Newidiadau i Gasgliadau Gwastraff Cyffredinol Masnach
Mae modd i ni gasglu eitemau mawr gan fusnesau a landlordiaid ar yr amod nad ydyn nhw'n rhy fawr neu'n rhy drwm h.y. (ni fydd eitemau sydd angen mwy dau berson neu graen yn cael eu casglu).
Unwaith byddwn ni'n gwybod lle rydych chi a beth sydd angen ei gasglu, byddwn ni'n rhoi pris i chi am gael gwared ar yr eitemau hynny. Bydd y gost ar gyfer casglu'r gwastraff, a chael gwared arno, yn seiliedig ar yr amser bydd yn ei gymryd, maint y cerbyd y bydd ei angen, a chostau cael gwared ar yr eitem. I ddechrau, bydd angen y manylion canlynol arnom ni:
- Eich enw
- Enw eich busnes
- Cyfeiriad y busnes, gan gynnwys cod post
- Y cyfeiriad anfonebu yn llawn, gan gynnwys cod post
- Eich rhif ffôn
- Manylion yr eitemau rydych chi am gael gwared arnyn nhw
- O ble y bydd angen casglu'r eitemau (Nid oes modd i ni gasglu eitemau o'r tu mewn i adeiladau)
Ar ôl rhoi gwybod i chi am gost y casgliad, byddwn ni'n cysylltu â chi i drefnu dyddiad addas i gasglu'r eitemau.
Mynnwch ddyfynbris a threfnu'ch casgliad gwastraff byd masnach mawr drwy ffonio 01685 870770