Mae cyflwyno Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle 2024 yn nodi gallwch ystyried Achlysuron (naill ai yn fasnachol neu’n gymunedol) a Gwyliau fel rhai annomestig ac felly mae’n bosib bydd rhaid i chi ddilyn gofynion “gwahanu” ailgylchu.
O dan y rheoliadau yma, mae rhaid i bob gweithgaredd masnachol ac achlysur cymunedol sicrhau bod gwastraff yn cael ei reoli mewn modd sy'n hyrwyddo ailgylchu o ansawdd uchel.
Ni ddylid cael gwared ar eitemau ailgylchadwy mewn ffrydiau gwastraff cyffredinol mwyach yn lle, mae rhaid eu gwahanu (a’u cadw ar wahân) fel y gweler isod:
Ffrwd Gwastraff Ailgylchadwy
|
Pa Fag?
|
Papur/cerdyn
|
Bagiau Byd Masnach Glas
|
Bocsys cardbord
|
Wedi’u pacio’n fflat mewn bwndeli sy’n hawdd eu trin
|
Cartonau, metel a phlastig
|
Bagiau Byd Masnach Coch
|
Bwyd (os yw dros 5kg)
|
Bagiau Bwyd Byd Masnach
|
Mae canllawiau ychwanegol ar decstilau, a nwyddau trydanol bach ond yr uchod fydd y mwyaf cyffredin mewn achlysuron dros dro.
Mae’r “Meddiannydd” yn cael ei ystyried yn gyfreithiol fel y Trefnydd dynodedig ar gyfer yr Achlysur, Cyngerdd, Gŵyl neu Sioe ac ati.
Os nad yw’r Meddianwyr yn cydymffurfio â'r gofynion gwahanu, gallai'r drosedd arwain at ddirwy a roddir gan y llys, heb unrhyw derfyn uchaf. Gall cosb sifil fod yn fethiant i gydymffurfio â’r gofynion gwahanu, yn lle erlyniad troseddol.
Mae meddianwyr hefyd yn gyfrifol am drefnu hyfforddiant, gwybodaeth, arwyddion a sicrhau bod bagiau ailgylchu Rhondda Cynon Taf ar gael ar gyfer yr holl staff, ymwelwyr a chontractwyr a bydden nhw’n parhau i fod yn gyfrifol am reoli a chyflwyno gwastraff ac ailgylchu (cydymffurfio) trwy gydol yr achlysur a gwaith glanhau’r achlysur dros dro. Mae hyn yn cynnwys gwneud trefniadau gyda'r Cyngor ar gasglu biniau ac ailgylchu.
Biniau Sbwriel a Gwastraff Bin Sbwriel
Bydd biniau sbwriel y Cyngor sydd wedi'u lleoli o fewn ffin achlysur ond sy'n dal mewn man cyhoeddus (e.e. sy’n ar hygyrch i'r cyhoedd), yn parhau i gael eu gwagio gan y Cyngor.
Bydd y Meddiannydd yn gyfrifol am wagio biniau (boed yn finiau'r Cyngor neu'n rhai preifat) sydd y tu mewn i ffin ardal yr achlysur (e.e. nad yw'n hygyrch i'r cyhoedd).
Bydd angen i'r Meddiannydd ddod o hyd i unrhyw finiau ychwanegol a'u hariannu. Mewn rhai achosion, efallai na fydd yn bosibl nac yn ymarferol gwirio bod y bin yn cynnwys y deunydd cywir. Fodd bynnag, rydyn ni’n argymell bob tro bod biniau ailgylchu ar wahân ar gyfer pob ffrwd gwastraff ailgylchadwy yn cael eu darparu mewn unrhyw leoliadau lle mae biniau sbwriel wedi'u lleoli. O ganlyniad gall y Cyngor, lle bynnag yn bosib, drefnu i “sbwriel wrth fynd” gael ei ailgylchu. Mae hyn yn dangos bod y Meddianwyr wedi gwneud popeth ymarferol sy’n rhesymol i sicrhau bod eitemau ailgylchadwy o ansawdd uchel wedi'u tynnu'n ôl o'r ffrydiau gwastraff cyffredinol.
Costau
1 Ebrill 2025 – 31 Mawrth 2026
Bagiau Byd Masnach
|
Cost
|
Bag Glas – Papur a Chardbord
|
£10.00 y rholyn (25 bag y rholyn)
|
Bag coch ar gyfer plastig a chynwysyddion
|
£10.00 y rholyn (25 bag y rholyn)
|
Bagiau Gwastraff Bwyd Byd Masnach
|
£10.00 y rholyn (25 bag y rholyn)
|
Bag brown ar gyfer gwastraff na allech ei ailgylchu
|
£61.25 y rholyn (25 bag y rholyn)
|
Biniau Olwynion Byd Masnach
|
Tâl am fenthyciad tymor byr* (hyd at 7 diwrnod)
|
240 litr (tua 4-5 bag du)
|
£16.53 y bin
|
660 litr (tua 8-10 bag du
|
£37.85 y bin
|
1100 litr (tua 13-15 bag du)
|
£58.70 y bin
|
*Yn cynnwys casglu a gwaredu
Dosbarthu a Chasgliadau Biniau / Bagiau
Bydd adran Gwasanaethau Gwastraff y Cyngor yn cadarnhau’r dyddiadau yma yn ystod y cam cynllunio gyda'r Meddianwyr. Bydd angen o leiaf 2 wythnos o rybudd ar y Gwasanaethau Gwastraff.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am reoliadau Llywodraeth Cymru, bwriwch olwg ar:
https://llyw.cymru/casglu-deunyddiau-gwastraff-ar-wahan-ar-gyfer-ailgylchu-cod-ymarfer-cymru