau a Throseddau Cyfundrefnol: Gangiau a rhwydweithiau sy'n ecsbloetio pobl i ddosbarthu cyffuriau rhwng ardaloedd gan ddefnyddio gorfodaeth, bygythiadau a thrais.
- Cogio (Cuckooing): Troseddwyr yn cymryd dros gartref person sy'n agored i niwed i'w ddefnyddio fel canolfan ar gyfer gweithgareddau anghyfreithlon, yn aml yn gysylltiedig â llinellau cyffuriau ac ecsbloetio.
- Caethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl: Yn cynnwys gorfodi i ecsbloetio rhywiol, llafur gorfodol, caethwasiaeth ddomestig, neu fasnachu organau. Mae'n bosibl na fydd dioddefwyr yn cydnabod eu bod yn cael eu hecsbloetio.
Arferion Niweidiol yn Ddiwylliannol
- Cam-drin yn seiliedig ar 'anrhydedd ': Trais a gyflawnir i amddiffyn anrhydedd teulu neu gymuned, a allai gynnwys cam-drin emosiynol neu lofruddiaeth.
- Priodas dan orfod: Priodas a wnaed heb ganiatâd llawn, a ystyrir yn fath o gam-drin. Gall effeithio ar wrywod a benywod.
- Anffurfio Organau Cenhedlu Benywod: Arfer niweidiol, anghyfreithlon sy'n cynnwys tynnu organau cenhedlu allanol benywaidd yn rhannol neu'n llwyr, sy'n aml yn achosi niwed corfforol a seicolegol gydol oes.
Eithafiaeth a Radicaliaeth
- Eithafiaeth: Gwrthwynebiad gweithredol neu leisiol i werthoedd Prydeinig gan gynnwys democratiaeth, parchu trefn y gyfraith, a dangos parch at ei gilydd; gall gynnwys annog trais neu gasineb.
- Radicaliaeth: Y broses lle mae unigolion yn dod i gefnogi ideolegau eithafol, a allai arwain at derfysgaeth.