Mae masnachu teg yn cynnwys sawl rhan o gyfraith diogelu defnyddwyr, gan gynnwys Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg, Deddf Asiantau Eiddo, Deddf Dilysnodi, Deddf Nodau Masnach a sawl Deddf Seneddol arall.
Sicrhau ‘geirwiredd mewn masnach’ yw prif bwrpas y math yma o ddeddfwriaeth. Byddan nhw'n diogelu defnyddwyr rhag cael eu twyllo wrth drafod contractau i brynu nwyddau a gwasanaethau.
Byddwn ni'n sicrhau bod nwyddau a gwasanaethau i gyd yn cael eu disgrifio'n gywir, bod prisiau nwyddau'n cael eu nodi'n glir ac yn gywir, a bod masnachwyr yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth ar gredyd defnyddwyr, dilysnodi, asiantau eiddo a nodau masnach.
Gall y gwaith yma gynnwys:
- Gwirio garejis – ydyn nhw'n gwasanaethu neu'n atgyweirio ceir yn iawn?
- Rhoi prawf ar ddillad – ai cotwm go iawn ydyn nhw, neu ydyn nhw'n cynnwys deunyddiau synthetig?
Gwirio nwyddau brand – ydyn nhw'n rhai go iawn, neu'n rhai ffug?
- Archwilio modrwyau aur – ydy eu dilysnodau nhw'n gywir?
- Ymweld â darparwyr credyd – ydy’r trwyddedau cywir gyda nhw ac ydy eu hysbysebion a'u gwaith papur nhw'n cydymffurfio â gofynion y gyfraith?
- Ymchwilio i fasnachwyr sy'n gwerthu nwyddau drwy hysbysebion yn y papurau – ydyn nhw'n esgus bod yn werthwyr preifat?
Ymchwilio i sgamiau a masnachwyr twyllodrus – oes rhywun yn ceisio twyllo'r cyhoedd?
Taflenni ar gyfer defnyddwyr – rhagor o wybodaeth.
Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg
Mae'r rheoliadau hyn yn sicrhau bod disgrifiadau o nwyddau a gwasanaethau'n gywir. Rydyn ni wedi gwneud defnydd llwyddiannus o'r Ddeddf yn erbyn problemau cyffredin, megis ‘clocio’ ceir a ffugio nwyddau. Mae cwmpas y Ddeddf yn eang iawn ac mae'n cynnwys disgrifiadau ym mhob maes masnachu.
Mae croeso i chi gysylltu â'n Swyddogion Safonau Masnach ni. Mae'r manylion i'w gweld isod.
Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus
Mae'n darparu'r testun llawn ar gyfer Deddfau Seneddol er 1267, yn ogystal â mynediad i Inforoute, sef cofrestr asedau gwybodaeth y Llywodraeth.
Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (‘DEFRA’)
Mae'n gyfrifol am hanfodion bywyd – dŵr, bwyd, aer, tir, pobl, anifeiliaid a phlanhigion.
Safonau Masnach Canolog
Siop un stop am wybodaeth diogelu defnyddwyr yn y Deyrnas Unedig. Mae'n darparu gwybodaeth ar gyfer busnesau a defnyddwyr.
Tollau Tramor a Chartref Ei Mawrhydi
Mae'n darparu gwybodaeth a chyngor ar gyfer y cyhoedd a busnesau.
Y Swyddfa Masnachu Teg (‘OFT’)
Mae gyda'r Swyddfa ddau bwrpas: diogelu defnyddwyr, ac esbonio eu hawliau; a sicrhau bod busnesau'n cystadlu ac yn gweithredu mewn ffordd deg.
Yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau (‘BIS’)
Mae'n gweithio gyda busnesau, gweithwyr a defnyddwyr er mwyn cynyddu cynhyrchiant y Deyrnas Unedig a'i gwneud hi'n wlad fwy cystadleuol er mwyn sicrhau ffyniant i bawb.
Asiantaeth Safonau Bwyd (‘FSA’)
Mae'n gorff gwarchod annibynnol ym maes diogelwch bwyd. Mae'n diogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr o ran bwyd. Cafodd ei sefydlu drwy Ddeddf Seneddol yn 2000.
Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd
Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425301