Mae Rhondda Cynon Taf yn gweithredu fel 'Awdurdod Bwyd' o dan y Ddeddf Diogelwch Bwyd ac 'Awdurdod Bwyd Anifeiliaid' o dan y Ddeddf Amaethyddiaeth. Adran Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd ac Isadran Safonau Masnach sy'n gyfrifol am orfodi safonau bwyd a bwyd anifeiliaid.
Mae'r gwasanaeth yn ceisio sicrhau bod yr holl gynhyrchwyr, gweithgynhyrchwyr, mewnforwyr a manwerthwyr bwyd a bwyd anifeiliaid o fewn ardal yr awdurdod yn cydymffurfio â'u cyfrifoldebau cyfreithiol trwy raglen o ymyriadau a chyngor. Mae'r Cyngor o'r farn bod samplu yn arf bwysig, ac annatod, mewn gorfodi cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid am y rhesymau canlynol:
- Diogelu iechyd y cyhoedd
- Canfod ac atal gweithgareddau twyllodrus
- Cadarnhau bod gwiriadau rheoli swyddogol yn effeithiol
- Rhoi digon o wybodaeth i gwsmeriaid er mwyn caniatáu iddyn nhw wneud dewisiadau gwybodus
- Sicrhau bod safonau bwyd yn cael eu cynnal
- Llywio'r dull gorfodi
- Darparu cyngor ansawdd cynnyrch i'r cynhyrchydd
- Hyrwyddo masnach deg ac atal arferion gwael
Bydd y gwasanaeth yn gweithredu rhaglenni samplu bwyd a bwyd anifeiliaid yn flynyddol. Bydd y rhaglenni yn targedu cynnyrch y busnesau lleol, a chynhyrchion sy'n deillio o'r tu allan i'r awdurdod, ond sy'n cael eu cynnig a'u cyflenwi i fusnesau a defnyddwyr o fewn yr awdurdod.
Efallai bydd samplu fel hyn at ddibenion gorfodi, er mwyn rhoi arweiniad a chyngor i fusnesau lleol neu i arolygu’n gyffredinol y farchnad bwyd a bwyd anifeiliaid.
Bydd yr awdurdod yn darparu digon o adnoddau, o ran cyllid, swyddogion ac offer, er mwyn cyflawni'r rhaglen samplu bwyd a bwyd anifeiliaid flynyddol.
Mae'r Cyngor wedi penodi Public Analyst Scientific Services i ddarparu gwasanaethau Dadansoddydd Cyhoeddus ac Arholwr Bwyd ac Amaeth. Er mwyn sicrhau'r defnydd mwyaf effeithiol o adnoddau samplu, bydd y cyngor yn ceisio dilyn unrhyw gyngor gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac asiantaethau eraill.
Mae'r Cyngor yn cymryd rhan yn System Arolygu Bwyd y DU (FSSUK) sy'n fecanwaith casglu samplau a chanlyniadau wedi'i ariannu gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Mae data o'r System Arolygu Bwyd yn cael ei ddefnyddio i dargedu gweithgarwch samplu a chynghori'r cynghorau ar gael y gwerth gorau o adnoddau samplu. Efallai y bydd y dull samplu yn wahanol yn dibynnu ar y ffactorau sy'n arwain at y cynnyrch sy'n cael ei samplo, sef:
- a. Monitro Proses: Dydy monitro proses ddim yn cael ei ystyried yn faes blaenoriaeth Samplu Bwyd a Bwyd Anifeiliaid o fewn yr Awdurdod. Fodd bynnag, mae'n cael ei ystyried ar y cyd â phwyntiau b. ac c. isod.
- b. Cwmnïau Awdurdod Cartref ac Awdurdod Sylfaenol o fewn ardal yr awdurdod: Lle bo'n berthnasol, bydd samplu ar gyfer arolygon yn cynnwys rhai a gynhyrchir gan gwmnïau Awdurdod Cartref neu Awdurdod Sylfaenol. Lle mae cynnydd mewn math o gynhyrchydd bwyd / bwyd anifeiliaid yn ardal yr awdurdod, bydd angen ystyried llunio cynllun samplo er mwyn mynd ati i ganfod cydymffurfiaeth y cynhyrchion yma sy'n cael eu cynhyrchu o fewn yr awdurdod lleol.
