Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn annog pobl i gydymffurfio â'r gyfraith er lles ein cymunedau ehangach.
Pan fydd hyn yn cael ei danseilio, mae'r Cyngor yn gallu defnyddio pwerau cyfreithiol i ddiogelu cymunedau rhag niwed. Mae llawer o'r gwasanaethau o fewn y Cyngor yn cyflawni dyletswyddau gorfodi. Maent yn amrywio o gymorth a chyngor er mwyn annog cydymffurfiaeth, i gyflwyno hysbysiadau sy'n gofyn pobl i gyflawni camau gweithredu penodol, i gyflwyno hysbysiadau cosb, i gael gwaharddebau er mwyn atal gyflawniad gweithgareddau penodol neu i gael erlyniad. Mae gan orfodi effeithiol ran bwysig i'w chwarae wrth helpu'r Cyngor i gyflawni amcanion y Strategaeth Gymunedol.
Caiff gorfodaeth yn Rhondda Cynon Taf ei chynnal gan amrywiaeth eang o wasanaethau'r Cyngor megis:
- Gwasanaethau i Blant (gan gynnwys gorchmynion gofal, gorchmynion amddiffyn brys a diffyg presenoldeb yn yr ysgol);
- Ystadau Cymunedol (gan gynnwys ôl-ddyledion rhent a thresmasu);
- Addysg (gan gynnwys hawliadau budd-daliadau twyllodrus);
- Iechyd yr Amgylchedd (gan gynnwys hylendid bwyd, iechyd a diogelwch, tai, rheoli llygredd ac ysmygu);
- Cyllid (gan gynnwys ardrethi busnes a chamau gorfodi ynghylch Treth y Cyngor);
- Priffyrdd (gan gynnwys rhwystrau priffyrdd, sgipiau a sgaffaldiau);
- Adennill Tir (gan gynnwys draenio tir a mwyngloddiau a chwareli);
- Trwyddedu (gan gynnwys alcohol, sefydliadau anifeiliaid, gamblo, adloniant cyhoeddus a thacsis);
- Parciau a Chefn Gwlad (gan gynnwys is-ddeddfau parciau, hawliau tramwy cyhoeddus a gorchmynion cadw coed);
- Cynllunio a Rheoli Adeiladu;
- Gofal Strydoedd (gan gynnwys baeddu gan gŵn, tipio anghyfreithlon, gosod posteri'n anghyfreithlon, gollwng sbwriel, gwastraff masnach a gwastraff o gartrefi);
- Safonau Masnach (gan gynnwys iechyd anifeiliaid, masnachu teg, diogelwch bwyd, diogelwch cynnyrch a phwysau a mesurau);
- Cludiant (gan gynnwys meysydd parcio a gorfodi parcio oddi ar y stryd);
Diben y Polisi Gorfodi Corfforaethol hwn yw sefydlu dull gorfodi unffurf ym mhob rhan o'r Cyngor heb roi gormod o faich ar fusnesau, sefydliadau a defnyddwyr lleol, neu'r cyhoedd. Datblygwyd y polisi yn unol ag egwyddorion y Concordat Gorfodi a Chôd Cydymffurfio i Reoleiddwyr. Wrth wneud hyn rydym ni am nodi'n glir beth yw dull y Cyngor wrth orfodi’i bŵerau cyfreithiol.
Nod y polisi yw darparu cyfarwyddyd i swyddogion, busnesau, defnyddwyr a'r cyhoedd, drwy bennu'n glir beth yw dull gorfodi'r Cyngor, i gynorthwyo 'r gwaith o gyflawni ein Strategaeth Gymunedol.
Amcanion y polisi yw sicrhau fod pob gweithgaredd gorfodi yn bodloni'r meini prawf canlynol:
- Ymgymryd â nhw yn unol ag egwyddorion gwaith gorfodi da a bennwyd gan y Concordat Gorfodi.
- Bod yn gyson â'r Hawliau Confensiwn a bennir yn Neddf Hawliau Dynol 1988 ar gyfer amddiffyn hawliau'r unigolyn.
- Cael eu rheoli mewn ffordd effeithlon.
- Eu cymryd yn brydlon a heb oedi dianghenraid.
- Pob un o Wasanaethau'r Cyngor i ymgymryd â nhw mewn ffordd gyson.
- Ymgymryd â nhw mewn ffordd deg, annibynnol, a thryloyw, gan ystyried pob achos ar ei deilyngdod ei hun.
- Peidio â derbyn dylanwad gan liw, tarddiad ethnig, hil, anabledd, rhywioldeb, crefydd, statws priodasol, rhyw, oed, neu ddaliadau gwleidyddol.
- Peidio â derbyn dylanwad gan bwysau amhriodol neu anghyfreithiol ormodol o unrhyw ffynhonnell, neu gan arferion amhriodol neu anghyfreithlon gan y swyddog.
- Bod yn gydnaws â Chynllun Cymunedol y Cyngor ac â Chynllun Busnes pob Gwasanaeth.
Bydd raid i weithgareddau gorfodi'r Cyngor roi sylw i:
- Yr egwyddor yn y Concordat Llywodraeth Leol ar Orfodi Da
- Yr egwyddorion yng Nghôd Cydymffurfio ar gyfer Rheolyddion (ar gyfer rhai swyddogaethau penodol gan y Ddeddf Swyddogaethau Deddfwriaethol a Rheoleiddiol);
- Y profion tystiolaethol a budd y cyhoedd yn y Côd ar gyfer Erlynwyr y Goron
Mae'r polisi yn cynnwys yr amrediad canlynol o ddewisiadau gorfodi sydd ar gael i swyddogion y Cyngor:
- Camau a chyngor anffurfiol:
- Hysbysiadau statudol;
- Hysbysiadau Cosb Benodedig, Hysbysiadau Cosb am Anhrefn, a Hysbysiadau o Dâl Cosb a Hysbysiadau o Dâl Ychwanegol;
- Achosion atafaelu a fforffedu;
- Camau gwaharddol;
- Gwrthod, diddymu, adolygu ac atal trwyddedau a hawlenni;
- Gwaharddiadau;
- Gorchymyn atafaelu'r Ddeddf Elw Troseddau;
- Sancsiynau sifil o dan Deddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau;
- Rhybuddion syml;
- Erlyniadau;
Os oes gan unrhyw ddinesydd neu fasnachwr unrhyw ymholiadau ynglŷn â sut y mae'r Polisi Gorfodi Corfforaethol hwn wedi cael ei ddefnyddio mewn sefyllfa benodol pan fydd swyddog gorfodi'r Cyngor wedi eu cymryd neu'n bwriadu cymryd camau gorfodi mewn perthynas â hwy, dylen nhw gysylltu â rheolwr y tîm lle mae'r swyddog hwnnw wedi ei leoli. Bydd y swyddog gorfodi yn gallu rhoi'r manylion cyswllt ar gyfer y rheolwr perthnasol.