Mae Gwasanaeth Safonau Masnach Rhondda Cynon Taf yn dibynnu ar wybodaeth gan drigolion, busnesau ac asiantaethau eraill er mwyn ceisio amlygu masnachu anghyfreithlon ac annymunol, a'r rhai sy'n dioddef gweithgarwch o'r fath. Rydyn ni'n defnyddio'r wybodaeth yma i'n helpu ni i ddiogelu ein cymunedau a'n busnesau cyfreithlon.
Dyma rai o'r materion sydd o ddiddordeb arbennig i ni yn Rhondda Cynon Taf:-
- Masnachwyr sydd ynglŷn â chyflenwi tybaco ac alcohol anghyfreithlon – er enghraifft, cynhyrchion ffug, cynhyrchion nad yw'r dreth wedi'i thalu ar eu cyfer, cynhyrchion tybaco â labeli mewn ieithoedd tramor neu heb luniau na rhybuddion iechyd;
- Masnachwyr sy'n cyflenwi nwyddau ffug – er enghraifft, dillad, ffilmiau, gemau, persawr, gemwaith – mewn siopau, o'r cartref, yn y gweithle neu ar-lein;
- Masnachwyr sy'n galw heibio i breswylwyr sy'n agored i niwed ac yn cynnig gwasanaethau gwella'r cartrefi – er enghraifft, garddio, gosod toeon, gwaith ar y dreif ac ati.
- Masnachwyr sy'n cam-fanteisio ar breswylwyr sy'n agored i niwed - er enghraifft, gwerthu nwyddau neu wasanaethau sydd wedi'u cam-ddisgrifio neu sy'n rhy ddrud;
- Benthyca arian yn anghyfreithlon – sef ‘siarcod benthyg arian’;
- Masnachwyr sy'n gwerthu ceir sydd wedi'u clocio, sydd wedi'u cam-ddisgrifio neu sy'n beryglus, neu fasnachwyr sy'n esgus bod yn werthwyr preifat;
- Masnachwyr sy'n gwerthu nwyddau anniogel, neu nwyddau sy'n dod o dramor ac sydd ddim yn bodloni safonau diogelwch y Deyrnas Unedig;
- Masnachwyr sy'n cyflenwi cynhyrchion sydd â chyfyngiadau oedran i bobl ifainc – er enghraifft, tybaco, alcohol, cyllyll, toddyddion, tân gwyllt, ffilmiau neu gemau cyfrifiadurol;
- Sgamiau drwy'r post sy'n targedu preswylwyr (er enghraifft, llythyrau am ennill y loteri) neu gynlluniau gweithio gartref (er enghraifft, lle does dim gwaith ar gael);
- Twyll bwyd a diod, gan gynnwys amnewid rhywogaethau pysgod neu gig (er enghraifft, gwerthu pysgod gwyn rhad yn lle penfras, gwerthu brandiau alcohol rhad yn lle brandiau adnabyddus) neu ffugio gwlad tarddiad ac ati;
- Materion iechyd a lles anifeiliaid – er enghraifft, symud anifeiliaid fferm heb drwyddedau neu’u symud â dogfennau ffug, neu achosi dioddef diangen i anifeiliaid fferm, neu werthu anifeiliaid.
Os oes gennych chi unrhyw wybodaeth am bobl sydd, o bosibl, yn rhan o'r mathau yma o fasnachu, neu am bobl sydd wedi dioddef yn sgil y mathau yma o fasnachu, rhowch wybod i'r Gwasanaeth Safonau Masnach drwy lenwi ein ffurflen ar-lein. Weithiau, cyn i ni ddechrau ymchwilio ymhellach, bydd angen i ni ddod o hyd i ragor o wybodaeth er mwyn cefnogi'r wybodaeth byddwch chi wedi'i rhoi i ni. Os bydd rhagor o wybodaeth gennych chi ar ôl i chi gyflwyno'r ffurflen, bydd croeso i chi anfon adroddiad arall atom ni.
Mae modd i'r gwasanaeth yma ymchwilio i faterion yn Rhondda Cynon Taf yn unig, neu achosion lle mae'r masnachwr yn Rhondda Cynon Taf. Os ydy'r achos wedi digwydd mewn ardal arall, rhowch wybod am y mater i'r Gwasanaeth Safonau Masnach perthnasol.
Os oes gennych chi gwynion o safbwynt defnyddwyr – er enghraifft, problemau o ran nwyddau neu wasanaethau rydych chi wedi'u prynu – mae cyngor ar gael gan y gwasanaeth Cyngor ar Bopeth i ddefnyddwyr. Ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133 neu llenwch ffurflen ar-lein y gwasanaeth.