- c. Arolygiadau ac Ymyriadau: Lle mae arolygiad neu ymyriad yn nodi efallai bydd cynnyrch yn groes i ddeddfwriaeth bwyd neu fwyd anifeiliaid, neu os bydd y swyddog o'r farn bod angen samplo. Mae modd hefyd cynnal arolygon samplo bwyd a bwyd anifeiliaid yn rhagweithiol yn ystod archwiliadau er mwyn lleihau nifer yr ymweliadau gorfodi i unrhyw un safle penodol. Ble bydd bwyd neu fwyd anifeiliaid wedi'i fewnforio bydd samplo yn cael ei ystyried. Yn ogystal â hyn, yn ôl graddfa risg ymyrraeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, mae modd i swyddog benderfynu mai samplo fydd y cam ymyriad nesaf.
- ch. Cwynion am Fwyd a Bwyd Anifeiliaid: Pan fydd cwyn gan ddefnyddiwr yn cael ei chofnodi, bydd y defnyddiwr yn cael ei gynghori ar gadw unrhyw ran sy'n weddill o'r bwyd / bwyd anifeiliaid a'r deunydd pacio neu label cysylltiedig hyd nes bod modd i swyddog fod yn bresennol i gasglu'r eitem. Efallai bydd angen defnyddio'r gweddillion/deunydd pacio fel tystiolaeth. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol bydd unrhyw gamau ffurfiol yn cael eu cymryd o ddadansoddiad sampl ar ôl cwyn defnyddiwr; fodd bynnag, bydd y swyddog yn ceisio prynu ail sampl 'rheolaeth' o'r un swp neu lwyth â'r sampl sy’n destun cwyn defnyddiwr. Bydd angen dadansoddi'r ddwy sampl ochr yn ochr â’i gilydd.
- d. Ymchwiliadau Arbennig: Pan fydd ymchwiliad i fwyd neu fwyd anifeiliaid yn mynd rhagddo, bydd samplau pellach yn cael eu cymryd er cynnydd yr ymchwiliad. Bydd y samplau yn gais i atgyfnerthu'r ymchwiliad neu i brofi amddiffynfeydd statudol. Yn ogystal â hyn, lle bydd gwybodaeth ynghylch mater twyll bwyd neu fwyd anifeiliaid cyfredol yn dod i'r amlwg, bydd yr awdurdod yn ystyried samplo er mwyn cynorthwyo unrhyw ymchwiliad cenedlaethol.
- dd. Rhaglenni Cydgysylltiedig Cenedlaethol, Rhanbarthol a Lleol: Lle mae'n ymarferol ac yn bosibl, bydd yr awdurdod yn ceisio cymryd rhan mewn rhaglenni samplo cydgysylltiedig cenedlaethol, rhanbarthol a lleol. Mae rhaglenni o'r fath yn anelu at roi darlun mwy ar gyfer adnoddau awdurdodau llai, ac mae modd iddyn nhw roi gwybodaeth mewn perthynas ag agweddau megis proses neu fonitro cynnyrch. Bydd ystyriaeth i'r rhaglenni cydgysylltiedig wedi'i chynllunio wrth baratoi'r rhaglen samplo bwyd a bwyd anifeiliaid yr awdurdod. Mewn amgylchiadau lle bydd yr awdurdod yn cael ei wahodd i gymryd rhan mewn rhaglen samplo gydgysylltiedig hanner ffordd drwy'r flwyddyn, bydd yr awdurdod yn gwneud pob ymdrech i gymryd rhan ac yn amnewid rhywbeth o'r rhaglen bresennol os oes angen. Lle bo'n berthnasol, bydd canlyniadau'r rhaglenni lleol yn cael eu bwydo i mewn i grwpiau rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn llywio rhaglenni samplo yn y dyfodol.
Yn ogystal â samplau a gaiff eu cymryd yn ffurfiol neu'n unol â Chodau Ymarfer, bydd yr awdurdod hefyd yn cynnal nifer o samplau anffurfiol neu sgrinio fel dull o gasglu gwybodaeth.